Pryder am effaith hirdymor costau byw ar les plant
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod llawer iawn o blant yn poeni am effeithiau'r argyfwng costau byw.
Yn ôl y ffigyrau, mae dros hanner plant a phobl ifanc rhwng saith a 18 oed yn poeni am beidio bod â digon o arian i wario ar y pethau maen nhw eu hangen.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Plant yn dweud bod yr angen "yn daer" am gynllun gweithredu ar dlodi plant gan Lywodraeth Cymru, rhywbeth maen nhw wedi galw amdano dro ar ôl tro.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "gwneud popeth o fewn ein pwerau i gefnogi'r rhai mwyaf bregus, gan gynnwys plant sy'n byw mewn tlodi" ond mai gyda Llywodraeth y DU y mae'r prif rymoedd i fynd i'r afael â thlodi plant".
Mae dros 4 miliwn o blant yn byw mewn tlodi drwy'r DU ar hyn o bryd, gyda Llywodraeth y DU yn credu fod hynny'n debygol o gynyddu'n sylweddol wrth i gostau byw godi eto y gaeaf hwn.
Roedd ffigyrau Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn dangos fod bron i draean (31%) o blant Cymru yn byw mewn tlodi - y canran uchaf o holl wledydd y DU - a bod y ffigwr hwnnw ar gynnydd.
Dywedodd 45% o blant 7-11 oed, a 26% o blant rhwng 12-18 oed eu bod yn poeni am gael digon i'w fwyta, gyda bron i 8,000 o blant yn cyfrannu at arolwg y Comisiynydd Plant.
Mae'r pryderon yn cael eu hategu gan rieni hefyd gyda 36% ohonyn nhw hefyd yn poeni am fwydo eu plant.
Roedd bron i ddwy ran o dair (61%) o blant 7-11 oed yn poeni nad oedd gan eu teuluoedd ddigon o arian ar gyfer y pethau sydd eu hangen arnynt, fel yr oedd dros hanner (52%) y plant 11-18 oed.
Bu disgyblion yn Ysgol Bro Caereinion, yn Llanfair Caereinion yn sôn am eu pryderon.
Dywedodd Medi: "Os dwi ddim yn cael cinio yn yr ysgol ac yn gael o o'r garej neu rywle arall dwi 'di sylwi bod o'n costio lot mwy nag oedd o o'r blaen, felly ie, dwi'n meddwl bod 'na wahaniaeth mawr."
Dysgu gyrru sydd ar feddwl James: "Dwi yn yr ysgol pump diwrnod yr wythnos felly dwi'n methu gweithio yn yr wythnos, a dwi bron byth yn cael dwy shifft ar y penwythnos, felly dwi ond yn ennill tua £35 yr wythnos.
"Dwi'n mynd i [fod yn] gyrru mewn tua chwe mis a dwi'n poeni am hynny wedyn."
Dywedodd Lucy: "Dwi'n gweithio ar y penwythnos ac yn yr wythnos, ond mae prisiau pethe'n codi yn gwneud gwahaniaeth."
Tra'i bod hi'n gofyn i'w rhieni am arian o bryd i'w gilydd, mae meddwl am y dyfodol yn ei phryderu: "Mae'n boenus mynd i'r brifysgol gyda phrisiau pethe'n codi."
Mae mynd i'r brifysgol ar feddwl Greta hefyd: "Dwi'n meddwl bod o yn poeni fi ychydig, achos 'da ni'n cael arian i fyw, ond hefyd mae'n rhaid i chi dalu am lle 'da chi'n mynd i fyw a phopeth fel'na felly mae'n rhaid i chi drio cadw arian nôl.
"Ti angen gweld cost byw, a dyma'r tro cynta i ti wneud rhywbeth fel hyn felly mae'n rhywbeth ti angen dysgu."
Yn ôl y Comisiynydd Plant, Rocío Cifuentes, mae canfyddiadau cynnar yr arolwg yn cynnig darlun "syfrdanol" o effaith yr argyfwng costau byw ar blant.
Daw'r canfyddiadau ddeuddydd yn unig ar ôl i bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd rybuddio bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bresenoldeb mewn ysgolion.
Galw am gynllun 'dro ar ôl tro'
Dywedodd Ms Cifuentes: "Hyd yn oed cyn yr argyfwng hwn roedd gennym ni nifer enfawr o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru.
"Rwyf wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru am gynllun gweithredu ar dlodi plant, rhywbeth rwyf wedi'i ailadrodd yn fy adroddiad blynyddol diweddaraf.
"Mae angen dirfawr i ni weld cynllun sydd â ffocws clir, ac sydd â thargedau i leihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n wynebu caledi - galwad sydd wedi ei gefnogi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
"Mae'n drawiadol ac yn syfrdanol gweld y lefel o bryder ymhlith plant a phobl ifanc am rai o'r pethau mwyaf sylfaenol.
"Mae'r rhain yn bethau na ddylai plant fod yn poeni amdanyn nhw. Rwyn bryderus iawn am yr effaith hirdymor posibl y gallai hyn ei gael ar eu lles."
Ychwanegodd bod "penderfyniadau mawr i'w gwneud ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwgu.
"Rydym wedi dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru, fel rhan o'n Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Mae cynllun brecwast am ddim i ysgolion cynradd hefyd wedi gweithredu yng Nghymru ers 2013.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i gefnogi'r rhai mwyaf bregus, gan gynnwys plant sy'n byw mewn tlodi. Eleni rydym wedi darparu £1.6 biliwn tuag at ddiogelu aelwydydd difreintiedig ac i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
"Fodd bynnag, mae'r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant - pwerau dros y system dreth a lles - yn eistedd gyda Llywodraeth y DU."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022