Comisiynydd yn methu taclo tlodi plant heb darged newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau newydd i leihau lefelau tlodi plant.
Dywedodd Rocio Cifuentes fod yr argyfwng mewn costau byw yn golygu y byddai'n annerbyniol peidio cael targedau newydd.
Roedd hi hefyd yn feirniadol o benderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ddileu'r taliad ychwanegol i Gredyd Cynhwysol.
Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd y byddai'n anodd iddi wneud ei swydd oni bai bod Llywodraeth Cymru'n gosod targedau newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth posib i ymateb i'r sefyllfa ond mai "cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn deall y pwysau ar deuluoedd a'u bod yn gwneud beth y gallant i helpu, gan gynnwys gwario £22bn dros y flwyddyn ariannol nesaf i helpu gyda biliau ynni a thanwydd.
Dywedodd Ms Cifuentes, a gychwynnodd yn ei swydd fis diwethaf, y gallai'r argyfwng costau byw gael "effaith drychinebus ar blant o bob rhan o Gymru".
Dywedodd ei bod am weld "cynllun clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut byddan nhw'n targedu plant â chefnogaeth".
"Rydyn ni'n gwybod bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith aruthrol ar blant a'u teuluoedd ar draws y wlad, ac y bydd hynny'n parhau."
Byddai'n anodd dal y llywodraeth i gyfri' heb dargedau newydd, meddai Ms Cifuentes.
"Gosod targedau clir ac uchelgeisiol yw rhan o'r ateb" meddai, gan ddweud bod y ffigwr o 31% o blant mewn tlodi yn dod o ddechrau'r pandemig.
"Y realiti heddiw yw bod hynny'n llawer iawn gwaeth a dydy hynny ddim yn rhywbeth dwi'n fodlon derbyn."
Tynnodd sylw hefyd at bolisïau ar draws y Deyrnas Unedig gan ddweud eu bod yn ychwanegu at y straen sydd ar deuluoedd.
"Roedd dileu'r cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol yn ergyd aruthrol i deuluoedd. Does dim rhesymeg o gwbl o blaid gwneud hyn ar adeg pan fo teuluoedd mewn cymaint o angen.
"Wnaeth sefyllfa ariannol teuluoedd ddim gwella'n sydyn wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio; mae angen yr arian yma ar bobl nawr yn fwy nag erioed.
"Rwy'n gobeithio cydweithio'n agos â'm cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn parhau i herio'r llywodraeth yn San Steffan ar y materion hyn."
Mae'r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi y bydd yna ymgynghoriad cenedlaethol newydd i "glywed am y materion sy'n fwyaf pwysig i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd".
Dywedodd y byddai hi'n treulio ei misoedd cyntaf yn y swydd yn gwrando ar farn a phrofiadau plant a phobl ifanc, a barn rhieni a gweithwyr proffesiynol, ac mae disgwyl y bydd arolwg cenedlaethol yn yr hydref.
Ymateb y llywodraethau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant - sef pwerau dros y system dreth a'r system les.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth posibl i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i holl blant Cymru fel y gallant gyflawni eu potensial.
"Mae'r pandemig a'r argyfwng costau byw wedi cael effaith enfawr ar bobl sy'n byw mewn tlodi ac yn agos at ffin tlodi.
"Ers mis Tachwedd, rydym wedi darparu mwy na £380m mewn cyllid ychwanegol i gefnogi aelwydydd sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn deall y pwysau ar gostau byw a'u bod yn gwneud beth y gallant i helpu, gan gynnwys gwario £22bn dros y flwyddyn ariannol nesaf i helpu gyda biliau ynni a thanwydd.
"I'r rhai sydd wedi eu taro galetach, rydym yn rhoi £1,000 yn ychwanegol ar gyfartaledd ar Gredyd Cynhwysol i bocedi teuluoedd sy'n gweithio.
"Rydym hefyd wedi cynyddu isafswm tâl cyflog o fwy na £1,000 y flwyddyn i weithwyr amser llawn ac mae ein Cronfa Cymorth Aelwydydd yno i helpu gyda chostau byw dyddiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2022