Parc cenedlaethol i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig

  • Cyhoeddwyd
Copa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr awdurdod mai'r bwriad ydy "diogelu a dathlu enwau Cymraeg yn y parc cenedlaethol"

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig ar gyfer Eryri a'r Wyddfa yn y dyfodol.

Fe wnaeth awdurdod y parc cenedlaethol bleidleisio o blaid cefnu ar y geiriau Snowdonia a Snowdon mewn cyfarfod ddydd Mercher.

O hyn ymlaen eu bwriad ydy defnyddio'r geiriau Eryri ac Yr Wyddfa yn Gymraeg a'r Saesneg.

Dywedodd yr awdurdod mai'r bwriad ydy "diogelu a dathlu enwau Cymraeg yn y parc cenedlaethol".

Mae'r awdurdod hefyd wedi penderfynu mabwysiadu dogfen Egwyddorion Enwau Lleoedd fel canllaw ar gyfer y defnydd o enwau lleoedd o fewn Eryri.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y newid i ddefnyddio'r enwau Cymraeg yn unig yn cael ei wneud dros amser

Daw'r penderfyniad wedi i ddeiseb â dros 5,000 o lofnodion gael ei chyflwyno i'r awdurdod ym mis Mehefin 2021 yn galw am ddefnyddio'r enwau Cymraeg yn unig ar gyfer Eryri a'r Wyddfa.

Dechreuwyd y ddeiseb yn sgil cynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts i'r awdurdod ollwng y defnydd o'r enwau Saesneg - Snowdon a Snowdonia.

Cafodd y cynnig hwnnw ei wrthod gan yr awdurdod ar y pryd am fod gweithgor eisoes wedi'i sefydlu ganddo i graffu ar y defnydd o enwau lleoedd.

Comisiynwyd Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd i lunio cyfres o egwyddorion i'w defnyddio fel canllaw ar gyfer ymdrin ag enwau lleoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a'r gobaith yw y bydd hynny'n cysoni'r enwau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y newid i ddefnyddio'r enwau Cymraeg yn unig yn cael ei wneud dros amser, meddai'r awdurdod, "wrth i gyhoeddiadau a deunyddiau dehongli'r awdurdod gael eu diweddaru".

Y gobaith yw y bydd hynny'n rhoi cyfle i bobl ddod yn ymwybodol o'r drefn newydd a "pharhau i allu dod o hyd i'r wybodaeth y maent eu hangen yn rhwydd".

Er y newid, mae'r enwau Cymraeg a Saesneg ar awdurdod y parc cenedlaethol wedi'i gofnodi mewn cyfraith, ac felly bydd yn rhaid i'w holl ddogfennau statudol barhau i gynnwys yr enwau yn y ddwy iaith.

'Ystyried y neges rydym am ei chyfleu'

Dywedodd pennaeth treftadaeth ddiwylliannol yr awdurdod, Naomi Jones fod nifer o gyrff cyhoeddus, cyfryngau iaith Saesneg a chwmnïau ffilmio eisoes yn defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig.

"Mae hyn yn hynod galonogol, ac yn rhoi hyder i ni y bydd y newid hwn yn ein hymdriniaeth ni â'r enwau yn cael ei derbyn er budd dyfodol yr iaith Gymraeg a pharch i'n treftadaeth ddiwylliannol," meddai.

"Mae gennym enwau hanesyddol y ddwy iaith, ond rydym hefyd yn awyddus i ystyried y neges rydym am ei chyfleu am enwau lleoedd, a'r rôl y byddant yn ei chwarae yn ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoes drwy hyrwyddo'r iaith Gymraeg fel un o rinweddau arbennig y parc cenedlaethol.

"Mae pwrpasau'r parciau cenedlaethol yn dynodi'r angen i ni warchod a gwella ein treftadaeth ddiwylliannol a rhoi cyfle i bobl ddysgu am a mwynhau'r rhinweddau arbennig.

"Trwy arddel yr enwau Cymraeg ar ein nodweddion tirweddol mwyaf nodedig rydym yn rhoi cyfle i bobl o bob cwr o'r byd ymgysylltu â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant cyfoethog."