Caerdydd: Cyn-hostel Nos Da wedi troi'n fan 'anniogel'

  • Cyhoeddwyd
Nos Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-safle hostel Nos Da reit dros yr afon o Stadiwm Principality

Mae cyn-hostel poblogaidd yng Nghaerdydd wedi troi yn fan "anniogel" ers iddo gau ar ddechrau'r cyfnod clo, yn ôl trigolion Glan-yr-Afon.

Y pryder mwyaf yw sbwriel a nodwyddau sydd wedi'u gadael ar lawr hen ardd gwrw'r dafarn, ar ddarn o dir sydd dan berchnogaeth Cyngor Caerdydd.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y cyngor gadarnhau wrth Newyddion S4C y bydd y tir ger hostel Nos Da, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn cael ei glirio.

Roedd Nos Da yn hostel a bar oedd yn denu nifer o ymwelwyr a phobl leol, ond dyw'r safle heb ailagor ers iddo gau ar ddechrau cyfnod clo'r pandemig.

Erbyn hyn mae 'na sbwriel ar hyd y llawr tu allan i'r safle, sy'n cynnwys caniau cwrw ac offer cymryd cyffuriau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sbwriel ar hyd y llawr tu allan i'r safle, gan gynnwys caniau cwrw ac offer cymryd cyffuriau

"Oedden ni'n dod yma lot, oedd e mor agos i dref," meddai Gwilym Hughes, sy'n byw yn lleol.

"Roedd o reit ar bwys lle oedden i'n byw, ro'n i'n cwrdd â lot o bobl dros y byd yma.

"Wedyn, o ran pêl-droed Cymru, dyma lle oedd ffans yn casglu ar gyfer y gemau oedd yn digwydd tu fas i Gymru.

"Mae e'n gutting really, does unman tebyg yn yr ardal rhagor. Mae e jyst yn drist iawn.

"Dyw e ddim y ffaith bod y lle yn edrych yn flêr a bach yn salw - ma' fe'n fater o iechyd cyhoeddus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwilym Hughes fod y sefyllfa bellach yn "fater o iechyd cyhoeddus"

Mae'r cwmni oedd yn gyfrifol am yr hostel bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mewn datganiad, dywedodd y cyn-berchennog, Siôn Llywelyn, fod hynny o achos Covid-19 a chyflwr yr economi.

Mae wedi bod yn gyfnod "arbennig o anodd", meddai, a gyda "chalon drom iawn" y bu i'r cwmni ddod i ben.

Troi'r safle yn gartrefi fforddiadwy?

Mae BBC Cymru yn deall mai'r bwriad nawr yw gwerthu'r adeilad.

Er bod yr adeilad yn nwylo preifat, mae un grŵp yn galw am newid y llety i ddarparu cartrefi fforddiadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tamsin Stirling y byddai'n "wych" gweld adeiladau problematig yn cael eu troi'n gartrefi fforddiadwy

"Rydym yn ymwybodol iawn am yr angen am gartrefi fforddiadwy," meddai Tamsin Stirling o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd.

"Rydym yn gweld llawer o gartrefi moethus yn cael eu codi mewn rhannau o ganol y ddinas.

"Dwi jyst yn meddwl y byddai'n wych pe bai dwy neu dair enghraifft lle mae adeilad problematig yn cael ei ddefnyddio - yn ddelfrydol ar gyfer cartrefi fforddiadwy, dan berchnogaeth y gymuned."