Gostyngiad dramatig yn nigartrefedd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
"Pan fydda i'n edrych yn ôl ar fy ngaeaf olaf ar y strydoedd, deffro gydag eira a rhew ar fy mag cysgu... cysgu ger John Lewis. O'n i'n deffro'n sâl, ond does gen i ddim y pryderon yna rhagor."
Roedd Kirk Lovell, 38, yn cysgu mewn pabell yng nghanol dinas Caerdydd pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.
Fe gafodd ei orfodi gan yr heddlu i symud i hostel yr YHA ond credai na fyddai'n aros yn hir.
Roedd wedi byw ar y strydoedd am y rhan fwyaf o'i fywyd ac wedi treulio cyfnodau mewn nifer o hostelau.
Ond roedd y tro hwn yn wahanol. Fe roddodd y gorau i gyffuriau ac erbyn hyn mae ganddo'r allweddi i'w fflat ei hun.
Galw am wneud newidiadau parhaol
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod wedi lleihau nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas o tua 80 ym mis Medi 2019 i tua wyth erbyn hyn.
Mae elusen ddigartrefedd Crisis wedi galw am barhad o'r newidiadau yn y gyfraith sydd wedi'u caniatáu i helpu pobl oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig i sicrhau nad yw'r nifer yn codi eto.
Cafodd Mr Lovell blentyndod anodd. Fe'i magwyd mewn gofal oherwydd bod ei rieni yn gaeth i gyffuriau. Fe gafodd ei "symud o amgylch cartrefi plant yn Lloegr" cyn rhedeg i ffwrdd pan oedd yn 16 oed.
Yn y diwedd, bu'n cysgu ar y stryd yn Nyfnaint a thua phum mlynedd yn ôl, bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei ymennydd.
"Roedd yn rhaid i fy mywyd newid yn sylweddol. Daeth teulu â mi'n ôl i Gaerdydd a cheisio gofalu amdanaf ond oherwydd fy ffordd o fyw a chyffuriau, es yn ôl i'r strydoedd," meddai.
Dwedodd wrth Gyngor Caerdydd ei fod yn ddigartref a chafod wybod y byddai'n rhaid iddo aros tair blynedd am gymorth er i'w dystysgrif geni ddweud iddo gael ei eni yn y ddinas.
Felly, fe gysgodd tu allan, o flaen drysau ac o dan bontydd a threuliodd amser i mewn ac allan o hostelau lleol.
Pan ddechreuodd y cyfnod clo fe'i symudwyd o'i babell i'r YHA.
"Yn fy mhen o'n i ddim yn meddwl y byddwn i'n aros, y byddwn i'n gwneud yr hyn o'n nhw'n ei ofyn ac yna y byddwn yn gadael," meddai.
"Ond cefais fy synnu, cefais dri phryd y dydd ac roedd y staff yn wych ac yn fy nhrin fel person cydradd," meddai.
Arhosodd Mr Lovell yn hirach yn yr YHA nag unrhyw hostel arall yr oedd wedi byw ynddi.
Ychydig wythnosau'n ôl, fe gafodd yr allweddi i'w fflat ei hun. Mae e wedi cysylltu â'i deulu eto ac mae wedi gobeithio cael swydd a gwneud ei ferch yn falch ohono.
Gwaith therapiwtig
Roedd Mr Lovell yn un o 187 o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd sydd wedi cael cymorth i gael llety ers mis Mawrth 2020.
Dywedodd y cyngor fod cydweithio gyda'r trydydd sector yn golygu y gallan nhw gynnig cymorth unigryw i bobl ddigartref.
Mae Gareth Edwards, un o weithwyr y cyngor, mewn tîm sy'n gwneud gwaith therapiwtig i helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ac ail-gysylltu â'r gymuned.
"Rydyn ni'n gallu ymyrryd [ar unwaith] ac mae pobl yn gallu dewis o amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael," meddai.
"Mae rhai yn teimlo eu bod yn barod i ymatal rhag sylweddau ac mae gweithiwr camddefnyddio sylweddau a chwnselydd i'w helpu.
"Os oes 'na broblemau iechyd meddwl, mae nyrs seiciatrig gymunedol wrth law. Mae rhywun yno bob amser i'w helpu."
Mae Hazel James o Lanelli yn helpu pobl ddigartref ar draws de Cymru drwy elusen Homeless Hope, ac er nad yw hi wedi gallu mynd allan a helpu yn ddiweddar oherwydd cyfyngiadau Covid mae hi'n dweud fod pobl yn dal i ffonio'r elusen am help.
"Ma' angen mynd mas a helpu pobl, ma' rhai so nhw mo'yn mynd mewn i fflats a hostels falle bo nhw 'di cwmpo mas 'da rhywun a bod rhywun wedi dwgyd rhywbeth, a ma' pobl yn iwso cyffuriau. Ond chi ffaelu barnu neb," meddai.
Yn ôl Crisis, mae angen dileu "rhwystrau", fel y rheolau ar gysylltiad lleol, yn barhaol fel bod pobl fel Mr Lovell yn cael cymorth cyn gynted â'u bod yn gofyn amdano.
Dywedodd y prif weithredwr Jon Sparkes fod gostyngiad dramatig wedi bod yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd a'u bod yn awyddus i sicrhau nad oedd y niferoedd yn codi eto.
Ymateb y pleidiau
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y byddan nhw yn "newid y ffodd y mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd fel y gallan nhw helpu pobl cyn eu bod ar y stryd".
"Byddwn yn buddsoddi mewn Cartrefi'n Gyntaf - un o'r cynlluniau mwyaf effeithiol i daclo digartrefedd - ac yn cynyddu'r Grant Cefnogaeth Tai o £25m dros gyfnod y Senedd," meddai llefarydd.
"Byddwn hefyd yn ehangu'r 'cynllun prydles sector preifat' lle gall landlordiaid preifat ddewis rhoi eiddo i gynghorau ar brydles pum mlynedd er mwyn darparu cartrefi i bobl ar incwm isel neu brofiad o ddigartrefedd."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Delyth Jewell: "Byddai llywodraeth Plaid Cymru'n ymrwymo i ddileu digartrefedd drwy osod yr hawl i gael cartref yn y gyfraith.
"Erbyn diwedd y tymor Senedd cyntaf, byddwn yn dileu'r system flaenoriaeth angen, darparu 50,000 o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol a sicrhau rhenti teg i'r dyfodol.
"Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n cynnig rhaglen lywodraethu gyda chyfiawnder cymdeithasol a deinamigrwydd economaidd wrth ei chalon."
Meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Byddai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno model 'cartrefi'n gyntaf' i gefnogi pobl ddigartref, yn penodi Comisiynydd Digartrefedd - yn ddelfrydol rhywun sydd wedi bod yn ddigartref - i weithio gydag eraill i daclo cysgu ar y stryd, ac yn dod â 150 eiddo cartrefi cymdeithasol yn ôl i ddefnyddio'n benodol ar gyfer pobl sydd mewn risg o fynd yn ddigartref."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae gan lywodraeth Lafur Cymru record balch o daclo digartrefedd. Yn 2014 fe wnaeth gyflwyno deddfwriaeth oedd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i geisio atal neu liniaru digartrefedd i bawb sy'n ymgeisio am gymhorthdal tai.
"Ers dechrau'r pandemig, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi cartrefu mwy na 7,000 o bobl mewn llety dros dro. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol a'u galluogi i ganfod llety diogel ac i gefnogi pobl sydd heb gartref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020