Nifer fwyaf erioed yng Nghymru o farwolaethau cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Cullan Mais
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Cullan Mais gymryd cyffuriau yn 15 oed, ac roedd yn gaeth i heroin erbyn diwedd ei arddegau

Mae elusennau wedi canmol Cymru am fynd ati mewn ffordd wahanol i ddelio â dibyniaeth ar gyffuriau, gan ganolbwyntio ar helpu yn hytrach na chosbi defnyddwyr.

Yn hytrach nac erlyn pobl am gymryd cyffuriau anghyfreithlon, lleihau'r niwed i'r defnyddwyr ydy'r flaenoriaeth.

Yn ôl elusen Kaleidoscope mae'r agwedd yma eisoes yn achub bywydau.

Serch hynny mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos cynnydd mawr yn nifer y marwolaethau yng Nghymru yn sgil cymryd cyffuriau fel heroin.

Cafodd 210 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn 2021, o'i gymharu â 149 yn 2020.

Dyma'r ffigwr uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1993, gyda nifer y marwolaethau'n uwch na'r 208 a gofnodwyd yn 2018.

Mae hynny'n gyfystyr â 72.4 o farwolaethau i bob miliwn o bobl yng Nghymru, o'i gymharu â 51.1 yn 2020.

Mae'r gyfradd ar y cyfan yng Nghymru'n uwch nag yn Lloegr (52.2%), er taw rhanbarthau gogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â'r cyfraddau gwaethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "gweithio'n agos gyda phartneriaid" ac yn rhoi £60m y flwyddyn i leihau dibyniaeth ar gyffuriau.

'Poeni am golli fy mywyd'

Fe ddechreuodd Cullan Mais, 30 oed o Gaerdydd, gymryd cyffuriau yn 15 oed, ac roedd yn gaeth i heroin ac yn defnyddio cocên erbyn diwedd ei arddegau.

Disgrifiad o’r llun,

Cullan Mais tra'n ceisio rhoi'r gorau i'w ddefnydd o gyffuriau

Dywedodd fod cyffuriau'n ffordd iddo ddelio ag OCD, gorbryder ac ADHD - cyflyrau na chafodd ddiagnosis ohonynt nes iddo fynd i'r carchar.

Er mwyn cael yr arian am gyffuriau roedd yn dwyn, ac o ganlyniad i hynny aeth i'r carchar ar 11 achlysur.

Roedd Cullan mewn cylch o aildroseddu ac ailddechrau defnyddio cyffuriau, ond newidiodd popeth pan fu farw ei ffrind o orddos, a bu'n rhaid i Cullan gael triniaeth yn yr ysbyty hefyd.

"Dyma'r tro cyntaf i fi wir boeni am golli fy mywyd," meddai.

Ar ôl pedair wythnos yn yr ysbyty cafodd yr opsiwn o gymryd cyffur newydd o'r enw Buvidal, wnaeth ei atal rhag dioddef mor wael o'r symptomau a ddaw wrth roi'r gorau i heroin.

Dywedodd Cullan fod y cyffur wedi galluogi iddo gael ei hunaniaeth yn ôl.

"Daeth fy hyder a fy uchelgais yn ôl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cullan bellach â phodlediad - The Central Club - ble mae wedi cyfweld â'r Prif Weinidog Mark Drakeford am bolisïau cyffuriau

Tra'n cydnabod nad ydy Buvidal yn ddatrysiad i bawb, dywedodd Cullan fod y cyffur wedi bod yn help enfawr iddo ef.

Erbyn hyn mae ganddo gariad, teulu, cartref a phodlediad - The Central Club - ble mae wedi cyfweld â'r Prif Weinidog Mark Drakeford am bolisïau cyffuriau.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyo'r defnydd o Buvidal yn 2019.

Mae'n gallu helpu pobl i roi'r gorau i heroin neu fethadon, ac mae chwistrelliad ohono yn gallu para hyd at fis.

Dywedodd Martin Blakebrough o Kaleidoscope: "Yr hyn mae Cymru'n ei wneud yn dda ydy deall fod cyffuriau yn fater iechyd cyhoeddus, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu mewn polisïau ac yn lleihau'r stigma o erlyn unrhyw un sy'n gaeth.

"Mae gweithwyr yng Nghymru yn cael eu dysgu i gydnabod fod y rheiny sydd â phroblemau cyffuriau yn aml wedi cael trawma ofnadwy yn eu bywydau."

Mwy o ganfyddiadau'r ONS

  • Roedd nifer y dynion fu farw (153) yng Nghymru yn sylweddol uwch na nifer y merched (57);

  • Roedd y gyfradd uchaf o farwolaethau ymhlith pobl rhwng 40 a 49 oed;

  • Roedd bron i hanner yr achosion o wenwyno â chyffuriau yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig ag opiadau - heroin a morffin gafodd eu crybwyll amlaf;

  • Cynyddodd nifer y marwolaethau yn sgil camddefnyddio cocên am y 10fed blwyddyn yn olynol, ac mae cynnydd mawr hefyd yn sgil defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd fel spice;

  • Mae'r ONS yn rhybuddio bod oedi cyn cofrestru marwolaethau wedi cynyddu yn ystod y pandemig a bod hynny'n debygol o fod wedi effeithio ar yr ystadegau. 325 diwrnod oedd hyd canolrifol yr oedi yng Nghymru y llynedd rhwng y farwolaeth a'r dyddiad cofrestru.

Cyn-ddefnyddwyr yn rhan o'r ateb

Mae rhoi profiad cyn-ddefnyddwyr cyffuriau ar waith er mwyn mynd i'r afael â cham-drin yn rhywbeth sydd wedi cael ei arloesi gan Kaleidoscope.

Mae Naloxone yn gyffur sy'n gallu atal pobl rhag cael gorddos.

Yn 2021 fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Gwent ariannu cynllun peilot i hyfforddi pobl sydd wedi bod yn gaeth yn y gorffennol i roi Naloxone i'r rheiny sydd mewn perygl o gymryd gorddos.

Roedd y peilot mor llwyddiannus bod cynllun hyfforddiant bellach wedi cael ei ymestyn ledled Cymru - y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu cynllun o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Mae George Charlton yn cael ei adnabod fel "y dyn Naloxone" oherwydd ei waith yn hyfforddi pobl i ddefnyddio'r cyffur

Un o'r rheiny sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ydy George Charlton.

Roedd yn arfer bod yn ddefnyddiwr cyffuriau, ond mae bellach yn cael ei adnabod fel "y dyn Naloxone" oherwydd ei waith yn hyfforddi pobl i ddefnyddio'r cyffur.

"Fel arfer dydyn ni ddim yn gweld y da mewn pobl sy'n defnyddio cyffuriau," meddai.

"Mae'r prosiect yma'n ail-fframio hynny ac yn dweud wrth bobl bod eu profiadau yn bwysig - mewn un ffordd, mae ganddyn nhw gymhwyster does 'na neb eisiau.

"Mae Cymru'n bendant yn arwain y ffordd, felly mae angen i bawb arall ddal lan."

Ymatebion llywodraethau Cymru a'r DU

Dywed Llywodraeth Cymru bod dibyniaeth ar gyffuriau'n fater na all gael ei daclo gan lywodraeth yn unig.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd bod "pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau'n drasiedi", bod y cynnydd diweddaraf yn niferoedd "yn destun pryder dwfn" ac mae'n fwriad i "ymchwilio i'r rhesymau wrth wraidd" y marwolaethau.

"Tan nawr roedd marwolaethau camddefnyddio sylweddau wedi gostwng i'r lefel isaf ers 2014.

"Rydym yn gweithio gyda'r GIG, yr heddlu ac elusennau i fynd i'r afael â chamddefnydd sylweddau ac yn buddsoddi dros £63m y flwyddyn, gan gynnwys ar gyfer prosiectau llwyddiannus fel Buprenorphine a Naloxone chwillstrelladwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU y bydd eu strategaeth "yn helpu ailadeiladu" gwasanaethau triniaeth ac adferiad yng Nghymru a Lloegr a mynd i'r afael â chadwyni cyflenwi troseddol.

Bydd hynny, meddai, yn helpu atal bron i 1,000 o farwolaethau, sicrhau 54,500 o lefydd triniaeth newydd - sef cynnydd o 19% - a chefnogi adferiad 24,000 yn rhagor o bobl.

Mae'r arian ar gyfer y strategaeth "yn adeiladu ar yr £80m" a roddwyd yn 2021, a gyfrannodd at "leihau marwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau trwy helpu gwasanaethau i ddosbarthu mwy o naloxone, sy'n gallu helpu gwrthdroi gorddosau cyffuriau opiad".

Pynciau cysylltiedig