Fferm solar Ysbyty Treforys yn arbed £1m mewn blwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Fferm solar
Disgrifiad o’r llun,

Mae cebl trydan enfawr yn rhedeg bron i ddwy filltir o'r fferm solar i Ysbyty Treforys

Mae ysbyty yn Abertawe wedi arbed £1m mewn blwyddyn ers iddo fod yr ysbyty cyntaf yn y DU i gael ei bweru'n uniongyrchol gan ei fferm solar ei hun.

Gyda 720 o welyau, canolfan gardioleg a'r unig ganolfan llosgiadau arbenigol yng Nghymru, mae angen llawer iawn o bŵer ar Ysbyty Treforys bob awr o'r dydd.

Eleni mae'r adran achosion brys yn unig wedi rhoi triniaeth i 50,000 o bobl.

Go brin y bod unrhyw un sydd wedi bod i'r ysbyty wedi meddwl dwywaith am sut mae'r ysbyty yn cadw'r goleuadau ymlaen ac yn pweru'r offer sy'n achub bywydau.

Mae pweru ysbyty yn ddrud ac yn gadael ôl troed carbon enfawr.

Arbedion wedi dyblu

Mae Ysbyty Treforys ar flaen y gad wrth geisio lleihau allyriadau carbon a chostau ysbyty mor fawr, tra hefyd yn sicrhau bod digon o drydan i barhau i gadw cleifion yn fyw.

Eleni, yr ysbyty oedd y cyntaf yn y DU i godi fferm solar bwrpasol.

Mae cebl trydan enfawr yn rhedeg bron i ddwy filltir o'r fferm solar ger safle'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2006, i bweru Ysbyty Treforys yn uniongyrchol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae GIG Cymru'n cynhyrchu miliwn tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn, sy'n golygu bod y gwasanaeth iechyd yn creu mwy o lygredd carbon na unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Treforys ydy'r cyntaf yn y DU i gael ei bweru'n uniongyrchol gan ei fferm solar ei hun

Cafodd y fferm solar ei chodi gyda benthyciad gan gynllun a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, sydd â'r amcan o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus erbyn 2030.

Bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe gyda'r arian y maen nhw'n ei arbed ar filiau trydan.

Roedd y bwrdd iechyd wedi rhagweld y byddai'r cynllun yn arbed tua £480,000, ond mae'r cynnydd ym mhris trydan yn golygu bod yr arbedion wedi dyblu i £1m.

Y cam nesaf yw ehangu'r fferm solar bresennol ac adeiladu batri i storio'r pŵer sy'n cael ei gynhyrchu.

Pan mae tywydd braf mae'r fferm yn cynhyrchu mwy o drydan na sydd ei angen ar yr ysbyty, ac mae'r bwrdd iechyd yn gwerthu'r gormodedd i'r Grid Cenedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Des Keighan y byddai storio'r gormodedd mae'r fferm solar yn ei gynhyrchu yn arbed hyd yn oed yn fwy

"Byddai adeiladu batri yn ein galluogi ni i storio unrhyw ormodedd a gwneud y mwyaf o'r arbedion mae'r fferm yn ei wneud," meddai Des Keighan, cyfarwyddwr cynorthwyol ystadau Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

"Er ein bod ni'n gallu gwerthu'r trydan nad ydyn ni'n ei ddefnyddio i'r grid, mae'r arbedion gawn ni wrth ei ddefnyddio ein hunain yn llawer mwy."

Mae'r ysbyty yn parhau i fod wedi'i gysylltu â'r grid, felly gyda'r nos pan nad ydy'r fferm yn cynhyrchu trydan, neu os oes nam, mae gan yr ysbyty bŵer bob amser.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Judith Paget yn obeithiol y bydd GIG Cymru'n torri allyriadau 34% erbyn 2030

Mae Judith Paget, prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn disgwyl gweld mwy o brosiectau fel hyn mewn ysbytai ar draws Cymru.

"Mae byrddau iechyd eraill yn ystyried ynni solar," meddai.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi addo torri allyriadau 34% erbyn 2030 ac mae Ms Paget yn dweud ei bod hi'n "optimistaidd" bod modd cyrraedd y targed.