Gwahardd gwerthu alcohol yn stadia Cwpan y Byd Qatar
- Cyhoeddwyd
Mae FIFA wedi cadarnhau na fydd alcohol bellach yn cael ei werthu yn yr wyth stadiwm fydd yn cynnal gemau Cwpan y Byd yn Qatar.
Roedd disgwyl byddai alcohol yn cael ei werthu "o fannau penodol" oddi fewn y meysydd, er bod gwerthiant yn cael ei reoli'n dynn yn y wlad.
Daw'r tro pedol ond ddeuddydd cyn gêm gyntaf y gystadleuaeth rhwng Qatar ac Ecuador yn Doha nos Sul.
Er hynny bydd alcohol yn parhau i fod ar gael i'r rheiny fydd yn ardaloedd corfforaethol y stadia.
Mewn datganiad dywedodd FIFA: "Yn dilyn trafodaethau rhwng awdurdodau Qatar a FIFA, mae penderfyniad wedi'i wneud i ganolbwyntio gwerthu diodydd alcoholig ar ŵyl cefnogwyr FIFA, cyrchfannau cefnogwyr eraill a lleoliadau trwyddedig, a pheidio gwerthu cwrw o fewn perimedr stadia Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
"Nid oes unrhyw effaith ar werthiant Bud Zero [cwrw di-alcohol], a fydd yn parhau i fod ar gael oddi fewn holl stadia Cwpan y Byd Qatar.
"Bydd awdurdodau'r wlad a FIFA yn parhau i sicrhau bod y stadia a'r ardaloedd cyfagos yn darparu profiad pleserus, parchus a dymunol i'r holl gefnogwyr.
"Mae trefnwyr y twrnament yn gwerthfawrogi dealltwriaeth AB InBev a'i gefnogaeth barhaus i'n hymrwymiad ar y cyd i ddarparu ar gyfer pawb yn ystod Cwpan y Byd Fifa Qatar 2022."
'Be' arall fydd yn newid?'
Mae rhai o'r cefnogwyr sydd yn teithio i Qatar dros y penwythnos wedi eu siomi.
Yn siarad ar y Post Prynhawn ar Radio Cymru dywedodd Tommie Collins o Borthmadog, sy'n dilyn Cymru oddi cartref ers dros 30 mlynedd, ei fod wedi derbyn fod y profiad o fynd i Qatar am fod yn wahanol i ddilyn Cymru dramor fel arfer.
"I-was-there ydi hon 'de. Tisho bod yna, tisho cofio bod yn y stadiwm. Cofio'r gêm, a'r anthem a bob dim.
"Ond, be sy'n gwylltio cefnogwyr ydi'r u-turn. A be' mae pawb yn poeni wan, be' arall mae nhw am newid munud ola.
"Dwi meddwl bo' ni mynd yna i barchu'r wlad, a ni bob tro yn g'neud hynna. 'Da ni yn derbyn bo' hi yn mynd i fod yn wahanol. A mae hynny dipyn bach o antur i fi.
"Ti'm isho mynd yna i feddwi'n wirion mewn gêm fel 'ma, tisho cofio'r achlysur, ond fysa 'di bod yn neis cael mynd i'r cae yn fuan, chat hefo'r hogia ti'm di weld, a 'neud siwr ti'n mynd i dy set yn fuan 'de."
Dywedodd Wyn Roberts o Landwrog ger Caernarfon wrth y rhaglen nad oedd o'n poeni na fydd alcohol ar gael yn y gemau, am ei fod yn mynd i Qatar gyda'i fab 12 oed Lefi.
"Dio'm yn poeni fi, i fod yn onast. Dio'm y math yna o wyliau pêl-droed i fi.
"Wbath i fi ga'l gofio hefo'r mab ydi mynd i Qatar. So os oes' na ddim peint ar gael dio'm yn poeni fi o gwbl.
"O be' dwi'n ddallt mae cwrw ar gael yn y fan zones does. So os ydi pobl isho cael peint, gawn nhw beint yn fa'na.
"Ma'n rwbath sy'n digwydd reit aml yn y Premier League a pethau fel yna. So, tydi o ddim llawer o big-deal dwi'm yn meddwl."
Dywedodd Rhian Davies o Foelfre ym Mhowys nad ydy'r penderfyniad yn hollol annisgwyl.
"Yn bersonol dwi ddim yn rhy siomedig achos doeddwn i'm yn bwriadu yfed yn ystod y gêm beth bynnag", meddai.
"Fyddwn ni fel cefnogwyr yn mynd i bartïon mae Gôl yn eu trefnu cyn y gemau a 'da ni'n siwr o gael ambell i beint yn fan'no.
"Fel cefnogwyr dwi'n siwr byddwn ni'n mwynhau ein hunain ac yn dathlu llwyddiant Cymru yng Nghwpan yn Byd, os ydyn ni efo peint neu beidio."
Ond dywedodd Lauren McNie, un arall sy'n teithio i Qatar ddydd Sul ei bod yn poeni y bydd y newid munud olaf yn achosi problemau: "Dwi'n poeni y bydd rhai pobl yn cael eu temtio i or-yfed cyn gêm."
'Diffyg cyfathrebu llwyr'
Mae'r penderfyniad wedi ei feirniadu hefyd gan y corff sy'n cynrychioli cefnogwyr pêl-droed, sy'n dadlau bod amseriad y cyhoeddiad yn adlewyrchiad o "broblem ehangach".
Dywedodd y Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed (FSA) mewn datganiad: "Mae rhai cefnogwyr yn hoffi yfed cwrw mewn gêm a rhai ddim, ond y mater go iawn yw'r tro pedol munud olaf sy'n adlewyrchu problem ehangach - diffyg cyfathrebu llwyr ac eglurder gan y pwyllgor trefnu tuag at gefnogwyr.
"Os ydyn nhw'n gallu newid eu meddwl ar hyn gyda chyn lleied o rybudd, heb unrhyw esboniad, bydd gan gefnogwyr bryderon dealladwy a fyddan nhw'n cyflawni addewidion eraill yn ymwneud â llety, trafnidiaeth neu faterion diwylliannol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022