Cŵn wedi lladd o leiaf saith o ddefaid yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Defaid marwFfynhonnell y llun, Sion Lightfoot
Disgrifiad o’r llun,

Dywed plismyn bod bod saith o ddefaid wedi'u lladd ac 16 arall wedi'u hanafu

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth wedi i gŵn ymosod ar ddefaid ym Mwcle yn Sir y Fflint ddechrau'r wythnos.

Dywed plismyn bod bod saith o ddefaid wedi'u lladd ac 16 arall wedi'u hanafu.

Mae dau gi blaidd (German Shepherd) sy'n cael eu hamau o achosi'r anafiadau yn cael eu cadw mewn man diogel er mwyn atal unrhyw ymosodiadau pellach.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad nos Sul neu yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun mewn cae ar Ffordd Padeswood.

Roedd 11 ddefaid o'r un praidd ar goll yn dilyn y digwyddiad hefyd, ond maen nhw bellach wedi cael eu canfod yn ddiogel.

Ail ymosodiad mewn deufis

Dywedodd y ffermwr John Lightfoot mai dyma'r ail ymosodiad o'r fath ar ei dir mewn deufis.

Mr Lightfoot sy'n rhedeg fferm Cae ap Edward yn Llanarmon-yn-Iâl, ond fe ddigwydodd yr ymosodiad ddechrau'r wythnos ar dir ger Bwcle.

"Roedd hi'n ofnadwy gweld y gwaed a'r llanast a'r anifeiliaid mewn poen," meddai.

"Ges i ymosodiad arall tua phum milltir o'r fferm a cholli saith dafad, ond doedd dim modd profi pa gŵn oedd yn gyfrifol.

"Gobeithio y byddwn ni'n dod o hyd i berchnogion y cŵn y tro hwn."

Ychwanegodd ei fod yn ergyd ariannol hyd yn oed gydag yswiriant, ac mae'n galw am ledaenu'r neges fod angen i berchnogion cŵn gymryd cyfrifoldeb.

'Gellir osgoi hyn'

Mae'r Rhingyll Peter Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad hefyd yn atgoffa perchnogion cŵn i gadw eu hanifeiliaid dan reolaeth o amgylch defaid a da byw eraill.

"Mae ymosodiadau ar dda byw yn dorcalonnus iawn nid yn unig i'r anifeiliaid, ond i'w ceidwaid hefyd," meddai.

"Mae'r costau hefyd, yn ariannol ac yn emosiynol, i'r bobl hynny sy'n berchen ar neu'n dod o hyd i anifeiliaid wedi marw neu wedi eu hanafu, yn gwbl annerbyniol.

"Yn anffodus, mae adroddiadau am ymosodiadau ar ddefaid a da byw eraill yn gyffredin, gydag anifeiliaid yn dioddef creulondeb ac yn aml yn cael eu lladd. Gellir osgoi hyn yn llwyr.

"Mae bod yn berchennog cyfrifol ar gŵn yn allweddol wrth ymdrin â'r digwyddiadau ofnadwy hyn. Mae mor bwysig sicrhau fod anifeiliaid anwes o dan reolaeth bob amser."

Mae apêl ar i unrhyw sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.