Prinder staff gofal Sir Ddinbych yn 'argyfyngus'

  • Cyhoeddwyd
Gofalwr a chlafFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai pobl gael niwed os na chaiff staff gofal eu recriwtio yn Sir Ddinbych yn ôl rheolwr gwasanaethau oedolion y cyngor.

Ddydd Mercher bydd adroddiad asesiad risg yn cael ei gyflwyno i bwyllgor llywodraethu ac archwilio Cyngor Sir Ddinbych.

Mae'r adroddiad yn disgrifio'r sefyllfa fel un "argyfyngus".

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn cymryd amrywiaeth o gamau i wella recriwtio, gan gynnwys penodi swyddog adnoddau dynol sy'n arbenigo mewn gofal cymdeithasol.

Mae Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaethau Oedolion gyda Cyngor Sir Ddinbych, yn rhybuddio bod swyddi gwag yn golygu na all y cyngor wneud eu gwaith yn iawn.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd bod tua 26 o swyddi gwag o fewn gwasanaethau plant ar hyn o bryd, a 28 o fewn y gwasanaeth oedolion.

"Pan ma gynnoch chi swyddi gwag, mae'n golygu na fedar y cyngor wneud bob un o'u dyletswyddau," dywedodd.

"Canlynaid eithaf hynna ydy y galla' rhywun gael niwed os na allwn ni gyrraedd nhw."

Dywedodd bod "pryder mawr" bod prinder staff yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar y rhai sydd yn gweithio.

"Ein prif ased ni ydy'n staff, maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed dan amodau anodd.

"Y staff sydd ar ôl sy'n cario'r baich fel petai."

'Bron yn storm berffaith'

Mae Ms Pierce yn cydnabod nad yw'r broblem yn unigryw i Sir Ddinbych, ac yn her sydd wedi wynebu'r sector ers blynyddoedd.

"Mae 'na dâl neu amodau gwell yn cael eu cynnig gan awdurdau lleol cyfagos neu fwrdd iechyd ar gyfer rolau tebyg ond efallai, llai heriol.

"Dydy o ddim bob amser am fwy o arian, mae'n becyn mwy cynhwysfawr, oherwydd dyletswyddau," ychwanegodd.

"Mae'r broblem wedi bod yn diwgydd ers blynyddoedd, bron wedi cyrraedd y perfect storm.

"Mae angen strwythur cenedlaethol i weithwyr gofal 'efo cyflog haeddianol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff gofal yn mynd i chwilio am gyflogau uwch mewn sectorau eraill medd Mary Wimbury

Mae Mary Winbury, Prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, yn dweud mai cyflog uwch fyddai'r ateb amlwg i leddfu'r broblem.

"Roedd y sector yn fragile cyn y pandemig a rwan, mae pobl sy'n gweithio yn y sector... gyda'r argyfwng costau byw, mae pobl yn meddwl 'wel mae'n bosib cael cyflog uchel mewn sector 'efo dim yr un pwysau'.

"Weithiau maen nhwn mynd i siopau neu hospitality ond weithiau maen nhw'n mynd i'r GIG am gyflog uchel ond dim yr un pwysau.

"Rhaid i ni dalu mwy i bobl sy'n gwneud y swyddi pwysig yn y sector gofal cymdeithasol."

'Rhaid rhoi mwy o barch'

Dywedodd nad oedd y cyflog byw go-iawn "yn ddigon".

"Mae'n anodd iawn i recriwitio a chadw pobl yn gweithio yn y sector.

"Mae'n swydd bwysig, valuable, ond maen rhaid i ni dalu mwy a rhoi mwy o barch i bobl sy'n gweithio yn y sector."

Yn ddiweddar, dywedodd Llywodraeth Cymru y bu ymgyrch recriwtio dwys dros fisoedd yr haf, ac mae gweithwyr gofal yn cael y cyflog byw.

Dywedodd llefarydd ar y pryd: "Rydym wedi cyflwyno'r cyflog byw i weithwyr gofal gan sicrhau bod £43m ar gael eleni ac mi fyddwn ni'n dal i weithio gyda'r sector i wella amodau ac amgylchiadau."

Bydd yr adroddiad yn cael ei chyflwyno i bwyllgor llywodraethu ac archwilio Cyngor Sir Ddinbych ddydd Mercher.