Agor 'calon' newydd gwersyll yr Urdd yn Llangrannog
- Cyhoeddwyd
Mae ardal breswyl newydd gwerth £6.1m wedi agor yn swyddogol ddydd Iau yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.
Yn rhan o ddatblygiad uwchraddio, bydd Calon y Gwersyll yn nodi "pennod gyffrous newydd" yn hanes Urdd Gobaith Cymru, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant eleni.
Wrth ehangu'r ardal breswyl a chynyddu gwasanaethau, gobaith yr Urdd yw estyn croeso a chynnig mwy fyth o gyfleoedd i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd: "Heddiw rydyn ni'n dathlu pennod gyffrous newydd yn hanes canmlwyddiant yr Urdd gan agor datblygiad Calon y Gwersyll yn Llangrannog.
"Mae dros ddau filiwn o blant a phobl ifanc wedi aros yng nghanolfannau preswyl yr Urdd ers sefydlu'r mudiad ganrif yn ôl.
"Mae'r gwersylloedd wedi cynnig cyfleoedd cadarnhaol gan roi profiadau ac atgofion melys i genedlaethau o bobl ifanc yn y Gymraeg.
"Mae gwersylloedd yr Urdd yn annog hyder a thwf wrth i blant a phobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, siarad Cymraeg a chwrdd â phobl newydd."
Mae Calon y Gwersyll yn rhan o brosiect datblygu cyfalaf gwerth £9.5m, wrth i'r Urdd uwchraddio cyfleusterau a gwasanaethau ar hyd tri o ganolfannau preswyl y mudiad ieuenctid.
Yn ôl y prif weithredwr, mae'r grant cyfalaf, ynghyd â grantiau lleol eraill, wedi galluogi'r Urdd i foderneiddio eu cyfleusterau yn Llangrannog, Glan-llyn a Phentre Ifan.
Cafodd datblygiad newydd Llangrannog ei ariannu'n bennaf drwy grant cyfalaf o £4.1m gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, ac roedd yna gyllid pellach gan Gronfa'r Loteri Genedlaethol.
Wrth drafod gwerth y grantiau, dywedodd Ms Lewis: "Mae'r buddsoddiadau hyn yn golygu y gallwn barhau i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fwy fyth o blant wrth i'r mudiad edrych ymlaen at y 100 mlynedd nesaf o wasanaeth.
"Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r holl fudiadau sydd wedi cefnogi ein gweledigaeth, gan ganiatáu i'r mudiad barhau i gynnig profiadau bythgofiadwy drwy gyfrwng y Gymraeg i bob plentyn ledled Cymru."
Yn ogystal â chynnig llety i 52 o bobl, mae Calon y Gwersyll hefyd yn cynnwys neuadd amlbwrpas a chanolfan ganolog i gefnogi gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol.
Mae'r datblygiad newydd hefyd yn cynnig ardal fwyta a chegin sy'n cynnig seddi i dros 250 o bobl, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cyfarfodydd ac ardaloedd gwaith pwrpasol ar gyfer athrawon ac arweinwyr preswyl.
Ynghyd â hyn, mae'r datblygiad yn galluogi'r Urdd i uwchraddio a chefnogi amgylchedd dysgu awyr agored Gwersyll Llangrannog ymhellach, gan ddarparu man agored diogel i blant a phobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, cymdeithasu a thyfu yn y Gymraeg.
Gyda nifer yn gyfarwydd â'r adeiladau pren traddodiadol yn y gwersyll, mae'r Urdd yn dweud bod y datblygiad newydd wedi "trawsnewid isadeiledd y ganolfan".
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, fydd yn am agor Calon y Gwersyll yn swyddogol.
Yn ôl y gweinidog, mae'r datblygiad yn sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc yn gallu "elwa o brofiadau gwerthfawr yr Urdd".
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd yn falch bod y prosiect yn cefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru, ac yn ehangu cyfleoedd addysgol yn yr awyr agored sydd hyd yn oed yn fwy pwysig yn sgil y pandemig.
"Rwy'n sicr mae gan lawer o bobl yng Nghymru atgofion gwych o ymweld â gwersyll Llangrannog, a gydag ein cefnogaeth fel llywodraeth, gall llawer mwy o blant edrych ymlaen at greu atgofion hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018