Teyrnged i fenyw fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae teulu menyw 76 oed fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Rhondda Cynon Taf ddydd Iau wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Wendy Setterfield wedi iddi gael ei tharo gan Ford Focus glas ar Heol yr Eglwys ym mhentref Penrhiw-ceibr ger Aberpennar toc wedi 20:00 nos Iau.
Mae dyn lleol 24 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Fe wnaeth teulu Ms Setterfield ei disgrifio fel "mam a mam-gu gariadus".
"Roedd Wendy yn garismatig, twymgalon a chymdeithasol. Bydd hi'n cael ei cholli gan gymaint o bobl yn y gymuned.
"Mae'r cariad ry'n ni wedi'i deimlo gan y gymuned ym Mhenrhiw-ceibr yn anhygoel, ac mae wedi'n cysuro i weld pa mor felys yw atgofion pawb ohoni."
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r modd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y digwyddiad i gysylltu â'r llu.