Mared Jarman: Dêtio gyda dallineb

  • Cyhoeddwyd
X
Disgrifiad o’r llun,

Mared yn chwarae rhan Ceri yn How This Blind Girl

"Mae bod yn anabl yn biwtiffwl o beth. Fi ddim isie cael fy nhrwsio."

Dyna eiriau'r dramodydd a'r actores Mared Jarman, awdur y gyfres ddrama-deledu newydd How This Blind Girl. Mae'r gyfres o ddramâu byrion yn dilyn y prif gymeriad, Ceri, sydd yn ei hugeiniau hwyr yn ei bywyd carwriaethol ac wrth iddi ddefnyddio apiau dêtio.

Ond un peth sy'n gwahaniaethu Ceri o weddill ei ffrindiau a'i chyfoedion yw ei bod hi'n ddall.

Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Mared am greu'r ddrama sy'n rhoi llais i brofiadau person sydd methu gweld, mewn cymdeithas sy'n rhoi pwyslais ar y gweledol.

'Dwi erioed wedi dod ar draws cymeriad fel Ceri'

Penderfynodd Mared, sy'n ddall ei hun, ei bod eisiau creu cymeriad nad yw hi wedi ei brofi o'r blaen mewn llyfrau, ffilmiau a sgriptiau.

Eglura Mared: "'Na i gyd o'n i moyn 'neud oedd creu cymeriad o'ni rili moyn chwarae a gweud stori o'n i rili moyn dweud, un i fi'n teimlo sydd ddim yn cael ei ddweud gan y byd ar hyn o bryd."

Mared sydd hefyd yn actio cymeriad Ceri yn y gyfres, a'r diffyg mewn cymeriadau dall mewn cynnyrch creadigol sydd wedi ei chymell i ysgrifennu ac i actio:

"Fi yn actores ac yn sgwennwr oherwydd bo' fi ddim yn cael y cyfle i chwarae cymeriadau fel'na. Dy' nhw ddim yn dod lan. Felly nes i feddwl, os oes neb arall yn mynd i neud e, man a man i fi neud e fy hun."

Disgrifiad o’r llun,

Mared yn chwarae cymeriad Ceri

Er bod Mared wedi ei chofrestru fel 'cyfreithiol ddall' dyw hynny ddim yn golygu nad ydy hi'n medru gweld dim byd o gwbl.

Eglura: "Fi 'di cael fy nghofrestru fel legally blind neu severely sight impaired so dyw dall ddim yn meddwl bo' ti ddim yn medru gweld dim byd o gwbl. Mae dall jest yn meddwl os wyt ti ar y siart pan ti'n cal dy lygaid a dy olwg wedi ei brofi byddi di'n cwmpo o dan rhyw lefel.

"Felly ydw, fi yn legally blind ond fi yn gallu gweld rhywfaint. Mae gen i gyflwr o'r enw Stargardt sydd yn effeithio ar y golwg canolog felly 'sgena i ddim central vision ond mae gen i peripheral vision sydd yn meddwl bod spacial awareness fi yn dda a bo' fi dal yn gallu gweld siapiau a lliwiau a golau. A digon o hwnna fel bo' fi yn gallu symud o gwmpas yn effeithiol."

Dêtio gyda dallineb

Er bod yna debygrwydd yng nghefndir Mared a'i chymeriad Ceri; y ddwy'n ferched yn eu hugeiniau'n byw bywyd dinesig, a'r ddwy'n byw gyda nam golwg, mae Mared yn egluro bod personoliaeth y ddwy'n wahanol iawn.

"Fydden i'n dweud mai nid fi yw Ceri o gwbl ond yn sicr mae'r pethau sydd yn digwydd i Ceri falle wedi digwydd i fi neu wedi digwydd i bobl dwi'n nabod. Fi wedi dramateiddio ond maen nhw yn bethe fyddai'n digwydd i rywun dall.

"Be' fi wedi neud yw sgwennu am gymeriad fel menyw ifanc sy' ddim yn gyfforddus i fyw bywyd yn agored fel rhywun anabl. Fi'n meddwl bod hwnna yn bwnc rili pwysig i'w drafod - am ba bynnag reswm dyw Ceri ddim yn teimlo yn gyfforddus i wneud hwnna ac yn ceisio cuddio ei hanabledd wrth ddêtio.

Disgrifiad o’r llun,

Mared Jarman fel Ceri yn 'How This Blind Girl'

Mae Mared yn hollol gyfforddus gyda'i hanabledd ei hun erbyn hyn, ond doedd tyfu o fod yn ferch i ddynes ifanc a dygymod gyda'i golwg yn dirywio'n sydyn ddim yn hawdd.

"Ges i ddim fy ngeni gyda'r cyflwr. Wnes i ddatblygu'r cyflwr pan o'n i tua deg mlwydd oed a doedd dim lot o newid yn fy ngolwg i wedyn tan o'n i'n 14. Wedyn nes i golli tua 80% o ngolwg i mewn un llygaid mewn wythnos. A wedyn nath e ddirywio yn gyflym iawn yn fy arddegau.

"Oedd hwnna yn anodd oherwydd ar yr adeg yna, dyna pryd mae lot o bobl yn dechrau archwilio gyda'u rhywioldeb nhw, a dêtio, a ffansïo rhywun.

"Oedd hwnna ddim yn rwbeth falle oedd gen i'r privilege i'w fwynhau neu i feddwl amdano nes o'n i'n chweched dosbarth, achos o' n i'n mynd trwy rywbeth enfawr arall. O'n i'n colli 'ngolwg yn gyfan gwbl, yn gloi iawn."

Ydy apiau dêtio yn gynhwysol?

Gyda defnyddio apiau dêtio yn ganolog i stori Ceri yn How This Blind Girl, gofynnodd Cymru Fyw i Mared a ydyn nhw'n addas i bobl ag anghenion golwg?

"Rhaid i fi fod yn onest fi ddim wedi defnyddio lot o dating apps o gwbl. Profiad fi ohonyn nhw yw gweld ffrindie yn defnyddio nhw - mae lot ohono fe'n cael ei seilio ar lunie a delwedd a sut ti'n gwerthu dy hun. Felly maen nhw yn gallu bod yn bethe eitha anodd i bobl.

"Mae llunie yn gallu bod yn anodd - dim jest i weld ond i adnabod ac i ti gael math o wybodaeth. So dyw e ddim yn ideal achos mae'r negesuon ti'n gael - llais ac arogl a chwerthin a general vibes ti'n cael wrth gwrdd â rhywun - ti ddim yn cael dim o hwnna ar dating apps.

"A phan ti'n ddall yn enwedig, ti'n dibynnu mwy ar dy synhwyrau arall a jest bod yn yr un ystafell gyda rhywun a'r teimladau yna sydd yn datblygu rhwng pobl. Mae hwnna wedyn yn neud e bach fwy tricky efo dating apps."

Disgrifiad o’r llun,

Ceri a'i ffrind Georgie - cymeriad dall arall yn 'How This Blind Girl'

Trwy gyfrwng y ddrama mae Mared hefyd yn herio'r myth nad ydy pobl ddall yn "hoffi gweld pethau".

Eglura: "Mae 'na misconception bod pobl dall ddim yn hoffi gweld pethau a ddim yn hoffi celf, ddim yn edrych ar Instagram, ddim yn hoffi lliwiau, ffasiwn, colur, delweddau, pensaernïaeth; unrhyw beth sy'n draddodiadol yn weledol.

"Dyw hwnna ddim yn wir o gwbl. Dim ond 2% o bobl sy'n ddall sydd ddim yn gweld dim byd o gwbl yn cynnwys golau. Mae hwnna yn ganran bach iawn ohonan ni.

"Mae pobl dall dal yn bobl sexual a maen nhw dal yn bobl sy'n hoffi gweld pethau hyd yn oed os taw jest golau yw e, a lliwiau a tân gwyllt efo goleuadau lliwgar er enghraifft."

'Os nad wyt ti'n gallu bod yn ti dy hun, move on!'

Adlewyrchu "profiadau sy'n typical o ran profiad menyw ifanc" oedd un o brif amcanion Mared wrth greu'r ddrama, a'i fod yn berthnasol i ferched sy'n arbrofi gyda gwahanol berthnasau, boed ag anabledd neu beidio.

Mae Mared mewn perthynas ers rhai blynyddoedd, un lle mae hi'n "teimlo 100% yn hi ei hun".

Ffynhonnell y llun, Mared Jarman
Disgrifiad o’r llun,

Mared Jarman

A'i chyngor i ferched eraill sy'n teimlo fel Ceri yn y ddrama, ac yn ansicr yn eu bywydau dêtio yw: "Os nad wyt ti yn gallu bod yn ti dy hun gyda rhywun a bo' ti'n poeni bo nhw ddim yn mynd i hoffi ti oherwydd dy anabledd, ti'n dod o gefndir arbennig - neu unrhyw beth - wyt ti rili isio bod gyda'r person yna?

"Os ti yn ffeindio rhywun sy'n caru ti am bwy wyt ti, excellent, os ti ddim - move on - oherwydd mae bywyd yn rhy fyr i wastraffu ar unrhyw un."

Hefyd o ddiddordeb: