Marwolaeth 'drasig' dyn yn Llanelwy wedi ffrwgwd gyda'i frawd

  • Cyhoeddwyd
Digwyddodd y ffrwgwd tu allan i gartref mam Mr Gronow ar stad Llys Clwyd yn LlanelwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y ffrwgwd tu allan i gartref mam Mr Gronow ar stad Llys Clwyd yn Llanelwy

Mae cwest wedi clywed i gyn-ymgynghorydd ariannol o Sir Ddinbych farw ar ôl ffrwgwd gyda'i frawd y tu allan i gartref ei fam.

Fe fu'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth Rhodri Gronow o Lanelwy fel achos posib o lofruddiaeth, ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â dwyn cyhuddiadau yn erbyn ei frawd, Emyr Gronow.

Cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl edrych ar luniau camera cylch cyfyng "dirdynnol" o'r digwyddiad, a chlywed tystiolaeth am gyflwr meddygol difrifol y dyn 58 oed.

Cyhoeddwyd fod Rhodri Gronow, o Clwydian Park Crescent, Llanelwy yn farw ar ôl iddo gyrraedd Ysbyty Glan Clwyd ar 16 Mehefin, 2021.

Amddiffyn ei fam

Clywodd y gwrandawiad bod y ffrwgwd wedi digwydd tu allan i gartref mam 90 oed y brodyr yn Llys Clwyd, Llanelwy.

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu dywedodd Emyr Gronow ei bod hi wedi gosod camera ar y drws oherwydd trafferthion blaenorol gyda'i frawd, ac ar ddiwrnod y digwyddiad ei bod wedi gwrthod caniatâd iddo storio eitemau yn ei garej, oedd wedi ei ddigio.

Pan heriodd Emyr Gronow ei frawd er mwyn amddiffyn ei fam, a'i wthio allan o'r tŷ cafodd ei daro gyda theclyn metel, ac yn y ffrwgwd ddilynodd syrthiodd Rhodri yn ôl gan daro'i ben yn erbyn wal frics.

Ar ôl mynd yn anymwybodol am amser byr, aeth ei ymddygiad yn fwy ymosodol.

Disgrifiodd Emyr Gronow ei fraw pan sylweddolodd fod ei frawd wedi stopio ymladd, a dweud wrth ei gymar, Dawn Parry am alw 999 tra'i fod o'n ceisio ei adfer.

"Nid fy mwriad oedd i bethau ddod i ben fel hyn", meddai wrth gael ei gyfweld.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhodri Gronow yn byw yn Clwydian Park Crescent, Llanelwy

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Williams fod y lluniau cylch cyfyng yn dangos Emyr yn gafael yng ngarddwn Rhodri Gronow i gadw'r arf metel ar y llawr, ac er ei fod yn pwyso drosto nad oedd yn rhoi ei holl bwysau ar ei gorff.

Roedd llais Rhodri Gronow i'w glywed yn gweiddi na fedrai anadlu.

Yn ôl y patholegydd, Dr Brian Rodgers roedd Rhodri Gronow yn ordew, yn dioddef o glefyd siwgr math 2 ac roedd afiechyd ar ei galon.

Dywedodd iddo farw o niwed i'w ymennydd wedi ei achosi gan ddiffyg ocsigen, oherwydd cyfuniad o fygu a'i gyflyrau meddygol.

Ond dywedodd mai mygu am nad oedd yn gallu anadlu'n iawn wrth orwedd â'i wyneb ar y llawr wnaeth Mr Gronow, nid oherwydd ei fod wedi cael ei ddal i lawr.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd Uwch-grwner Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru John Gittins ei bod yn ddealladwy bod Heddlu'r Gogledd wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth, ac nad oedd yna dystiolaeth i gyfiawnhau dyfarniad o ladd anghyfreithlon.

Er gwaetha'r anghytuno cyn y digwyddiad, dywedodd bod yr amgylchiadau yn "drist a thrasig iawn", a'i fod yn sicr eu bod wedi cael "effaith sylweddol ar bob un".