Apêl heddlu wedi i ddyn o Geredigion fynd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i ddyn o Dal-y-bont yng Ngheredigion.
Cafodd Dyfed (dyw plismyn ddim wedi nodi ei gyfenw) sydd yn oddeutu 5 troedfedd 10 modfedd ei weld ddiwethaf oddeutu 22:30 neu 23:00 nos Sadwrn, 3 Rhagfyr.
Dywed plismyn ei fod yn ŵr canolig o ran maint, bod ganddo wallt brown byr a barf fer gochlyd.
Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd e'n gwisgo trowsus llwyd gwrth-ddŵr dros jîns, crys siec tew glas, het wlân a welingtons.
Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.