Cyfnod gwerthu 'llawer llai' yn sgil streic gweithwyr post

  • Cyhoeddwyd
milltir sgwarFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Llŷr Morris yn postio 70% o'r cynnyrch mae'n ei werthu

Mae nifer o fusnesau o Gymru yn poeni y bydd streiciau gan weithwyr post rhwng nawr a'r Nadolig yn cael effaith ar eu gwerthiant.

Mae Llŷr Morris yn rhedeg cwmni cynhyrchu canhwyllau Milltir Sgwâr yng Nghaerdydd - cwmni a sefydlodd yn ystod y pandemig.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd: "Wrth gwrs ry'n ni'n cefnogi'r gweithwyr gyda'u streic a ni'n deall yn iawn ond mae'r streiciau yn mynd i gael effaith ar y busnes.

"Mae 70% o'n busnes ni ar-lein ac felly mae angen postio y canhwyllau. Eleni oherwydd y streiciau mae'n rhaid postio cyn 12 Ragfyr yn lle 18 Rhagfyr - felly mae'n cyfnod gwerthiant yn llawer llai.

"Mae effaith ar ein busnes bach ni - ond ma'n un o'r pethe 'na a does dim lot ni'n gallu newid am y sefyllfa.

"Mae'n anodd oherwydd gan bod cost y deunydd i wneud y canhwyllau wedi codi ry'n ni wedi gorfod codi ein prisiau ychydig.

"Yn sicr mae pobl yn gwario llai beth bynnag ac mae hynny'n ddealladwy o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol ond mae'n gwerthiant ychydig yn is na'r llynedd."

Pryd mae'r streic?

Mae dros 100,000 o weithwyr post wedi dechrau ar gyfres o streiciau rhwng nawr a'r Nadolig wedi trafodaethau aflwyddiannus rhwng y Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) nos Iau.

Dywed y Post Brenhinol y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar gludo llythyron a pharseli ar draws y DU, ac mae cyngor i bobl bostio cardiau a pharseli yn gynnar.

Bydd y streiciau yn cael eu cynnal ar 9, 11, 14, 15, 23 a 24 Rhagfyr.

Dywed yr undeb bod yr aelodau eisiau codiad cyflog sy'n cyfateb i gostau byw.

Mae 'na bryderon hefyd fod rheolwyr am droi'r Post Brenhinol yn gwmni economi gìg - gan greu amgylchedd sy'n cael ei nodweddu gan dasgau byrion, contractau dros dro a chontractio annibynnol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran CWU bod aelodau'r undeb yn wynebu gostyngiadau cyflog go iawn, gan honni bod y rheolwyr am "orfodi miloedd o ddiswyddiadau gorfodol".

Fe ddechreuodd yr anghydfod yn ystod yr haf wedi i'r Post Brenhinol wrthod cais yr undeb am godiad cyflog a oedd yn cyfateb i chwyddiant - sef 11.1%.

Mae'r Post Brenhinol wedi wynebu cryn drafferthion wrth iddyn nhw symud o'u gwaith arferol o gludo llythyron - na sydd bellach yn broffidiol - i gludo parseli.

Mae'r cwmni wedi cyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar hyd at 10,000 o swyddi.

'Anghydwybodol'

Wrth siarad ar Radio Wales fore Gwener dywedodd Siôn Harris sy'n bostmon ym Mhenrhyndeudraeth ac yn aelod o CWU: "Dydy o ddim am yr arian i ddweud y gwir - mae o am y gwasanaeth.

"Dwi wedi bod yn bostmon ers 22 mlynedd a dwi wedi arfer mynd â phethau i gwsmeriaid a'r cyhoedd.

"Rhaid i ni gofio 18 mis yn ôl roeddan ni'n weithwyr allweddol yn ystod Covid - yn cludo cyfarpar i bawb ac rydan ni am barhau i fod yn wasanaeth allweddol i'r wlad. 'Dan ni ddim isio bod yn wasanaeth courier parseli mawr."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r picedwyr ger is-swyddfa ddosbarthu'r Post Brenhinol yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr haf

"Yn y pen draw be' mae rheolwyr isio ei wneud yw gweithredu yr hyn sy'n digwydd ar draws Ewrop - sef darparu gwasanaeth cludo llythyron am dridiau yr wythnos.

"Maen nhw isio cael gwared ar bobl sydd ar delerau da ar hyn o bryd a chael pobl eraill i weithio yn eu lle - am bum awr yn fwy yr wythnos am 20% yn llai o gyflog. Fe fyddai unrhyw undeb yn dweud bod hynny yn anghydwybodol.

"Ar hyn o bryd mae'r Post Brenhinol yn gyflogwr da a hynny am fod yr undeb wedi brwydro ar hyd y blynyddoedd i sicrhau telerau da."

Colled o £1m y dydd

Dywed llefarydd ar ran y Post Brenhinol bod eu cynnig yn cynnwys codiad cyflog o 9% yn ystod y 18 mis nesaf a "nifer o gonsesiynau eraill".

"Fe dreulion ni dri diwrnod arall yng ngwasanaeth cymodi Acas yr wythnos hon i drafod sut mae osgoi'r streiciau.

"Ond yn y diwedd, y cyfan a gawsom oedd cais am fwy o gyflog - heb y newid sydd ei angen i gyllido'r cynnig o godiad cyflog. Mae'r undeb yn gwybod yn iawn bod y busnes yn gwneud colled o £1m y dydd."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol "eu bod yn gwneud yr hyn a allant i sicrhau Nadolig arferol i gwsmeriaid ond bod y dasg honno yn anoddach wrth i'r Nadolig ddod yn nes".

Pynciau cysylltiedig