Cadarnhau pryd fydd streic staff ambiwlans Cymru

  • Cyhoeddwyd
ambiwlansys
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr undeb bod un o bob tri gweithiwr ambiwlans yn credu bod claf wedi marw oherwydd oedi y buon nhw'n rhan ohono

Mae undeb GMB wedi cadarnhau pa bryd fydd bron i 1,500 o weithwyr ambiwlans ar draws Cymru yn mynd ar streic.

Bydd parafeddygon, cynorthwywyr gofal brys, atebwyr galwadau ac aelodau eraill o staff yn gweithredu'n ddiwydiannol rhwng 00:01 a 23:59 ddyddiau Mercher 21 a 28 Rhagfyr.

Pleidleisiodd staff y gwasanaeth ambiwlans a rhai ymddiriedolaethau GIG o blaid streicio dros gynnig llywodraethau Cymru a'r DU i roi codiad cyflog o 4%, sy'n doriad "anferthol" mewn gwirionedd yn sgil chwyddiant, yn ôl yr undeb.

Bydd cynrychiolwyr nawr yn cwrdd ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i drafod darparu gwasanaethau yn yr achosion mwyaf difrifol.

Byddai'r achosion hynny'n cynnwys rhai ble mae bywyd yn y fantol neu pan fo claf mewn perygl o golli coes neu fraich.

'Ar eu gliniau'

"Mae gweithwyr ambiwlans - fel pob gweithiwr GIG - ar eu gliniau," dywedodd Rachel Harrison, Ysgrifennydd Cenedlaethol y GMB.

Dywedodd bod gweithwyr "wedi digalonni ac yn orthrymedig wedi 12 mlynedd o doriadau'r Ceidwadwyr i'r gwasanaeth a'u cyflogau, wedi brwydro ar reng flaen pandemig byd-eang a nawr yn wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth".

Ychwanegodd: "Does neb yn y GIG yn gweithredu'n ddiwydiannol ar chwarae bach - mae heddiw'n dangos pa mor anobeithiol maen nhw.

"Mae wnelo hyn gymaint â lefelau staffio anniogel â chyflogau. Mae un o bob tri gweithiwr ambiwlans y GMB yn meddwl bod oedi y buon nhw'n rhan ohono wedi arwain at farwolaeth claf.

"Rhaid i rywbeth newid neu fydd y gwasanaeth fel rydyn yn ei 'nabod yn dymchwel.

"Mae'r GMB yn galw ar y llywodraeth i osgoi gaeaf o streiciau o fewn y GIG trwy drafod cynnig cyflog y mae'r gweithwyr hyn yn ei haeddu."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pam bod cymaint o weithwyr y GIG" wedi pleidleisio dros gynnal streic, a'u bod yn "cytuno y dylai gweithwyr y GIG dderbyn cyflogau teg am eu gwaith pwysig".

"Serch hynny, nid ydym yn gallu codi ein cynnig ar gyflogau heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU."