Arestio pedwar wedi i brotestwyr achosi difrod i adeilad

  • Cyhoeddwyd
Parc Busnes Broadaxe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod y protestwyr wedi torri i mewn i adeilad ar Barc Busnes Broadaxe yn nhref Llanandras

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio wedi i ddifrod gael ei achosi i adeilad yn ystod protest yn Llanandras ym Mhowys.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod "nifer fawr o heddlu" yn delio gyda'r brotest ar safle diwydiannol yn y dref, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Cafodd y llu eu galw i adroddiadau fod rhywun wedi torri i mewn i adeilad ar Barc Busnes Broadaxe toc wedi 06:30 fore Gwener.

Fe gafodd dwy fenyw, 41 a 65 oed, eu harestio ar amheuaeth o ladrad, ac roedd dau arall wedi dringo ar do yr adeilad.

Cafodd y ddau - dyn 34 oed a menyw 39 oed - eu harestio wedi iddyn nhw ddod i lawr oddi ar y to am tua 10:45.

Mae'r pedwar yn parhau yn y ddalfa.

Ffynhonnell y llun, Lewers Firth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dyn 34 oed a menyw 39 oed eu harestio wedi iddyn nhw ddod i lawr oddi ar y to

Dywedodd Cyngor Powys fod y brotest wedi cael effaith ar gampws John Beddoes yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, sydd ger y stad ddiwydiannol.

Ychwanegon nhw nad oes unrhyw un yn cael gadael yr ysgol am y tro "er mwyn cadw disgyblion a staff yn ddiogel".

Pynciau cysylltiedig