Adran Dau: Casnewydd 0-1 Doncaster Rovers
- Cyhoeddwyd

Fe fethodd Casnewydd a chael y bêl i gefn y rhwyd mewn colled siomedig yn erbyn Doncaster Rovers ddydd Sadwrn.
Roedd gôl Kyle Knoyle yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r gwrthwynebwyr.
Fe lwyddodd Joe Day i atal ymgais Harrison Biggins o Doncaster gydag arbediad ar ddiwedd hanner cyntaf o brin ddim cyfleoedd.
Ond colli oedd eu hanes, ac mae Casnewydd yn aros yn y 18fed safle yn Adran Dau.