Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Norwich
- Cyhoeddwyd

Fe ddaeth unig gôl y gêm yn ystod y funud gyntaf, ac i'r gwrthwynebwyr, Norwich, oedd hi.
Llwyddodd Teemu Pukki i sicrhau trydedd fuddugoliaeth Norwich yn ystod eu pum gêm diwethaf.
Fe fethodd yr Elyrch a dod o hyd i gyfleoedd i gyrraedd cefn y rhwyd, a'r siom o'r funud gyntaf i'w weld tan y diwedd.
Dyma oedd y gêm gyntaf i Abertawe golli adref yn Stadiwm Swansea.com ers canol Medi, ac maen nhw'n syrthio i'r degfed safle yn y Bencampwriaeth.