Dau wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Arwydd heddlu a cherbyd y gwasanaeth tân ar y stryd

Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Benfro fore Sul.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw i dŷ yn Llandudoch ger Aberteifi yn ystod oriau mân y bore.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y difrod yn "eang" a bod dau berson wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth pobl i adael blodau gerllaw wrth i swyddogion barhau â'r ymchwiliad

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi anfon ceir parafeddygon ac ambiwlans yn dilyn galwad wedi 01:30.

Cafodd tua 11 o bobl oedd yn byw gerllaw gyfarwyddyd i adael eu cartrefi.

Dywedodd yr heddlu y bydd y rheiny'n gallu dychwelyd i'w tai unwaith y bydd hi'n ddiogel i wneud hynny.

'Trasig'

Dywedodd y Parchedig Elizabeth Rowe o Eglwys Sant Tomos yn Llandudoch bod y gymuned "mewn sioc" yn dilyn y "tân trasig" ac y bydd yr eglwys ar agor drwy'r dydd i gynnig cefnogaeth i'r gymuned.

Mae Gwesty Glanfa Teifi wedi estyn croeso i unrhyw un sy'n chwilio am rywle i aros ar ôl gorfod gadael eu cartrefi.

Mae rhai o'r tafarndai a chaffis lleol wedi rhannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn estyn croeso i bobl hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai trigolion lleol wedi cael cartref dros dro yn nhafarn Yr Hydd Gwyn

Dywedodd y cynghorydd lleol, Mike James, bod y gymuned wedi uno i ddarparu cefnogaeth i gymdogion "mewn amgylchiadau hynod o drist".

Ychwanegodd bod 11 o bobl gerllaw wedi gorfod gadael eu cartrefi a'u bod wedi cael llety, gwres a bwyd yn nhafarn Yr Hydd Gwyn.

"Fe ddaeth y pentref at ei gilydd," meddai. "Roedden y bobl leol eisiau cefnogi cymaint â phosib."

Pynciau cysylltiedig