Streic nyrsys i barhau wedi methiant trafodaethau

  • Cyhoeddwyd
nyrsysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nyrsys ar draws Cymru yn streicio wedi iddyn nhw fethu â dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru

Bydd streic nyrsys yng Nghymru yn mynd yn ei blaen wedi i Goleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) a Llywodraeth Cymru fethu â dod i gytundeb am gyflog.

Bydd nyrsys pob bwrdd iechyd yng Nghymru heblaw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar streic ddydd Iau ac ar 20 Rhagfyr.

Dywed yr RCN nad oedd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cynnig mwy o godiad cyflog na'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen mwy o arian gan Lywodraeth y DU i gwrdd â gofynion cyflog.

Bydd nyrsys yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd ar streic.

Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon, ymgynghorwyr a nyrsys yng Nghymru yn cael cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5%

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr yr RCN yng Nghymru: "Mae streiciau yn anochel yng Nghymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru.

"Dyma'r eildro i Lywodraeth Cymru gynnal cyfarfod ag RCN Cymru lle nad oedd unrhyw fwriad i ddatrys yr anghydfod."

Dywedodd bod yr undeb yn barod i gael "trafodaeth ystyrlon" ar gyflog nyrsys ond bod rhaid cael codiad sylweddol.

"Mae cyflog isel yn cynyddu'r argyfwng sy'n wynebu'r gweithlu ac mae'r nifer o swyddi gwag ymhlith nyrsys cofrestredig yn peryglu bywyd cleifion," meddai.

"Mae'r pwysau yn golygu bod nyrsys yn cael eu dal rhwng eu cyfrifoldebau tuag at gleifion, eu teuluoedd ac at eu hiechyd nhw eu hunain."

Canslo apwyntiadau

Dywed yr RCN bod incwm nyrsys "lawer iawn" yn waeth na 10 mlynedd yn ôl ac y byddai'r codiad cyflog sydd wedi'i gynnig yn golygu y byddent ar golled o £1,000 mewn termau real.

Ym mis Gorffennaf fe gafodd y nyrsys sy'n ennill lleiaf yng Nghymru gynnig £1,400 o godiad cyflog ond fe wnaeth yr undebau ddadlau nad oedd hynny'n ddigon.

Mae disgwyl i'r streiciau amharu cryn dipyn wrth i filoedd o lawdriniaethau arferol ac apwyntiadau na sy'n rhai brys gael eu canslo.

Fydd y streiciau ddim yn cael effaith ar driniaethau cemotherapi na dialysis a bydd unedau gofal dwys ac unedau damweiniau ac achosion brys yn gweithredu fel arfer.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth y gweinidog iechyd gwrdd ag undebau'r GIG eto heddiw [dydd Llun]

"Ond, heb ragor o arian gan Lywodraeth y DU nid ydym yn gallu cynnig rhagor o arian heb y risg o orfod gostwng gwasanaethau.

"Tra'n bod wedi methu ag osgoi y gweithredu diwydiannol, mae'r holl bartneriaid wedi cytuno i barhau i siarad a chydweithio ar bwyntiau allweddol."

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cael arian digonol i gyllido gwasanaethau datganoledig.

"Rydym yn darparu setliad ariannol o £18bn y flwyddyn, setliad sy'n parhau i gynyddu mewn termau real yn ystod cyfnod Adolygiad Gwariant 2021."