Bwriad cwblhau trydedd bont dros y Fenai erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
Y FenaiFfynhonnell y llun, David Goddard

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cwblhau trydedd bont dros y Fenai erbyn 2030, yn ôl diweddariad ar y prosiectau sydd ganddynt ar y gweill dros y blynyddoedd nesaf.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers tro am gael pont arall rhwng Gwynedd a Môn er mwyn lleddfu tagfeydd traffig.

Daeth hynny'n fwy amlwg yn ddiweddar wrth i Bont y Borth orfod cau am rai misoedd er mwyn gwneud gwelliannau iddi, gan olygu mai dim ond un croesiad sydd ar agor ar hyn o bryd rhwng yr ynys a'r tir mawr.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi pa opsiwn maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer trydydd llwybr ar draws Afon Menai 'nôl yn Hydref 2018.

Yr opsiwn hwnnw oedd adeiladu pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia, a gwneud gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.

Mae'r sôn am y prosiect wedi tawelu dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae wedi'i gynnwys yn rhestr prosiectau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pedwar opsiwn dan ystyriaeth, cyn i'r llywodraeth ffafrio'r llwybr porffor ar y map uchod

Dywed y ddogfen mai'r gobaith gyda thrydedd bont fyddai "gwella diogelwch, amseroedd teithio a gwytnwch y rhwydwaith".

Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y byddai'r prosiect yn costio £400m, gyda'r gobaith o ddechrau'r gwaith adeiladu yn 2027 a'i gwblhau erbyn 2029/30.

Er bod pob prosiect sydd yn y ddogfen yn "debygol iawn" o gael eu cyflawni, mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio nad oes "ymrwymiad ffurfiol" i wneud hynny.

"Mae hyn yn adlewyrchu'r posibilrwydd o ansicrwydd yn y dyfodol, gan gynnwys y rhagolygon gwariant cyhoeddus yn y dyfodol," meddai'r ddogfen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cau Bont y Borth wedi arwain at alwadau o'r newydd am adeiladu trydedd bont

Ar hyn o bryd mae pob prosiect adeiladu ffyrdd wedi'i atal gan Lywodraeth Cymru tra bod yn cynnal adolygiad i asesu sut fyddai cynlluniau o'r fath yn cyd-fynd â'u strategaeth amgylcheddol.

Dywed y llywodraeth yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun y bydd "cyflawni ein targedau datgarboneiddio wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer datblygiadau seilwaith".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rhun ap Iorwerth

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rhun ap Iorwerth

Mae'r ffaith fod trydedd bont dros y Fenai wedi'i chynnwys yng ngobeithion y llywodraeth wedi'i groesawu gan Aelod o'r Senedd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar Twitter: "Da gweld trydydd croesiad y Fenai ymhlith prosiectau seilwaith Llywodraeth Cymru.

"Wedi'i ddisgrifio fel un 'tebygol iawn' o gael ei chyflawni, byddwn yn gwthio i wneud hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd trydydd croesiad o'r Fenai yn cael ei hystyried fel rhan o'r Adolygiad Ffyrdd, gan gymryd i ystyriaeth yr effaith amgylcheddol a fforddiadwyedd y prosiect yng ngwyneb y sefyllfa economaidd bresennol."

'Gwella gwytnwch'

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Môn fod y datblygiad yn un "calonogol", wrth bwysleisio'r angen i wella gwytnwch er mwyn "llewyrch ac economi'r ynys".

"'Dan ni'n gweld yn ddyddiol rŵan y problemmau oherwydd y diffyg gwytnwch yna, mae bywydau pobl yn cael eu heffeithio," meddai'r cynghorydd Carwyn Jones wrth BBC Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Carwyn Jones: "Mae trydydd pont yn berffaith er mwyn llewyrch a chymunedau bywiog ar gyfer y dyfodol"

"Mae'r economi yn cael ei effeithio, ac yn wir mae 'na effaith ar y porthladd [yng Nghaergybi], sef yr ail brysuraf ym Mhrydain Fawr."

Ond er yn cydnabod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio bwrw 'mlaen gyda sawl cynllun adeiladu ffordd oherwydd rhesymau amgylcheddol, mae'n credu bod achos cryf dros drydedd pont.

"Yn amlwg mae angen pwyso a mesur oherwydd fod pres yn fwy prin, felly mae angen blaenoriaethu prosiectau ar draws Cymru a dwi'n cyd-fynd efo'r gwaith mae'r llywodraeth wedi'w wneud," meddai.

"Ond mae ganddon ni Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n rhaid i brosiectau fod o fewn remit y ddeddf yna ac mae trydydd pont yn berffaith er mwyn llewyrch a chymunedau bywiog ar gyfer y dyfodol.

"Mae gynnon ni ddwy bont, un bron yn 200 oed a'r llall bron yn 170 oed, felly hefo'r gwaith sy'n mynd ymlaen rŵan ac un pont wedi ei chau, mae yna broblemau aruthrol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i weddill yr A55, tydi Pont Britannia ddim yn ffordd ddeuol.

"Mae gynon ni ail borthladd prysuraf Prydain Fawr yma ar Ynys Môn sy'n cario canoedd o lorïau y diwrnod, felly mae'n anhawster ofnadwy pan 'dach chi lawr i un lane.

"Hwn ydi'r unig lane sengl sy'n cysylltu Iwerddon ac Ewrop felly mae'n her ofnadwy ar y funud."

Coridor Sir y Fflint hefyd wedi'i gynnwys

Yn yr un ddogfen mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi'r gobaith o gyflawni gwelliannau i'r A55, A494 ac A458 yn Sir y Fflint.

Bwriad y prosiect hwnnw fyddai "gwella tua 7.45 milltir o ffordd rhwng Queensferry a Llaneurgain i fynd i'r afael â thagfeydd traffig, gwydnwch a materion diogelwch yn ardal Glannau Dyfrdwy".

Yr un yw'r targed amser ar gyfer y cynllun hwnnw, sef dechrau adeiladu yn 2027 a chwblhau'r gwaith yn 2029/30.