Achos trydedd bont Môn wedi'i 'wanhau' wedi'r oedi ar Wylfa

  • Cyhoeddwyd
y fenaiFfynhonnell y llun, David Goddard

Mae'r achos am drydedd bont i gysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr wedi "gwanhau" yn dilyn methiant cynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa, yn ôl Gweinidog Economi Cymru.

Ond, roedd Ken Skates yn ffyddiog y byddai cynlluniau am y bont newydd yn parhau "fel y cynlluniwyd."

Cafodd cynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd ei oedi gan gwmni Hitachi ym mis Ionawr.

Mae traffic ar draws y ddwy bont yn drwm iawn yn ystod oriau brig.

Fe wnaeth Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gyhoeddi cynlluniau ar gyfer pont newydd ros flwyddyn yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates yn fyddiog y byddai cynlluniau am y bont newydd yn parhau "fel y cynlluniwyd."

Roedd y Llywodraeth yn ffafrio'r opsiwn porffor, sef pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.

Roedd disgwyl i'r gwaith ddechrau yn 2021 yn dilyn dadansoddiad pellach.

Ond, dywedodd Mr Skates wrth BBC Cymru fod methiant Wylfa Newydd yn gorfod cael ei ystyried wrth drafod cynlluniau'r bont newydd..

"Heb gynllun Wylfa, wrth gwrs nid yw'r achos busnes mor gryd," meddai Mr Skates.

"Ond dyw hynny ddim i ddweud nad yw'n llai tebygol o ddigwydd.

"Rydym yn obeithiol y gallwn barhau fel y cynlluniwyd ac o fewn yr amser sydd wedi'i amlinellu er mwyn sicrhau gwell cysylltiad rhwng Ynys Môn a'r tir mawr."

Ychwanegodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru yn cadw'r cynlluniau ar gyfer y trydydd croesiad yn ei rhaglen isadeiledd.