Cynghorydd yn gwadu pleidleisio ar Zoom tra'n gyrru car
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd a gymrodd ran mewn cyfarfod cyngor ar-lein tra'n eistedd yn sedd y gyrrwr mewn car wedi gwadu ei fod yn gyrru ar y pryd.
Mae'n ymddangos bod y Cynghorydd Andrew Wood yn codi ei fraich fel pe bai'n pleidleisio cyn estyn ei law i ddiffodd y camera tra bod y car i weld fel pe bai'n symud.
Mae Mr Wood, cynghorydd annibynnol, sy'n cynrychioli ward Gele a Llanddulas ar Gyngor Conwy, wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Mae swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus bellach wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r mater.
Dywed Cyngor Conwy eu bod yn ystyried pa gamau i'w cymryd.
'Dwi'n gwybod dim amdano'
Mae'r digwyddiad yn deillio o gyfarfod pwyllgor craffu cyllid ac adnoddau'r cyngor ym mis Gorffennaf.
Fel llawer o gyfarfodydd cyngor o gwmpas Cymru ers y pandemig, roedd hwn yn gyfarfod "hybrid" lle gall aelodau ddewis bod yn bresennol neu ymuno ar Zoom.
Roedd Mr Wood yn cymryd rhan ar-lein, ond dim ond am gyfnodau byr y mae'n ymddangos ar y sgrin, yn ôl pob golwg, er mwyn pleidleisio trwy godi ei law at y camera.
Mewn un bleidlais mae'n edrych fel pe bai'r car y mae'n eistedd ynddo yn symud, cyn i Mr Wood symud ei law at y camera ac mae'r cysylltiad fideo yn diffodd.
Dywed Cyngor Conwy mai dim ond newydd gael gwybod am y digwyddiad y maen nhw, ond nid yw gyrru car wrth gymryd rhan mewn cyfarfod rhithiol yn cael ei grybwyll yn unrhyw un o reolau'r awdurdod.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd y swyddog monitro yn ystyried camau priodol, a hefyd yn atgoffa aelodau etholedig o'u cyfrifoldeb unigol i ymddwyn o fewn gofynion y cod ymddygiad a phrotocol aelodau.
Nid yw Mr Wood wedi ymateb i sawl cais am sylw gan y BBC, ond dywedodd wrth bapur newydd y Daily Post: "Gallaf ddweud wrthych nad ydwyf wedi gwneud cyfarfod Zoom tra'n gyrru cerbyd.
"Cyfarfod clywedol yn unig fyddai'r unig dro i mi fynychu cyfarfod tra'r oeddwn i yn fy nghar.
"Byddaf yn ei chwarae drwy fy Bluetooth, ar wahân i hynny does gen i ddim cliw gan nad ydyw erioed wedi cael ei bwyntio allan i mi. Dwi'n gwybod dim amdano."
Roedd yr AoS Ceidwadol, Mark Isherwood, sy'n cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru, wedi gofyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio.
Dywed iddo dderbyn e-byst gan etholwyr yn cyhuddo Mr Wood o "wneud hwyl am ben y system wleidyddol" ac y dylai "gael ei annog i ymddiswyddo ac ymddiheuro".
Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa'r ombwdsmon: "Gallaf gadarnhau ein bod ni wedi agor ymchwiliad ynglŷn â'r Cynghorydd Wood ac ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022