Ymddiheuriad cynghorydd Sir Gâr am regi mewn cyfarfod Zoom

  • Cyhoeddwyd
Dorian Phillips

Mae cynghorydd sir wedi ymddiheuro am regi yn ystod cyfarfod Zoom, gan ddweud ei fod yn meddwl nad oedd ei feicroffôn ymlaen.

Roedd modd i gyd-gynghorwyr glywed rhegfeydd y cynghorydd Plaid Cymru, Dorian Phillips yn ystod sesiwn hyfforddiant mewnol Cyngor Sir Gâr.

Dywed Mr Phillips nad oedd yn annerch y cyfarfod pan ddefnyddiodd "iaith liwgar".

Mae aelodau grŵp Llafur y cyngor wedi galw ar Blaid Cymru i wahardd Mr Phillips.

Yn ôl arweinydd y grŵp Llafur, Rob James, cafodd y sylwadau eu gwneud wrth i gynghorwyr gael eu hysbysu bod tua 95% o holl benderfyniadau'r cyngor yn cael eu cymryd gan y cabinet Plaid Cymru.

Ffynhonnell y llun, Boston Globe/Getty

Dywedodd Mr Phillips, sydd wedi cynrychioli ward Llanboidy ers 2012: "Ni alla'i wadu fy mod wedi defnyddio iaith reglyd, ond doedd e ddim wedi ei anelu at unrhyw un yn y cyfarfod yna.

"Yn ystod y sesiwn, bu'n rhaid i mi ddelio gyda sgwrs fusnes na wnelo dim â'r cyngor a aeth yn danllyd, ac roedd yna ddefnydd o iaith liwgar.

"Roedd yn fraw i mi glywed bod fy meicroffôn ymIaen a bod yna argraff fy mod yn annerch y cyfarfod. Nid dyna yn sicr oedd yr achos."

Dywedodd Mr Phillips ei fod wedi cyfeirio ei hun at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Ychwanegodd Rob James: "Roedd hwn yn ymddygiad wirioneddol ofnadwy gan gynghorydd etholedig ac mae wedi peri gofid i nifer o gynghorwyr oedd yn mynychu'r cyfarfod.

"Rydym yn galw ar [arweinydd Plaid Cymru] Adam Price i gondemnio'r ymddygiad yma a'i wahardd o'r blaid tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal."

Pynciau cysylltiedig