Carchar i ddyn busnes o Fôn am dwyll gwerth miliynau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn busnes o Ynys Môn wedi ei garcharu am naw mlynedd am ei ran mewn twyll gwerth miliynau o bunnoedd.
Fe wariodd Rhys Williams, 41, a'i wraig Lisa Williams, 40, arian pobl eraill er mwyn byw "bywyd bras", meddai barnwr.
Clywodd Llys y Goron Birmingham bod y cwpl wedi gwario'r arian ar geir moethus, tai crand ac addysg breifat.
Roedd Rhys Williams wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant ac un cyhuddiad o dwyll.
Plediodd Lisa Williams yn euog i un cyhuddiad o fod ag eiddo troseddol yn ei meddiant.
Cafodd hi ddedfryd o 16 mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.
Roedd y ddau yn rhan o gynllwyn twyll ehangach gyda phedwar o bobl eraill. Roedd cyfanswm y dedfrydau yn 48 mlynedd.
'Y dyn mwyaf calon galed'
Yn gyn-berchennog ar gartref gofal a datblygwr tai, fe ddaeth Rhys Williams yn gyfrifol am redeg cwmni yn Dubai, CWLJ, oedd yn rhedeg cynlluniau buddsoddi.
Fe ddisgrifiodd un o'r dioddefwyr, Michael McVicar, Rhys Williams fel "y dyn mwyaf calon galed" iddo gwrdd ag o erioed.
Roedd Williams wedi cael £179,000 ganddo yn 2014, ond pan sylweddolodd y dioddefwr nad oedd y buddsoddiad yn ddiogel, fe ofynnodd droeon am yr arian yn ôl.
Ar bob achlysur, roedd Williams wedi ei sicrhau y byddai'r buddsoddiad yn cael ei ddychwelyd, ond chafodd yr arian fyth mo'i dalu yn ôl.
Yn 2016, fe gafodd Williams £120,000 gan Mr McVicar ar gyfer buddsoddiad honedig arall.
Eto, doedd dim elw o'r buddsoddiad ac fe gafodd y £120,000 ei wario gan Rhys a Lisa Williams.
Fe ddywedodd Mr McVicar bod Rhys Williams yn gyfrifol am golli cartref ei deulu a chwalu ei fywyd teuluol.
Clywodd yr achos bod Williams hefyd wedi derbyn £350,000 o'r cwmni yn Dubai yn 2013.
Fe gododd y cwpl £72,000 mewn arian parod yn Sbaen, gwario £46,000 ar siopa, £9,000 ar fwytai a chlybiau nos, £7,000 ar lety gwyliau, a £7,000 ar addysg mewn ysgol ryngwladol yn Sbaen.
Cafodd £63,000 ei dalu i aelodau o'r teulu yn cynnwys tad Lisa Williams a'i thad yng nghyfraith a'i chwaer.
'Byw bywyd bras'
Yn ystod yr achos llys, cytunodd Lisa Williams ei bod wedi byw bywyd bras, ond roedd hi'n credu bod yr arian wedi dod o ffynhonnell ddibynadwy, ac yn deillio o gytundebau busnes ei gŵr.
Fe blediodd yn euog i fod â £120,000 o arian anghyfreithlon yn ei chyfrif banc.
Pan heriodd un o'r dioddefwyr Rhys Williams am yr arian, fe ddywedodd ei fod wedi ei wario ar gostau byw.
Wrth ddedfrydu Rhys Williams am y troseddau fe ddywedodd y Barnwr Carr bod y rhan roedd o wedi chwarae yn rhai o'r troseddau yn golygu ei fod yn arbennig o euog.
Roedd y troseddu wedi digwydd ar draws ffiniau ac roedd yr arian wedi ei ddefnyddio i ariannu bywyd bras.
Cafodd Rhys a Lisa Williams eu carcharu ynghyd â phedwar person arall.
Cafodd y cyn-gyfreithiwr Jonathan Denton, 63 oed, ei garcharu am 15 mlynedd.
Cafodd Susan Gillis, 54, ddedfryd o saith mlynedd a hanner am ddelio ag arian oedd wedi ei gael yn anghyfreithlon.
Carcharwyd y partner busnes Williams Jason Curtis, 53, am naw mlynedd am fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant a dwyn.
Cafodd Jamie Halfpenny, 46, ddedfryd o saith mlynedd a hanner am dwyll.
Dywedodd y Barnwr Carr y byddan nhw'n treulio hanner eu dedfryd dan glo a'r gweddill ar drwydded.
Un oedd yn y llys i weld Rhys Williams yn cael ei ddedfrydu oedd Tony Pritchard o Langristiolus, sy'n honni iddo golli £500,000 dros ddegawd yn ôl.
Roedd cwmni Mr Pritchard a'i feibion wedi adeiladu estyniad ar gartref gofal Sant Tysilio, yr oedd Rhys Williams yn ei redeg yn 2009.
Ond mae'n dweud na chafodd o ei dalu.
Ni wnaeth Rhys Williams wynebu cyhuddiadau mewn cysylltiad â Tony Pritchard.
Dywedodd Mr Pritchard: "O'r diwedd ar ôl 12 o flynyddoedd, fedra' i gau'r drws o'r diwedd ar Rhys a Lisa Williams."
"Mae 'di effeithio ar fy meddwl i, mae 'di effeithio ar fy iechyd i, mae'n effeithio ar fy llais i rwan... emosiynol."
Ychwanegodd: "Ges i dipyn o sioc ga'th o naw mlynedd. Mae hynny'n d'eud pa mor ddrwg mae o 'di bod."