Nadolig: Mwy o alw ar apêl deganau yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
apel

Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y teuluoedd sydd yn gofyn am gymorth yng nghyfnod y Nadolig wrth i gostau byw gynyddu, meddai trefnwyr apêl deganau yn Sir Gaerfyrddin.

Nod Apêl Teganau Nadolig Cyngor Sir Caerfyrddin yw cefnogi cannoedd o deuluoedd sy'n ei gweld hi'n anodd prynu anrhegion i'w plant.

Dywed y trefnwyr bod pob math o eitemau wedi'u cyfrannu a'u prynu ar gyfer yr apêl eleni - gan amrywio o lyfrau i nwyddau harddwch ac eitemau celf a chrefft.

'Canslo Dolig'

Mae cynnydd o 25% wedi bod, meddir, yn nifer y bobl sydd wedi'u henwebu ar gyfer derbyn anrheg.

Mae'r enwebiadau yn dod gan ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, canolfannau ieuenctid a theuluoedd yn bennaf.

Hyd yn hyn mae o leiaf 10,000 o anrhegion wedi eu casglu ac mi fyddan nhw yn cael eu didoli gan y cyhoedd a phlant o ysgolion lleol i deuluoedd sydd eu hangen.

Disgrifiad o’r llun,

Nia Thomas: 'Mae rhai o straeon y plant yn torri calon dyn'

Yn ôl Nia Thomas, Rheolwr Busnes yn Adran Addysg Cyngor Sir Gâr, mae'r gefnogaeth eleni yn bwysicach nag erioed.

"Ni'n casglu anrhegion a theganau yn uniongyrchol wrth y cyhoedd a chapeli ac ysgolion ac eglwysi a wedyn ni hefyd yn casglu cyfraniadau ariannol, a siopa wedyn ar gyfer prynu anrhegion a theganau.

"Mae e wedi taro fi y niferoedd ni'n siarad amdano yn Sir Gâr - pobl yn meddwl falle bod dim teuluoedd fan hyn yn dioddef caledi ond mae'r niferoedd yn profi i ni bod yr angen cymaint yn Sir Gâr ag yn unrhyw le arall ar draws Cymru.

"Mae'n taro dyn y storïau sy'n dod mas - plant yn dod mewn i'r ysgol ac ambell un yn dweud bod Dolig wedi'i ganslo yn eu tŷ nhw eleni ac mae hynna yn torri calon dyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian yn un o'r disgyblion sy'n helpu

Dywedodd Osian, un o'r plant oedd yn helpu i gasglu: "Bydd lot o blant ddim gyda anrhegion i Nadolig, os ydyn ni'n gwneud hyn mi fyddan nhw yn cael anrhegion so fydd e'n gwneud nhw yn fwy hapus."

'Nadolig yn anodd i lawer'

Er bod ysbryd yr ŵyl wedi cydio yn nifer, mae'r pwysau ariannol ar deuluoedd i'w weld yn glir yn ôl Pennaeth Ysgol Brynsierfel, Jane Davies.

"Mae'r Nadolig yn gallu bod yn amser hapus tu hwnt i nifer o deuluoedd ond y realiti i lawer iawn o bobl hefyd yw ei bod hi'n amser mwyaf anodd y flwyddyn," meddai.

"Mae'n amser unig, mae'n amser trist, ac amser lle maen nhw'n gorfod dewis rhwng rhoi bwyd ar y ford neu anrhegion i'w plant."

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n amser mwyaf anodd y flwyddyn i nifer,' medd Jane Davies, Pennaeth Ysgol Brynsierfel

Dywedodd Dr Steffan Evans Pennaeth Polisi Sefydliad Bevan: "Mae cael y gallu i fforddio'r anrhegion yna yn rywbeth mae lot yn cymryd yn ganiataol a bydd hi lot fwy anodd eleni.

"Ma' hynny yn mynd i fod yn broblem mewn lot fawr o gymunedau ar draws y wlad i gyd."

Pynciau cysylltiedig