Straen mam o ofalu am ferch â chanser mewn argyfwng costau byw

  • Cyhoeddwyd
Tilly Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tilly Jones, sydd bellach yn chwech, ddiagnosis o leukaemia pan yn bedair oed

Mae angen gofal, cynhesrwydd a hwyl ar Tilly Jones sy'n chwech oed ac yn byw gyda chanser.

Ond cymaint yw gofid ei mam, Gemma o Lanfair-ym-Muallt, Powys, am iechyd Tilly ac am gostau cynyddol, nes ei bod yn cael "ffit epileptig bron bob dydd".

Mae Gemma yn falch o'r ffordd mae Tilly yn dygymod â thriniaeth leukaemia, ond gyda phris tanwydd am deithiau 120-milltir i'r ysbyty a 'nôl yng Nghaerdydd yn uchel, mae'r gost ariannol yn bryder.

Yn ôl Gemma, sy'n fam i bedwar, mae dyddiau lle nad yw hi wedi gallu cael pryd twym o fwyd ei hunan, wrth iddi flaenoriaethu bwydo'r plant, sydd rhwng chwech a 16 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tilly yn un o bedwar o blant Gemma Jones

"Weithiau rwy'n gofyn i fi fy hun - ydw i'n gwneud job dda, neu ydw i'n ddiwerth?" dywedodd.

Mae'r teulu eisoes wedi torri 'nôl yn ariannol, gan ddibynnu o bryd i'w gilydd ar yr hwb cymunedol a'r banc bwyd lle mae Gemma'n gwirfoddoli.

Ar ben y straen yna, mae leukaemia Tilly wedi ychwanegu at y pwysau ariannol, gyda Gemma'n ceisio cadw ei merch mor gyfforddus a hapus ag sy'n bosib.

"Pan mae hi ar ei meddigyniaeth, mae'n bwyta fel ceffyl," dywedodd Gemma wrth raglen Wales Live.

"Mae'n rhaid i'r fridge fod yn llawn drwy'r amser, mae'r cwpwrdd yn gorfod bod yn llawn - a gyda nwy a thrydan dwi'n gweld hi'n anodd nawr.

"Rhoddes i arian mewn ryw ddiwrnod, ac wedyn top-up arall ddydd Llun. Dyw hi ddim yn deg."

'Sut mae dweud 'na' wrth blentyn sâl?'

Yn ystod un wythnos yn yr ysbyty, gwariodd Gemma tua £300 ar fwyd, ac ar bethau roedd Tilly eisiau fel cylchgronau a theganau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma'n dweud bod yn rhaid i Tilly gael digon o fwyd a gwres i'w chadw'n gyfforddus

"Sut allwch chi ddweud na wrth blentyn sâl?," dywedodd Gemma.

"Dwi dan straen, dwi'n cael ffit epileptig bron bob dydd achos y straen. Mae jyst yn galed. Dwi'n rhoi fy nghariad, a dyna'r cwbl alla i wneud."

Cafodd Tilly ddiagnosis o leukaemia ddwy flynedd yn ôl pan oedd hi'n bedair mlwydd oed, ac mae gofyn iddi fynd yn aml o'i chartref yn Llanfair-ym-Muallt i'r ysbyty yng Nghaerdydd.

Er gwaethaf help gan yr elusen Latch, mae'r costau petrol yn uchel.

Ni all Gemma weithio am resymau iechyd, a daw prif incwm y teulu gan dad y plant, sy'n yrrwr lori. Mae'r cynnydd mewn costau byw i deuluoedd plant â chanser yn "anghredadwy", meddai.

Mwy a mwy o deuluoedd yn gofyn am help elusen

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod llai nag 1% o achosion blynyddol o ganser yn y DU yn effeithio plant.

Ond mae elusennau'n dweud bod mwy a mwy o deuluoedd yn gwneud ceisiadau am grantiau i helpu gyda chostau.

"Bob blwyddyn ry'n ni'n gweithio gyda thua 120 o deuluoedd, a llynedd fe roddon ni bron i £300,000 o grantiau i deuluoedd," medd Menai Owen-Jones, prif weithredwr elusen Latch.

"Ry'n ni bendant yn gweld cynnydd yn y nifer o grantiau ry'n ni'n talu allan," dywedodd.

Dros y flwyddyn diwethaf ry' ni wedi gweld cynydd o 20%, ac ry' ni'n clywed teuluoedd yn dweud wrthym eu bod nhw'n poeni, yn ofidus."

Mae elusen Macmillan hefyd wedi galw am daliadau awtomatig pan fo diagnosis o ganser yn gael ei gadarnhau, yn hytrach na disgwyl i deuluoedd wneud cais.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod nhw'n cefnogi chwe miliwn o bobl ag anabledd neu broblemau iechyd gyda thaliad ychwanegol o £150.

"Rydyn ni'n erfyn ar bobl i sicrhau eu bod nhw'n derbyn yr holl fudd-daliadau sy'n ddyledus iddyn nhw, ac i fod yn ymwybodol o'r gefnogaeth ehangach sydd wedyn yn agored iddynt, gan gynnwys help gyda thrafnidiaeth a chysylltiad band-eang."

Bydd mwy ar y stori hon ar Wales Live ar BBC One Wales ar Dachwedd 30 am 22:50 ac ar Iplayer.

Os ydych chi wedi'ch effeithio gan y pynciau yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.