Y Wladfa: 'Angen i gynllun Cymraeg barhau wedi Covid'

  • Cyhoeddwyd
Dawnsio gwerin yn un o seremonïau Gorsedd Eisteddfod y Wladfa 2019Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymraeg yn dal i'w chlywed yn y Wladfa ac Eisteddfod yn cael ei chynnal yno bob blwyddyn

Mae 'na alwadau ar i'r cynllun sy'n anfon athrawon o Gymru i Batagonia barhau ar ôl y pandemig.

Does dim athrawon wedi gallu teithio i'r Wladfa ers mis Mawrth y llynedd oherwydd y cyfyngiadau teithio, ac mae athrawon yn bryderus na fydd hyn yn gallu digwydd beth amser eto.

Ym mis Mawrth y llynedd bu'n rhaid addasu'n gyflym, gyda chyfyngiadau Covid llym Ariannin yn golygu bod yr holl ddysgu wedi symud ar-lein.

Doedd dim byd am stopio Marian Brosschot, un o'r athrawon o Gymru a aeth i Batagonia fis Chwefror llynedd fel rhan o Gynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut gan y Cyngor Prydeinig.

Arhosodd Ms Brosschot yn Nhrelew am rai misoedd a pharhau â'r gwersi rhithiol.

Ffynhonnell y llun, Marian Brosschot
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Marian Brosschot aros yn y Wladfa am fisoedd lawer yn parhau â gwersi rhithiol

"O'n i wedi bod yn gweithio ar-lein trwy'r flwyddyn, wedyn dod 'nôl i Gymru dros y Nadolig efo'r bwriad o fynd 'nôl allan yna fis Chwefror eleni," meddai wrth Dros Frecwast.

"Ond wrth gwrs 'naeth hynny ddim digwydd, felly trwy eleni dwi wedi bod yn gweithio ar-lein o Gymru.

"Dwi 'di bod yn g'neud y gwersi arferol - dilyn y cyrsiau dysgu Cymraeg.

"Un rhan o'n gwaith ni hefyd ydy cynnal gweithgareddau cymdeithasol i ddod â phobl at ei gilydd er mwyn defnyddio'r Gymraeg, sydd wrth gwrs wedi bod yn dipyn o her."

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

2020 oedd y flwyddyn gyntaf i bob ysgol ddwyieithog y Wladfa gael athro eu hunain, cyn i'r pandemig daro

Er i Ms Brosschot lwyddo i gadw'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia, roedd prinder athrawon Cymraeg eisoes yn broblem yno.

Gyda'r Ariannin ar restr goch teithio Cymru a'r cyngor gan y Llywodraeth i beidio teithio'n rhyngwladol, y pryder nawr yw na fydd athrawon yn gallu teithio yno am amser hir i ddod.

Dywedodd Clare Vaughan, cydlynydd Dysgu Cymraeg y Wladfa fod y llynedd wedi argoeli i fod yn "flwyddyn arbennig".

"Dyma'r flwyddyn gyntaf i bob ysgol ddwyieithog gael athro eu hunain, a bod 'na dair yn rhan o'r cynllun oedd efo'r cymwysterau a'r sgiliau roedden ni'n edrych amdanyn nhw," meddai.

"Roedd yr athrawon wedi cyrraedd, ond o fewn mis roedd y cyfnod clo, felly roedd hynny'n anodd iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Clare Vaughan (canol) fod y llynedd wedi argoeli i fod yn "flwyddyn arbennig" yn y Wladfa

Mae Ms Vaughan yn gobeithio y bydd y cynllun yn gallu parhau er gwaethaf effeithiau dinistriol y pandemig ar gyllidebau.

"Mae'r cynllun yn cael ei ariannu trwy'r Cyngor Prydeinig ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am roi'r arian i mewn," meddai.

"'Da ni 'di gweld cymaint o brosiectau yn diflannu, fel Erasmus er enghraifft.

"'Da ni'n gobeithio y bydd y cynllun yn cario 'mlaen efo cefnogaeth y llywodraeth, nid jyst i ni yn y Wladfa ond hefyd i bobl Cymru fod yn falch ohono."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cymunedau'r Wladfa yn ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia

I gymunedau ardaloedd fel y Gaiman, Trelew ac yna Trevelin ac Esquel ger yr Andes, mae gweld a chwrdd â phobl ac athrawon o Gymru'n rhan bwysig iawn o'u bywydau.

Dywedodd Noe Sanchez Jenkins, merch yn ei 20au o Esquel ei bod "bob tro yn bleser derbyn pobl o Gymru".

"Maen nhw'n rhoi hwb fawr i ni," meddai.

"Pan ddechreues i ddysgu'r iaith ro'n i'n mynd i'r ganolfan ar gyfer cymdeithasu - dwi'n cofio oedd hi'n wych gwrando ar bobl sy'n cael eu Cymraeg fel mamiaith yn siarad am eu gwlad a'u diwylliant."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Noe Sanchez Jenkins o Esquel ei bod "bob tro yn bleser derbyn pobl o Gymru"

Ond dyw pethe'n sicr ddim yn ddrwg i gyd.

Mae tiwtoriaid lleol ac athrawon yr ysgolion, yn ôl Ms Vaughan, yn gweithio'n galed i gynnal y Gymraeg yno, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

"Gobeithio y bydd y cynllun yn gallu dal ymlaen ac y bydd pobl yn ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy nag oedden nhw," meddai

"Dwi'n gwybod fod pobl leol yn edrych 'mlaen i weld wynebau newydd, rhoi croeso iddyn nhw a dangos sut mae'r Gymraeg wedi goroesi mor bell i ffwrdd o Gymru.

"Felly gobeithio y bydd hynny'n gallu digwydd yn fuan."