Pryder am golled i'r iaith a busnesau heb deithiau i'r Wladfa

  • Cyhoeddwyd
Criw yr Urdd deithiodd i'r Wladfa yn hydref 2019Ffynhonnell y llun, URDD GOBAITH CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Criw yr Urdd a deithiodd i'r Wladfa yn hydref 2019 - ni chafwyd taith yr Urdd ers hynny ac nid oes un eto eleni

Mae absenoldeb teithiau tywys Cymraeg swyddogol i Batagonia yn bryder i nifer yn Y Wladfa oherwydd yr effaith ar yr iaith Gymraeg a busnesau yno sy'n ddibynnol ar dwristiaeth.

Yn gynharach eleni daeth cwmni Teithiau Tango, a sefydlwyd yn Aberystwyth yn 2008, i ben "oherwydd effeithiau Covid-19 ar y sector teithio rhyngwladol".

Bu cwmni Elvey MacDonald - Patagonia: Gwlad y Cewri - yn trefnu teithiau cyson i'r Wladfa rhwng 1996 a 2015 - sef 150 mlwyddiant sefydlu'r Wladfa.

Nid yw taith flynyddol yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru, sy'n galluogi 25 o Gymry ifanc i ymweld â Phatagonia, wedi ei chynnal ers 2019, ac ni fydd taith eto eleni.

Ffynhonnell y llun, Archif Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwladfawyr cyntaf

Yn 1865 ymfudodd tua 150 o bobl o bob cwr o Gymru ar long y Mimosa, gan hwylio o Lerpwl i ddechrau bywyd newydd ym Mhatagonia.

Erbyn heddiw mae lle i gredu bod tua 50,000 o bobl Patagonia â gwaed Cymreig.

'Colli'r grwpiau'

Dywedodd Ana Chiabrando Rees, perchennog bwyty a gwesty Plas y Coed yn y Gaiman, eu bod yn gweld eisiau'r grwpiau sy'n teithio o Gymru.

"Mae'r teithiau tywys swyddogol wedi dod i ben gyda'r clo, a nawr mae pethau'n dechrau'n dod yn ôl fel oedden nhw o'r blaen," dywedodd.

"Wrth gwrs ein bod ni'n colli'r grwpiau, a'r bobl oedd yn teithio ar eu pen eu hunain hefyd.

"'Dyn ni'n hoffi'n fawr croesawu'r Cymry, rhannu nosweithiau ac achlysuron - roedd yn rhywbeth arferol iawn i ni yma.

Ffynhonnell y llun, Plas y Coed
Disgrifiad o’r llun,

"'Dyn ni'n hoffi'n fawr croesawu'r Cymry, rhannu nosweithiau ac achlysuron," meddai perchennog Plas y Coed

"Er ein bod ni'n dal i gael cyfarfodydd arferol ers roedd hi'n bosib eto, roedd yn wych trefnu nosweithiau eraill i gael cwrdd â phobl newydd a chael cyfle i siarad mwy o Gymraeg.

"'Dyn ni'n gobeithio bydd hwnnw'n digwydd eto yn fuan iawn."

Cyfeiriodd hefyd at Ysgol yr Hendre Trelew: "Roedd cael ymwelwyr o Gymru yn gyfle arbennig i'r disgyblion ymarfer eu Cymraeg ac roedden nhw wrth eu boddau bob tro oedd Cymry'n ymweld â nhw."

Ffynhonnell y llun, Rhisiart Arwel
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd cael ymwelwyr o Gymru yn gyfle arbennig i'r disgyblion ymarfer eu Cymraeg"

Tebyg yw teimladau Andres Evans, perchennog bwyty Gwalia Lân yn y Gaiman: "'Dyn ni 'di colli ymwelwyr lot!

"Roedd yn neis iawn i gwrdd â phobl o Gymru bob blwyddyn.

"Ma' amser arbennig yn ystod yr Eisteddfod, a dwi'n credu ei fod yn bwysig iawn i gael ymwelwyr o Gymru.

"Un o'r pethau gorau yw gwrando ar yr iaith Gymraeg ar strydoedd y pentref ac yn y bwyty!

"Dwi'n meddwl bod pob pentref yn y dyffryn yn teimlo'r un peth."

Ffynhonnell y llun, Rhisiart Arwel
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd y cynllun Cymraeg yn 1997 gan y Ceidwadwr Rod Richards, oedd yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru, adran o Lywodraeth y DU

Aled Rees oedd rheolwr gyfarwyddwr Teithiau Tango - oedd yn mynd â thua 100 o Gymry i'r Wladfa yn flynyddol.

Dywedodd: "Roedd yn beth positif iawn i bobl ifanc yno i weld bod yr iaith yn fyw, ac yn ffasiynol hyd yn oed. Rwy'n pryderu am y golled honno yn fwy na dim.

"Mae 'na lawer o gadw cyswllt yn dal i ddigwydd ar gyfryngau cymdeithasol, Zoom a WhatsApp - mae'r byd yn fach nawr - ond roedd yn wastad yn braf i'r siaradwyr Cymraeg yno weld pobl o Gymru.

"Mae ymwelwyr yn helpu i gefnogi a chynnal yr iaith, a chyfeillgarwch rhwng Cymru a'r Wladfa."

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd yn gorymdeithio o Gapel Bethel i Feini'r Orsedd fel rhan o Eisteddfod Y Wladfa yn Hydref 2019

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dawns Werin yn ystod Seremoni'r Orsedd yn 2019

Esboniodd Mr Rees pam fod Teithiau Tango wedi cau: "Roedd yn amhosib i ni barhau oherwydd effeithiau Covid. Mae 100% o achos Covid.

"Roedd llawer o'r teithwyr dros 50 oed, ac yn aml newydd ymddeol, ac maen nhw'n pryderu am wario £5,000 neu £6,000 ar hyn o bryd.

"A be' fyddai'n digwydd pe bai rhywun ar y daith yn profi'n bositif am Covid?"

Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim modd parhau gyda chwmni Teithiau Tango, meddai'r rheolwr Aled Rees

Y daith olaf a drefnwyd gan gwmni Teithiau Tango oedd un a barodd 17 diwrnod yng nghwmni'r cantorion Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies yn Nhachwedd 2019.

Bu'n rhaid canslo dwy daith a drefnwyd ar gyfer 2020 oherwydd y pandemig: "Roedden ni wedi talu am lawer ymlaen llaw, ac roedd hynny'n dipyn o ben tost i ni."

Ychwanegodd ei fod ef a'i wraig Angeles yn gobeithio mynd â theithiau i Batagonia drachefn, efallai y flwyddyn nesaf.

'Dim trefniadau' gan yr Urdd

Yn 2019 oedd y daith ddiwethaf a drefnwyd ar y cyd rhwng yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru ar gyfer criw o bobl ifanc i ymweld â'r Wladfa, dolen allanol.

Ers 2008 maent wedi trefnu taith flynyddol sy'n galluogi 25 o Gymry ifanc i ymweld â Phatagonia, gyda dros 300 o bobl ifanc Cymru wedi cael y cyfle hyd yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd: "Nid oes trefniadau mewn lle i gynnal taith i Batagonia eleni.

"Nid oes modd i mi gadarnhau ar hyn o bryd beth yw'r cynlluniau o ran pryd fydd y daith nesaf gan fod trafodaethau yn parhau."

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhaglen Hawl i Holi BBC Radio Cymru ei chynnal yn y Tŷ Gwyn yn y Gaiman ym mis Hydref 2019

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cynllun yr iaith Gymraeg ym Mhatagonia eto yn y flwyddyn ariannol hon, gan "ddechrau cynllunio cyllidebau 2023-24 yn yr Hydref".

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru £55,000 i'r prosiect ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, £52,000 yn 2021-22 ac mae wedi ymrwymo £60,000 ar gyfer 2022-23.

Nod y cynllun yw "hybu a datblygu'r Gymraeg yn rhanbarth Chubut ym Mhatagonia ac mae'n caniatáu secondio athrawon i gymunedau targed allweddol, datblygu athrawon lleol, sefydlu cyrsiau strwythuredig a hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd cyllid llawn yn parhau i fod ar gael ar gyfer y prosiect yn ystod y pandemig.

"Galluogodd y cyllid hwn i'r prosiect gefnogi, cynnal a chydlynu'r rhwydwaith o diwtoriaid Cymraeg eu hiaith sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth yn ystod cyfnod heriol o gyfyngiadau teithio a chau ysgolion.

"Roedd y cyllid hefyd yn fodd i gyflwyno arloesedd ar-lein a digidol y mae mawr ei angen, gan ganiatáu rhywfaint o ddysgu a gweithgareddau eraill i barhau, a denu dysgwyr Cymraeg o'r tu allan i ranbarth Chubut.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r prosiect eto eleni, a fydd yn gweld lleoliadau i athrawon o Gymru ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb yn dychwelyd, sydd yn rhan allweddol o'r prosiect."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol