'Wnes i erioed feddwl fyswn i'n chwarae Wayne Rooney!'
- Cyhoeddwyd
"Fel actor ti yn meddwl pwy fysat ti'n gallu ei actio; wnes i erioed feddwl fyswn i'n chwarae Wayne Rooney!"
Mae'r actor Dion Lloyd o Borthmadog wedi bod yn byw a bod y pêl-droediwr oedd yn un o sêr Manchester United a Lloegr yn y 2000au ers cael rhan yn ei bortreadu yn nrama Channel 4, Rooney v Vardy: A Courtroom Drama.
Fe wnaeth yr achos llys rhwng gwraig Rooney, Coleen, a Rebekah Vardy, hoelio sylw fis Mai 2022 wedi i Rooney gyhuddo Vardy o werthu ei straeon Instagram i'r papurau a Vardy yn ei thro yn mynd a Rooney i'r llys am enllib.
Fel hogyn ifanc yn Port oedd yn cefnogi Lerpwl ond ag edmygedd mawr tuag at Rooney yn Manchester United fedrai Dion ddim dychmygu y byddai rhyw ddydd yn actio'r pêl-droediwr ar deledu.
"Oedd na lot i feddwl amdano fel actor Cymraeg sy'n chwarae rhywun o Lerpwl sy'n syportio Everton ond wnaeth chwarae i Man U!" meddai.
Mae'r ddrama-ddogfen mewn dwy ran ac yn dilyn mwy neu lai yr union eiriau ddywedwyd yn yr achos uchel-lys oedd yn llenwi colofnau'r papurau tabloid ar y pryd.
Mae'n deg dweud mai Coleen (Chanel Cresswell) a Rebekah Vardy (Natalia Tena) yw sêr y sioe hon ond daw moment fawr Dion yn yr ail bennod pan mae Wayne yn cael ei alw i roi tystiolaeth.
Gweld wyneb Rooney wrth gysgu a deffro!
Roedd rhaid i Dion ddysgu osgo ac acen Lerpwl Rooney ac fe wnaeth hyn drwy wylio popeth roedd yn gallu cael gafael arno ar y we.
"O'n i'n gwylio bob un o'i post match talks ar ôl gemau a gweld sut mae'n siarad... nes i weld documentary amdano fo - Rooney ar Amazon - oedd hwnna'n ffordd dda i'w weld o tu ôl i'r camera - efo'i deulu a'i berthynas efo Colleen; oedd hwnna'n help mawr.
"O'n i'n gwrando a gwrando arno fo. O'n i'n cau fy llygaid ac yn gweld gwyneb Wayne Rooney pan o'n i'n mynd i gysgu a pan o'n i'n deffro!
"Ac o'n i'n gorfod newid y ffordd ydw i - mae pawb efo'i mannerisms gwahanol - dwi'n eitha' siaradus, a deud y lleiaf, a dydi o ddim, so o'n i'n gorfod mynd oddi wrth hynna."
"Nes i bigo tri peth mae o'n wneud, yn gorfforol: o'n i'n sylwi bob tro mewn cyfweliad ei fod bob tro yn edrych i'r chwith i ateb; o ran ei wefusau, mi roedd o'n llyfu ei ddannedd; ac efo'r llais - nid dim ond yr acen ti'n gorfod meddwl amdano ond mae ton y llais yn bwysig iawn - oedd na lot i weitho arno fo."
O ran yr acen, roedd wedi gwneud ei waith cartref ac roedd ganddo hyfforddwr acenion ar y set yn ei helpu, ond roedd y ffaith ei fod o ogledd Cymru yn help hefyd.
"Dydi gogledd Cymru ddim mor bell i ffwrdd o Lerpwl... mae'r ffordd rydyn ni'n siarad Saesneg yn y gogledd yn agos at Gaer a Lerpwl dwi'n meddwl; ond roedd o'n dal yn sialens."
Wedi ymddangos ar gyfresi fel Craith ac yn fwy diweddar Y Golau, mae Dion wedi bod yn hoffi dynwared pobl ers pan oedd yn fach ac mi gafodd gyfle i chwarae gydag acenion gwahanol yn y gyfres gomedi i blant ar Stwnsh, S4C, Cacamwnci.
"Ond mae'n fwy o gyfrifoldeb i chwarae rhywun go iawn," meddai, "ti'n gorfod eu parchu nhw; ti ddim yn ei wneud o fel caricature ti'n gorfod 'neud o fel person iawn a nes i fynd mewn i'r cymeriad mewn ffordd sensitif a difrifol."
Gweithio gyda Michael Sheen
Cafodd Dion ddigon o gyfle i eistedd yn gwylio ei gyd-Gymro Michael Sheen wrth ei waith yn actio bargyfreithiwr Coleen Rooney.
"Pan nes i glywed ei fod o yn y prosiect oedd o bach yn swreal. O'n i ddim yn coelio fo achos dwi di edrych fyny iddo fo ers gymaint - mae o'n un o actorion gorau ei genhedlaeth o ran cymeriadau - i fi actio fel cymeriad efo fo, oedd o'n benchmark i be dwi wedi ei gyflawni yn fy ngyrfa - nod bach [i ddangos] mod i wedi gwneud yn OK.
"Oedd o'n bleser ei weld yn gweithio a dod i'w adnabod o, dim jyst Michael Sheen ond yr holl gast - Chanel Cresswell, sy'n chwarae ngwraig i, oedd hi'n anhygoel i weithio gyda, a Natalia Tena a Simon Coury, [bargyfreithiwr Vardy]."
Oes ganddo fo farn ar yr holl achos?
"Ar y pryd o'n i ddim yn dilyn yr achos - yn amlwg o'n i wedi clywed amdano fo - ond wrth ffilmio o'n i mond yn gweld drwy lygaid Wayne Rooney, dim fi fy hun - ro'n i yno i gefnogi fy ngwraig. Dydi o ddim am Wayne Rooney, mae o am Coleen a mae Wayne Rooney yna i supportio ei wraig, a dyna beth wnaeth o."
Wedi dechrau ar ei yrfa yn astudio cwrs celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai, yna Prifysgol y Drindod Dewi Sant, mae Dion yn byw yn Llundain bellach ers iddo symud yno i astudio gradd uwch gyda'r Royal Central School of Speech and Drama.
Felly beth mae'n obeithio ei wneud nesa'?
"Ti byth yn gywbod be ti'n neud nesa fel actor; un diwrnod ti'n bwyta brecwast a ti'n cael phone call am audition i chwarae Wayne Rooney. Ti byth yn gwybod be sy'n digwydd nesaf!"
Mae Vardy V Rooney: A Courtroom Drama yn dechrau am 9pm nos Fercher 21 Rhagfyr ar Channel 4, gyda'r ail bennod y noson wedyn ar 22 Rhagfyr.
Hefyd o ddiddordeb: