Mam yn cyfaddef dynladdiad ei merch drwy ganiatáu gordewdra

  • Cyhoeddwyd
Kaylea Louise TitfordFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylea Louise Titford ei chanfod yn farw yn ei chartref ym Mhowys yn Hydref 2020.

Mae mam o Bowys wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ei merch drwy esgeulustod difrifol, ar ôl caniatáu iddi fynd yn glinigol ordew.

Fe wnaeth Sarah Jane Lloyd-Jones, 39, ymddangos o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 12 Rhagfyr.

Cafodd Kaylea Louise Titford, 16, ei chanfod yn farw yn ei chartref ym Mhowys yn Hydref 2020.

Mewn gwrandawiad blaenorol fe wnaeth yr erlyniad honni fod ei rheini wedi methu cwrdd ag anghenion dietegol Kaylea, ac o ganlyniad iddi fynd yr ordew.

Disgrifiad o’r llun,

Sarah Lloyd-Jones ac Alun Titford yn cyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug mewn gwrandawiad blaenorol

Fe fydd Alan Titford, 44, yn ymddangos yn y llys ym mis Ionawr.

Mae o'n gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac o ganiatáu marwolaeth plentyn neu berson bregus.

Fe fydd Ms Lloyd-Jones yn cael ei dedfrydu ar ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau.

Pynciau cysylltiedig