Blog Vaughan Roderick: Ffarwel yr hen goes
- Cyhoeddwyd
Wedi cyfnod o salwch, mae Vaughan Roderick wedi ysgrifennu ei flog diweddaraf i BBC Cymru Fyw, ac mae'n dechrau gyda newyddion personol.
Mae 'na duedd i ni gyd feddwl bod rhai pethau yn y byd yma'n wydn ac yn ddigyfnewid.
Dyna oeddwn i'n meddwl am fy nwy goes, er enghraifft, ond nid felly y bu pethau.
Fe ddiflannodd un ohonynt i'r mwg uwchben ysbyty'r Mynydd Bychan ar ôl i fân law-feddyginiaeth droi'n dipyn o saga.
Dyna'r esboniad am fy absenoldeb o'r tudalennau hyn a'ch tonfeddi radio a theledu dros y misoedd diwethaf.
Mae'n ffodus ei bod wedi bod yn gyfnod digon tawel yn y byd gwleidyddol!
Beth yw tri Phrif Weinidog ac un Frenhines rhwng ffrindiau?
Jôc yw hynny, wrth reswm, ond mae'n deg i ddweud bod deiliaid Downing Street a Phalas Buckingham yn ddigon meidrol o gymharu â'r peth mwyaf gwydn yn ein gwleidyddiaeth, sef y blaid Geidwadol.
Mae Torïaid yn hoff o frolio mae eu plaid nhw yw'r hynaf a mwyaf llwyddiannus yn y byd ond ydy ei hoes yn dirwyn i ben? Ydy hi bellach wedi ei chwalu'n deilchion ac yn du hwnt i'w hadfer?
Ydy hi, fel yr hen goes, wedi cyrraedd pen ei dyddiau'n ddisymwth?
'Eistedd yn ôl a gwylio'r llanast'
Efallai'n wir fod y blaid yr oeddem yn gyfarwydd â hi eisoes yn ei bedd.
I ble'r aeth y blaid bwyllog, gofalus, amddiffynnydd traddodiadau a sefydliadau Prydain, yr opsiwn saff i etholwyr? Does fawr o olwg ohoni.
Yn ei lle mae gennym blaid sydd yn fwyfwy caeth i ideoleg - rhywbeth oedd yn wrthun i genedlaethau o Geidwadwyr, a lle mae'r hen ystrydeb mai teyrngarwch yw arf ddirgel y Ceidwadwyr wedi ei hanghofio.
Mae hon yn blaid sydd yn gaeth i garfan sy'n argyhoeddedig ei bod yn cynrychioli 'mwyafrif mud' o'r boblogaeth tra bod y cyfan o'r dystiolaeth yn awgrymu i'r gwrthwyneb.
O dan y fath amgylchiadau, mae'n anodd beio Llafur am orffwys ar ei rhwyfau.
Fe ddaw amser pan fydd angen gweledigaeth a pholisïau gan yr wrthblaid ond mae strategaeth o eistedd yn ôl a gwylio'r llanast gyferbyn yn gwneud synnwyr am nawr.
Oes modd i Rishi Sunak adfer y sefyllfa? Does 'na fawr o arwydd o hynny hyd yma ond fe gawn weld. Hwyrach bod modd i mi ail-dyfu'r goes yna hefyd!