Blaenafon: Tenantiaid yn brwydro yn erbyn lleithder a llwydni yn eu cartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn dweud ei bod hi'n mynd i'r gwely erbyn chwech o'r gloch rhai nosweithiau i gadw'n gynnes gan fod ei fflat mor oer a llaith.
Dywed Denise Jones fod llwydni du parhaus yn ei hystafell ymolchi a daeth o hyd i gaws llyffant yn tyfu yn ei chegin.
Dywedodd ei landlord, cymdeithas dai Bron Afon, y byddai'n "parhau i weithio" gyda hi i ddatrys unrhyw faterion.
Mae gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu at landlordiaid cymdeithasol "yn ceisio sicrwydd brys" ar sut maen nhw'n monitro ac yn ymateb i broblemau lleithder a llwydni.
Mae Denise, 56, yn rhannu fflat llawr cyntaf dwy ystafell wely gyda'i mab Robert, 34 a'i merch Abbie, 18.
Mae hi wedi byw yno ers 20 mlynedd ond mae'n dweud iddi ddechrau cael problemau gyda lleithder a llwydni bedair blynedd a hanner yn ôl ar ôl i swm mawr o eira fynd i mewn i'w llofft.
Roedd contractwyr wedi tynnu'r to i wneud gwaith inswleiddio waliau ceudod pan darodd Storm Emma.
Pan doddodd yr eira, llifodd dŵr i'r fflat gan achosi i'r nenfydau ddymchwel.
Er i'r difrod cychwynnol gael ei atgyweirio, dywed y teulu fod y fflat wedi teimlo'n oerach ac yn fwy llaith ers hynny.
Dywedodd Denise nad yw'n teimlo fel y cartref yr arferai fod.
'Llwydni parhaus'
"O'n i'n arfer caru fe fan hyn ond byddwn i'n symud yfory taswn i'n cael y cyfle."
Maen nhw'n dweud bod llwydni parhaus uwchben ffenestr yr ystafell ymolchi er gwaethaf cadw'r ystafell wedi'i hawyru.
"Rydyn ni'n ei baentio'n rheolaidd, yn ei lanhau â channydd, a chynhyrchion glanhau cartref eraill dim ond i'w gadw mor isel â phosibl," meddai Robert.
Ychwanegodd fod lleithder hefyd wedi bod yn y gegin.
"Rydyn ni i gyd yn dioddef o'r fogfa, dwi'n gweld yn arbennig yr adeg yma o'r flwyddyn fy mod yn dioddef gyda llawer o heintiau ar y frest.
"Mae'n arogli'n eithaf drwg, yn enwedig pan mae'n gynnes neu pan fydd y gwres ymlaen.
"Mae hynny'n arwain at deimlo'n sâl neu ddim eisiau mynd i'r ystafell ymolchi."
'Costio ffortiwn'
Dywedodd Denise fod y problemau lleithder a llwydni yn dod â chostau ychwanegol.
"Mae'n rhaid i chi agor y ffenestr yn y tywydd oer hwn, mae'n rhaid i ni gael y fent ar agor, rydyn ni wedi cael gwybod, trwy'r flwyddyn.
"Mae'n costio ffortiwn i mi gyda phaent, cannydd."
Gyda biliau ynni mor uchel, mae gorfod rhoi'r gwres ymlaen yn fwy yn eithriadol o heriol, meddai.
"Rhai nosweithiau mae hi mor oer dwi just yn mynd i'r gwely.
"Rydw i yn y gwely rhai nosweithiau erbyn chwech o'r gloch dim ond yn ceisio cadw'n gynnes.
"Poteli dŵr poeth, dillad ychwanegol ymlaen, dyna'r ffordd rydych chi'n byw.
"Rwy'n byw ar fisgedi rhai dyddiau dim ond i wneud yn siŵr bod fy mab a fy merch wedi cael bwyd."
Dywedodd Robert ei fod wedi bod yn hepgor prydau bwyd hefyd i arbed arian a bod £20 ar nwy yn para "tri neu bedwar diwrnod os ydych chi'n lwcus".
Maen nhw am i Bron Afon weithredu i wneud y cartref yn gynhesach ond maen nhw'n teimlo nad yw'r gymdeithas dai "yn gwrando".
'Poeni'
Dywedodd y cynghorydd lleol Janet Jones bod nifer o bobl sy'n byw yn yr ardal wedi cael problemau ers stormydd 2018.
"Mae preswylwyr yn dod ataf i egluro eu bod yn profi lleithder, llwydni sydd i gyd wedi cael eu hadrodd i Bron Afon.
"Mae'n fy mhoeni bod pobl yn dod o hyd i leithder a llwydni yn eu heiddo ac yn dioddef o broblemau anadlu."
Mae Scott Tanner, 31, yn byw gyferbyn â'r Jonesiaid mewn fflat un gwely ac mae hefyd wedi cael problemau ers y storm pan gafodd eira yn ei groglofft a dŵr yn rhedeg i lawr y waliau.
Aeth ei ystafell ymolchi mor llaith nes i'r paent a'r plastr ddechrau dod i ffwrdd.
Dywedodd ei fod yn "straen ofnadwy" gorfod rhoi'r gwres ymlaen yn fwy gan fod y fflat yn "ddrafftus iawn".
"Dydd Mercher diwethaf rhoddais £25 ar y gwres a bu'n rhaid i mi roi £20 arall arno ddoe [dydd Mawrth]."
'Cyngor a chymorth'
Dywedodd Catherine Love o gymdeithas tai Bron Afon eu bod wedi "gweithio'n agos" gyda Denise, Robert a Scott i "ddatrys y materion y maen nhw wedi adrodd i ni ers peth amser".
"Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i ddatrys unrhyw faterion eraill a darparu cyngor a chymorth os a phan fydd ei angen arnynt.
"Ar adeg y storm yn 2018, roeddem yn gweithio ar y cartrefi hyn fel rhan o raglen fuddsoddi wedi'i chynllunio i wella effeithlonrwydd ynni mewn nifer o gartrefi yr oeddem wedi'u nodi ar gyfer gwelliant.
"Roedd yr amgylchiadau a arweiniodd at y problemau yn ystod y storm y tu hwnt i'n rheolaeth, ond fe wnaethom ymateb yn gyflym i ddelio â'r canlyniadau uniongyrchol ac yna cwblhau'r gwaith yn briodol pan oedd y tywydd yn caniatáu.
"Rydym yn deall pa mor anodd y mae costau byw yn ei gwneud hi i lawer o bobl gynhesu eu cartrefi.
"Rydym yn rhoi cymorth a chyngor i'n holl gwsmeriaid ar y ffyrdd gorau o gadw eu cartrefi'n gynnes ac wedi'u hawyru i atal lleithder a llwydni."
'Camau ar unwaith'
Mae cymdeithasau tai Bron Afon a Melin yn berchen ar tua 12,500 o eiddo yn Nhorfaen.
Mae'r ddau sefydliad wedi nodi 64 eiddo i'r cyngor sydd angen "camau ar unwaith" i fynd i'r afael â lleithder a llwydni, meddai'r Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol.
Ar wahân, fis diwethaf, ysgrifennodd y gweinidog tai Julie James at bob landlord cymdeithasol yng Nghymru ar ôl i grwner ddod i'r casgliad bod y plentyn bach Awaab Ishak o Rochdale wedi marw o gyflwr anadlol a achoswyd gan ddod i gysylltiad â llwydni yn ei gartref.
Fe wnaeth Ms James "atgoffa" landlordiaid o'u "cyfrifoldeb sylfaenol i gynnal a chadw eiddo yn iawn".
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ysgrifennu at bob landlord cymdeithasol yn "ceisio sicrwydd brys" ar sut maen nhw'n monitro ac yn ymateb i broblemau lleithder a llwydni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022