'Heriau' wrth geisio adfer cyflenwad dŵr 200 o gwsmeriaid

  • Cyhoeddwyd
Tap dŵr

Mae Dŵr Cymru'n dweud bod yna amodau "arbennig o heriol" o ran adfer cyflenwadau i gwsmeriaid yn y gorllewin sy'n dal heb ddŵr ers y penwythnos.

Dywedodd y cwmni mai hyd at 200 o gartrefi neu fusnesau oedd yn dal heb gyflenwad erbyn nos Fercher, a bod eu timau'n gweithio dros nos i geisio datrys y sefyllfa.

Fe gododd trafferthion dros y penwythnos wedi i'r tywydd rhewllyd achosi difrod i bibellau.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro eto i gwsmeriaid sy'n dal heb gyflenwad.

Fe gafodd miloedd o gwsmeriaid eu heffeithio yn y lle cyntaf ac roedd y cwmni wedi gobeithio adfer cyflenwad pawb erbyn bore Mercher.

Ni fu'n bosib gwneud hynny ond yn sgil "cynnydd da" yn ystod y dydd roedd nifer y cwsmeriaid heb ddŵr wedi gostwng o 900 ben bore Mercher i "hyd at 200" erbyn nos Fercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi gosod gorsafoedd dŵr yfed yn y mannau sydd wedi eu heffeithio

Mae'r heriau o ran yr adeiladau sy'n dal heb gyflenwad yn ymwneud â phroblemau gyda'r pwysedd o fewn y rhwydwaith dŵr wedi i rew'r penwythnos ddadmer.

Mae'r cwmni hefyd yn rhybuddio y gallai rhai golli eu cyflenwadau eto dros dro oherwydd cloeon aer yn y system, a bod eu timau'n "gweithio ddydd a nos i ganfod a datrys unrhyw broblemau o'r fath".

Ar ben hynny mae'r cwmni'n delio â phibellau eraill sydd wedi byrstio, na wnelo'r difrod â'r tywydd oer diweddar.

Mae hynny, meddai, yn rhywbeth "sy'n digwydd ar ein rhwydwaith dŵr sydd bron i 30,000 km o hyd o dan amgylchiadau arferol".

Ychwanegodd: " Unwaith eto mae gennym dimau sy'n delio â'r ddau fater hyn cyn gynted â phosibl.

"Rydym yn parhau i gael gorsafoedd dŵr potel mewn gwahanol leoliadau yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fel mesur rhagofalus."

Mae'r gorsafoedd hynny yn Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Cydweli, Aberaeron ac Aberteifi.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhai pocedi'n dal heb ddŵr... ond mae'r darlun yn bendant yn well yma bore 'ma," medd y Cynghorydd Elizabeth Evans

"Rydym oll yng Ngheredigion yn gobeithio bod trigolion yn deffro ac yn cael dŵr yn dod o'u tapiau," meddai'r cynghorydd sir Elizabeth Evans, sy'n cynrychioli Aberaeron ac Aberarth, ar raglen Radio Wales Breakfast.

"Rwy' wedi siarad â chydweithwyr yn Aberteifi bore 'ma - mae mwyafrif helaeth y dref yn ôl â dŵr.

"Mae rhai pocedi'n dal heb ddŵr ac mae'r un peth yn wir yma yn Aberaeron ond mae'r darlun yn bendant yn well yma bore 'ma."

Pynciau cysylltiedig