Dros draean o blant mewn tlodi cyn argyfwng costau byw
- Cyhoeddwyd
Tlodi yw'r her unigol fwyaf sy'n wynebu pob haen o lywodraeth yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'n nodi bod mwy fyth o bobl yn byw mewn tlodi erbyn hyn, a bod teuluoedd sydd wedi byw'n gyfforddus, bellach yn profi tlodi am y tro cyntaf.
Mae swyddfa Archwilio Cymru yn galw am newidiadau eang i sut mae Llywodraeth Cymru a chynghorau'r wlad yn mynd ati i helpu'r nifer cynyddol sy'n dlawd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn eu gallu" i roi cymorth i bobl gyda chostau byw.
Er nad yw tlodi yn newydd i Gymru, mae'r adroddiad yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn golygu ei fod ar gynnydd ym mhob rhan o'r wlad.
Mae lefelau tlodi'n dal i fod yn "ystyfnig o uchel" ac yn cael effaith ar bobl o bob oed - o blant i bensiynwyr.
Mae'n nodi hefyd bod rhai'n profi tlodi "yn barhaus".
Yn ôl Euros Lake, Uwch Archwilydd gydag Archwilio Cymru, mae data'r Adran Gwaith a Phensiynau'n dangos bod 22% o bobl Cymru'n byw mewn tlodi, a 34% - mwy na thraean - o blant Cymru.
"Beth sy'n dychryn rhywun yw bod y data, y ffigyrau yma i gyd yn adlewyrchu'r sefyllfa cyn yr argyfwng costau byw presennol, ac mae hynny'n amlwg yn gwthio mwy a mwy o bobl i mewn i sefyllfaoedd bregus lle mae nhw'n stryglo i ddod â dau ben llinyn ynghyd," dywedodd.
Pwrpas asesiad ac adroddiad Archwilio Cymru yw cynnig ffordd ymlaen i lywodraeth a chynghorau i wneud gwell defnydd o adnoddau i liniaru effeithiau tlodi.
'Angen gwneud y mwyaf o ymdrechion'
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton ei fod yn "cydnabod graddfa'r her dan sylw".
"Mae'n hanfodol felly bod Llywodraeth Cymru a chynghorau yn gwneud y mwyaf o'u hymdrechion ac yn mynd i'r afael â'r gwendidau.
"Mae angen i ni sicrhau bod pob haen o'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i helpu pobl," dywedodd.
Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad, gan gynnwys:
Strategaeth genedlaethol a thargedau i leddfu tlodi.
Strategaeth, targedau ac adroddiadau lleol gan bob awdurdod lleol.
Pob cyngor i benodi aelod cabinet i arwain yr ymdrech yn erbyn tlodi.
Pob cyngor i greu un dudalen ar gyfer pobl sy'n chwilio am gymorth.
Yn ôl Archwilio Cymru mae tua £1bn o arian cyhoeddus yn cael ei wario bob blwyddyn ar ymateb i dlodi.
Mae hyn yn cynnwys £152m gan Lywodraeth Cymru'r llynedd, ffigwr fydd yn codi i £162m eleni.
Ond mae Archwilio Cymru'n dadlau bod modd gwneud gwell defnydd o'r arian.
Yn ôl Euros Lake, mae angen i'r system bresennol fod yn "symlach".
"Dwi ddim yn meddwl bod neb yn dadlau nad yw'r pres yma'n gwbl angenrheidiol, oni bai amdano fe fyddai'r sefyllfa bresennol yn llawer iawn gwaeth," dywedodd.
"Ond be 'dan ni'n ei weld ydy tase'r ffordd mae'n cael ei weinyddu dipyn bach yn symlach a tase'r ffocws yn symud i ffwrdd i raglenni neu brosiectau, grantiau tymor byr, byse'r effaith y mae'r arian yn ei gael yn llawer iawn mwy na mae'n ei gael ar hyn o bryd."
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw'n benodol at "natur tymor byr rhaglenni grant, gweinyddiaeth rhy gymhleth, gwendidau mewn canllaw a chyfyngiadau grant, a thrafferthion gwario arian yn golygu nad yw arian yn cael yr effaith y gallai".
'Methu amddiffyn pawb'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud popeth o fewn eu gallu i daclo tlodi a helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw".
Dywedon eu bod gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn "rhoi cymorth sy'n cael ei dargedu i'r bobl sydd ei angen fwyaf a thrwy rhaglenni cyffredinol i roi arian 'nôl ym mhocedi pobl".
"Ond, fyddwn ni ddim yn gallu amddiffyn pawb o ystyried maint a graddfa y problemau ariannol gafod eu achosi gan y modd y mae Llywodraeth y DU wedi cam-drin cyllid cyhoeddus."
Mae cydlynydd HWB Dinbych wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r ganolfan i gael cymorth a chefnogaeth yn ddiweddar.
"Dwi'n meddwl bod ni 'di gweld ein hunain yn brysurach," meddai Elain Lloyd.
"Mae digartrefedd ymysg pobl ifanc yn eitha' uchel, ac ma' hynny'n dychryn ni. Dwi'n 'neud mwy o vouchers banc bwyd i bobl."
Yn ôl Elain mae pobl hefyd yn dod i'r ganolfan i gasglu bwyd a chynnyrch mislif.
Dywedodd hithau hefyd y byddai system symlach i fynd i'r afael â thlodi yn gymorth.
Fe gyfeiriodd yn benodol at gynlluniau ariannu tymor hir: "Ni'n gorfod chwilio am pots gwahanol o arian i fundio ni y staff a prosiectau, so byse cael security o funding yn gwneud pethe'n haws ac yn galluogi ni i baratoi at y blynyddoedd i ddod."
Mae mynd i'r afael â thlodi a thlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth i lywodraeth Cymru ers dros ddegawd, yn ôl Archwilio Cymru.
Ond maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith bod llawer o'r dulliau i leihau effaith tlodi tu hwnt i reolaeth Cymru yn sgil pwerau datganoli.
Dywedodd Euros Lake: "Mae 'na limit i beth mae Llywodraeth Cymru'n gallu ei wneud i fynd i'r afael efo tlodi - pethau fel meysydd allweddol fel systemau budd-daliadau a system lles, pethe fel cyflogaeth ac isafswm cyflog, i gyd yn bethau sy'n dal yn eistedd gyda llywodraeth San Steffan."
'Twll du o £802m'
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau lleol yn gwneud gwaith da o ran mynd i'r afael â thlodi o fewn cymunedau ond eu bod "yn wynebu twll du o £802m yn eu cyllidebau dros y ddwy flynedd nesaf".
Rhybuddiodd y gallai'r fath fwlch, yn niffyg arian ychwanegol, arwain ar "oblygiadau trychinebus i wasanaethau cymunedol hanfodol fel gofal cymdeithasol, tai ac ysgolion, ac amharu'n ddifrifol ar waith cynghorau".
Ychwanegodd: "Rydym yn erfyn ar Lywodraeth y DU i gadarnhau cyllid ar gyfer Cymru, i alluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y gwasanaethau hanfodol yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn gwybod bod yna bryder ar aelwydydd ynghylch costau cynyddol a dyna pam rydym yn gwarchod y teuluoedd mwyaf bregus yng Nghymru gydag o leiaf £1,200 mewn taliadau uniongyrchol."
Ychwanegodd bod y gronfa newydd a ddaeth yn lle cyllid o'r Undeb Ewropeaidd "yn rhoi rheolaeth i bobl leol, yn hytrach na Brwsel, sut mae arian yn cael ei wario... ac yn sicrhau bod arian yn mynd i ardaloedd sydd ei angen fwyaf".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020