Blwyddyn 'waethaf' Cymru ers degawd - ond beth nesaf?
- Cyhoeddwyd
I rai o gefnogwyr pêl-droed Cymru bydd 2022 wastad yn flwyddyn arwyddocaol, a charreg filltir hanesyddol nid yn unig i'r tîm, ond i'r wlad gyfan.
Bydd eraill yn ei chofio nid oherwydd ein bod ni wedi cyrraedd Cwpan y Byd, ond am y perfformiadau siomedig a gafwyd allan yn Qatar.
Felly sut ddylen ni fod yn edrych yn ôl ar orchestion y garfan eleni, a beth mae'r ystadegau'n ei ddweud wrthyn ni?
Ac yn bwysicach fyth efallai, beth yw'r gwersi i'w dysgu wrth i Gymru symud ymlaen i 2023 a thu hwnt?
Ysgrifen ar y wal
O edrych yn ôl, mae'n bosib bod yr ysgrifen ar y wal eisoes ynglŷn â pherfformiadau a chanlyniadau'r tîm.
Cyn Cwpan y Byd doedd Cymru ond wedi ennill dwy o'u 10 gêm ddiwethaf - sef y gemau ail gyfle tyngedfennol yn erbyn Awstria ac Wcráin. Aeth yr un tîm arall i'r gystadleuaeth ar rediad mor wael.
Traean o'r meddiant yn unig gafodd Cymru yn y ddwy fuddugoliaeth honno, a'u gwrthwynebwyr hefyd yn cael mwy o ergydion ar y gôl. Fe enillon nhw diolch i ddwy gic rydd hudolus Gareth Bale, ac ergyd oportiwnistaidd arall ganddo o gic gornel.
Yn Qatar, daeth eu hunig bwynt a'u hunig gôl unwaith eto o gic osod, gyda Bale yn ennill a chladdu'r gic o'r smotyn yn erbyn yr UDA.
Fe orffennon nhw'r flwyddyn gyda'u set gwaethaf o ganlyniadau mewn degawd, oedd yn cyfateb i 0.75 pwynt y gêm.
Dim ond dwywaith ers 2003 y mae'r tîm wedi cael blwyddyn waeth - 2010, sef diwedd cyfnod John Toshack, a 2012 pan oedd y garfan dal yn dod dros farwolaeth Gary Speed.
Oedd, mi oedd eu gemau nhw eleni'n anoddach na'r arfer. Cafwyd dwy yr un yn erbyn Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl - tri thîm oedd hefyd yn Qatar - yn ogystal â grŵp Cwpan y Byd ble roedd pob un o'r gwrthwynebwyr yn 20 uchaf detholion y byd.
Ond ar y llwyfan mawr mae'n rhaid trechu'r goreuon, a dydy Cymru heb lwyddo i guro'r un tîm sy'n uwch na nhw yn rhestr FIFA ers y Belgiaid 'nôl yn Euro 2016.
Fe aethon nhw hefyd i Qatar gyda charfan oedd wedi ei dal rhwng dwy genhedlaeth.
Roedd y rheiny oedd ar ôl o asgwrn cefn Euro 2016 - Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Wayne Hennessey a Chris Gunter - i gyd yn eu 30au, a'u dyddiau gorau y tu cefn iddyn nhw.
Ben Davies (29) a Kieffer Moore (30) oedd yr unig brif chwaraewyr o oedran ble mae pêl-droedwyr fel arfer yn cael eu hystyried ar eu gorau, gyda nifer o'r lleill yn addawol ond dal yn gymharol ifanc.
O ystyried hynny felly, ai'r syndod mwyaf oedd nid bod Cymru wedi gwneud mor siomedig yng Nghwpan y Byd, ond eu bod nhw hyd yn oed wedi cyrraedd yn y lle cyntaf?
Beth aeth o'i le?
Nid bod hynny'n reswm i beidio â chraffu ar y perfformiadau yn Qatar, a'r twrnament yn sicr wedi codi nifer o gwestiynau i'r rheolwr Rob Page.
Dim ond dau o'r 32 tîm gafodd ganlyniadau gwaeth na Chymru a llwyddo i golli pob un o'u gemau, sef Qatar eu hunain, a Canada.
Yn ymosodol wnaeth Cymru ddim cynnig digon, gydag dim ond Costa Rica (12) a Qatar (19) yn cael llai o ergydion ar y gôl na'r crysau cochion (24), a dim ond Qatar a Canada yn cael llai o ergydion ar y targed.
Doedden nhw ddim yn wych yn amddiffynnol chwaith, gan ildio chwech gôl, ond roedd 'na dimau gwaeth.
A dweud y gwir, roedd yr ystadegau 'goliau disgwyliedig' (xG), sef mesuriad o faint o goliau yr oedd disgwyl i dîm ei sgorio o ystyried y cyfleoedd greon nhw, yn awgrymu bod Cymru ychydig yn anlwcus.
Mae'r ffigyrau'n awgrymu eu bod nhw wedi creu digon o gyfleoedd i sgorio tair gôl yn eu gemau grŵp, ac y gallen nhw fod wedi curo'r UDA - ond yn cadarnhau eu bod wedi colli'n haeddiannol i Iran a Lloegr.
Doedd y diffyg cyfleoedd gafodd eu creu ddim oherwydd diffyg meddiant, chwaith - fe gafodd Cymru gyfartaledd parchus o 46% o'r bêl, dim ond iddyn nhw greu fawr ddim efo fo.
Yr esiampl amlycaf o'u problemau oedd y golled i Iran - yr unig ganlyniad ble roedd disgwyl mwy mewn gwirionedd - pan gawson nhw 62% o'r meddiant a dal gadael i'r gwrthwynebwyr gael dwywaith cymaint o ergydion at eu gôl.
Cafodd amddiffyn a chanol cae Cymru eu gwasgu'n effeithiol gan eu gwrthwynebwyr yn ystod y twrnament, gan eu gorfodi nhw i chwarae'r bêl yn hir yn aml.
Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau pasio, gyda Chymru'n cwblhau 86.9% o'u pasys (y pumed isaf yn y gystadleuaeth), ac yn taro un o bob chwe phas yn hir (y pedwerydd uchaf).
A ddylen nhw hefyd fod wedi gwneud mwy o un o'u harfau mwyaf unigryw - taldra Moore yn yr ymosod?
Dim ond Costa Rica (21) wnaeth roi llai o groesiadau i mewn i gwrt cosbi'r gwrthwynebwyr na Chymru (44), a hynny er bod canran ein croesiadau llwyddiannus ni (22.7%) ymhlith y 10 uchaf.
Gwersi tactegol
Bydd gweld llwyddiant rhai o dimau 'llai' eraill y gystadleuaeth hefyd wedi codi cwestiynau am dactegau Cymru.
Os mai'r bwriad oedd chwarae'n ddisgybledig a threfnus yn amddiffynnol, a cheisio gwrthymosod gyda chyflymder (gweler Moroco er enghraifft), pam chwarae cyn lleied ar Dan James?
Os am bwyso'n uchel a chwarae yn hanner y gwrthwynebwyr, neu geisio rheoli'r meddiant, pam chwarae pump yn y cefn a dim ond dau yng nghanol cae?
Ac yn y gêm fodern, egnïol sydd ohoni bellach, a oedd hi'n ormod o foethusrwydd i gario chwaraewr fel Bale, sydd ond ar y cae i geisio consurio eiliad o athrylith, gan adael i eraill wneud y gwaith caled oddi ar y bêl drosto?
Fe weithiodd hynny i'r Ariannin, ond eithriad i'r rheol ydi Lionel Messi - a dim ond oherwydd bod y pêl-droediwr gorau yn hanes y gêm wedi chwarae ar ei orau.
Doedd Bale ddim yn agos at ei safon gorau yn Qatar - na chwaith seren arall y tîm, Aaron Ramsey - ond 'dan ni'n ymwybodol mai fflachiadau yn unig y mae'n ei gynnig bellach, nid rhagoriaeth cyson y gorffennol.
Beth nesaf felly?
Y newyddion da ydi ei bod hi'n edrych fel bod Page wedi dechrau dysgu rhai o'r gwersi hynny eisoes.
Yn ei gyfweliad diweddar yn adlewyrchu ar yr ymgyrch fe siaradodd am yr angen am "goesau ffres", yr "athletiaeth" sydd ei angen i gystadlu ar y lefel uchaf, a'r angen am "egni a chyflymder yn y tîm".
Wrth roi dyledus barch i'r hen do o chwaraewyr, fe awgrymodd hefyd y byddan nhw'n cael eu defnyddio "mewn ffordd ychydig yn wahanol" o hyn ymlaen, a bod angen "gwaed newydd" yn y garfan.
Mae'r awgrym yn glir na all Bale gael ei ystyried fel dewis awtomatig yn y tîm bellach - mai 'arwr oddi ar y fainc' allai ei rôl fod yn amlach o hyn ymlaen.
Gyda stori dylwyth teg y 'genhedlaeth aur' wedi gorffen yn daclus gyda chyrraedd Cwpan y Byd, mae angen i Page hefyd fod yn fwy parod nag oedd Chris Coleman i ffarwelio ag hen arwyr.
Mae'r grŵp hwnnw'n parhau i fod yn ddylanwadol tu hwnt yn yr ystafell newid, ac felly bydd angen i Page fod yn ddewr er mwyn esgor ar drefn newydd.
Byddai hynny mwy na thebyg yn cynnwys diwedd gyrfaoedd rhyngwladol wynebau ffyddlon phoblogaidd fel Gunter a Jonny Williams, a Hennessey yn derbyn bod yn ail ddewis i Danny Ward yn y gôl.
Mae'n bosib y cawn ni wyneb newydd yn ymuno â'r tîm hyfforddi - ond peidiwch â dal eich anadl mai Osian Roberts fydd hwnnw, o ystyried ei ymrwymiadau yn Crystal Palace a'i stoc uwch yn sgil gwaddol ei waith gyda Moroco.
Bydd hefyd rhaid cynllunio am steil o chwarae sy'n gwneud y tro heb Bale, Ramsey ac Allen, yn hytrach nag un sy'n dibynnu ar y posibiliad lleihaol eu bod nhw'n ffit ac yn tanio.
Ond mae'r arwyddion yn rhai positif.
Mae 'na grŵp sylweddol o fewn y garfan - Neco Williams, Chris Mepham, Joe Rodon, Ethan Ampadu, Harry Wilson, Joe Morrell, Dan James - sydd i gyd â dros 25 o gapiau bellach er nad ydyn nhw dros 25 oed eto.
Fe fyddan nhw, ac eraill fel Rhys Norrington-Davies, Dylan Levitt, Rubin Colwill, Brennan Johnson a Tyler Roberts (hyd yn oed David Brooks o bosib), i gyd bedair blynedd yn fwy profiadol erbyn Cwpan y Byd nesaf.
Ychwanegwch chwaraewyr ifanc fel Luke Harris, Jordan James, Oli Cooper, ac ambell un arall sy'n siŵr o ddod drwyddo, ac mae digon o botensial i ddod gan y genhedlaeth nesaf.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw yn Doha, dolen allanol dywedodd Cledwyn Ashford, cyn-swyddog addysg a lles nifer o'r chwaraewyr pan oedden nhw yn nhimau ieuenctid Cymru, mai twrnament 2026 yr oedd o wedi disgwyl i'r rhain ei gyrraedd, felly maen nhw wedi datblygu'n gynt na'r disgwyl yn barod.
Yr ymgyrch nesaf
Euro 2024 ydi'r cam nesaf fodd bynnag, ac er trafferthion Cymru eleni yn erbyn timau o'r safon uchaf, maen nhw wedi dangos dros y blynyddoedd diwethaf eu bod nhw'n gwybod yn iawn sut mae curo timau o'r ail haen Ewropeaidd.
Dyna fydd angen ei wneud yn 2023, gyda'r crysau cochion yn brwydro efo Croatia, Twrci, Armenia a Latfia am y ddau safle awtomatig yn y grŵp rhagbrofol i gyrraedd Yr Almaen 2024 (a lle yn y gemau ail gyfle yn aros amdanyn nhw fel arall beth bynnag).
Erbyn Cwpan y Byd 2026 bydd y gystadleuaeth honno wedi ymestyn i 48 tîm, gyda lle ar gyfer 16 o Ewrop, gan olygu siawns hyd yn oed yn uwch o gyrraedd (petai'r un fformat rhagbrofol ag eleni yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, byddai Cymru ond wedi gorfod curo Awstria dros ddau gymal ail gyfle, yn hytrach nag Wcráin hefyd).
Bydd yr ornest ragbrofol gyntaf yn Split fis Mawrth - a hynny yn erbyn y tîm orffennodd yn drydydd yng Nghwpan y Byd eleni - heb os yn ddechrau ar siwrne newydd i Gymru.
Ond mae digon o resymau i fod yn obeithiol y bydd twrnameintiau pellach i ddod yn y blynyddoedd nesaf.
Jyst peidiwch â disgwyl 'Ffrainc 2016' bob tro 'dan ni'n cyrraedd un - dyna un ffordd o feddwl fydd yn siŵr o arwain at siom!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022