Carcharu cyn-blismon am gamddefnyddio cyfrifiadur
- Cyhoeddwyd
Mae cyn uwch-swyddog heddlu wedi cael ei garcharu am 14 mis am ddweud celwydd mewn llys er mwyn osgoi ei gael yn euog o gamddefnyddio system gyfrifiadurol yr heddlu.
Fe ddefnyddiodd y Prif Arolygydd Joseph Jones, 48, y system gyfrifiadurol yn 2015 er mwyn dod o hyd i fanylion cwpl oedd yn denantiaid i Kelly Roberts, yr oedd yn ei chyflogi fel glanhawr.
Roedd Ms Roberts, o Abertawe, yn rhan o anghydfod sifil gyda'r cwpl ac roedd hi'n dwyn achos yn eu herbyn yn y llys sirol.
Edrychodd Joseph Jones ar gofnodion amdanyn nhw a'u plant a rhoi'r wybodaeth i Ms Roberts.
Daeth eu perthynas nhw, a'i ddefnydd o'r system gyfrifiadurol, i'r amlwg flynyddoedd yn ddiweddarch pan roedd hi'n rhan o ymchwiliad i werthiant cyffuriau Dosbarth A.
Yn ystod cyfweliadau gydag Uned Gwrth-lygredd Heddlu De Cymru, mynnodd Mr Jones, oedd yn gweithio yng ngorsaf heddlu'r Tyllgoed yng Nghaerdydd, ei fod ond wedi defnyddio'r gronfa ddata at ddibenion plismona cyfreithlon.
Ym mis Tachwedd 2021 fe gafodd ei gyhuddo o gamddefnyddio cyfrifiadurol ac fe ddechreuoedd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Chwefror.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos honnodd ei fod wedi dod o hyd i lyfr nodiadau o 2015 a oedd yn cynnwys manylion fyddai'n profi bod ganddo reswm cyfreithlon am gael mynediad at y wybodaeth.
Rhyddhawyd y rheithgor a gorchmynnodd y llys bod angen cynnal profion fforensig ar y llyfr nodiadau, gan fod 'na amheuon am liw'r inc gafodd ei ddefnyddio yn y cofnodion perthnasol.
Mae Mr Jones wedi gwrthod egluro beth ddigwyddodd i'r llyfr.
"Fe wnaethoch chi aros nes i'r rheithgor dyngu llw cyn i chi ddatgan y darganfyddiad gwyrthiol hwn," meddai'r Barnwr Daniel Williams, "gan obeithio y byddai eich gair fel prif arolygydd yn cael ei dderbyn ac y byddech chi'n gallu gadael y llys gyda'ch enw da, eich swydd a'ch pensiwn.
"Roedd yn weithred oedd yn sarhad ar y llys ac ar y system gyfiawnder yr ydych wedi'i gwasanaethu ers cymaint o flynyddoedd," meddai.
Dedfrydwyd Joseph Jones i ddau fis o garchar am y drosedd o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Bydd yn treulio hynny ar yr un pryd â'r ddedfryd 14 mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.
"Rydych chi'n rhywun sydd i fod i gynnal y gyfraith, ac yn lle hynny rydych chi wedi ei thanseilio," meddai'r barnwr.
Dim dewis ond diswyddo
Fe wnaeth Heddlu De Cymru gynnal gwrandawiad camymddwyn ar 14 Rhagfyr. Penderfynwyd bod yr honiadau yn erbyn y Prif Arolygydd Joseph Jones wedi'u profi a'u bod yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Cafodd ei ddiswyddo heb rybudd ac fe wnaed cyfeiriad at y Coleg Plismona yn ei atal rhag dychwelyd i'r proffesiwn.
"Dylid ymddiried mewn swyddogion heddlu, mae ganddyn nhw gymaint o awdurdod a mynediad at wybodaeth bersonol, mae'r cyhoedd yn gywir yn disgwyl i'n swyddogion gynnal y safonau proffesiynol uchaf", meddai'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.
"Mae camddefnyddio gwybodaeth bersonol breifat mewn amgylchiadau o'r fath yn golygu mai diswyddo yw'r unig ganlyniad yn y mater hwn.
"Mae mwyafrif helaeth y 5,500 o swyddogion a staff sy'n gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn berffaith ac yn gweithio'n ddiflino i amddiffyn y cyhoedd.
"Mae'r ychydig iawn hynny sy'n dewis torri'r safonau sy'n cael eu disgwyl ganddyn nhw yn tanseilio ffydd y cyhoedd mewn plismona. Does dim lle i'r math yma o ymddygiad yn Heddlu De Cymru."