Dau wedi marw ar ôl i gar fynd i afon yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi eu galw tua 03:00 fore Sul
Mae dyn a dynes wedi marw ar ôl i gar fynd i afon yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi eu galw tua 03:00 fore Sul i adroddiad bod car wedi mynd i Afon Tawe ger Heol New Cut.
"Aeth y gwasanaethau brys i'r digwyddiad ac fe gafodd car ei ganfod yn y dŵr", meddai'r Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis.
"Cafodd cyrff dyn a dynes eu canfod yn yr afon gerllaw.
"Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod, ac mae ymchwiliadau'n parhau i ddeall amgylchiadau'r digwyddiad."