Rhybudd i bobl fregus gadw draw o ysbytai wrth i achosion ffliw godi
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd i bobl fregus gadw draw o ysbytai "heblaw bod hynny'n gwbl angenrheidiol".
Daw'r cyngor gan fyrddau iechyd a'r llywodraeth wrth i ysbytai weld cynnydd sylweddol mewn achosion o'r ffliw dros y gaeaf.
Yn yr wythnos hyd at 19 Rhagfyr, fe gafodd 300 o gleifion ychwanegol eu trin am y ffliw yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, oedd 58% yn fwy na'r wythnos flaenorol.
Roedd mwyafrif yr achosion ymysg plant dan bedair oed a phobl dros eu 60au.
Mae byrddau iechyd Powys, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan wedi cynghori pobl fregus i gadw draw.
Cadw llygad am symptomau
Fe rybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru'r wythnos ddiwethaf fod y feirws yn lledaenu'n gynt na'r arfer eleni oherwydd cyfyngiadau Covid dros y ddau aeaf diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru'n annog pobl sy'n gymwys i gael eu brechu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Angela Wood, ei bod "eisiau ailadrodd pa mor bwysig yw'r canllawiau i ymwelwyr hyn ar gyfer ein cleifion a staff ein hysbytai".
"Fe wnaethon ni gynyddu'r amseroedd y gall ymwelwyr ddod i weld eu hanwyliaid yn ddiweddar ond fe ddaw hyn â rhywfaint o gyfrifoldeb," meddai.
Dywedodd na ddylai unrhyw un "ystyried mynd i ysbyty" os oes symptomau o'r ffliw neu annwyd gyda nhw.
Ychwanegodd y dylai pobl wisgo mwgwd os oes yn rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty, heblaw eu bod wedi eu heithrio, a chadw pellter lle bo hynny'n bosib.
Yn ardal Cwm Taf Morgannwg, mae aelodau bregus o'r cyhoedd yn cael eu hannog i gadw draw o ysbytai a'r rheiny sydd yn arddangos symptomau o'r ffliw i aros adref.
"Ry'n ni'n gweld niferoedd cynyddol o'r ffliw o fewn safleoedd ein hysbytai," meddai llefarydd. "Ar 28 Rhagfyr, roedd gyda ni fwy na 90 o gleifion yn profi'n bositif ar gyfer y ffliw."
Fe wnaethon nhw annog pobl i gael eu brechu os ydyn nhw'n gymwys.
'Pwysau ychwanegol ar wasanaethau'
Yn Abertawe, mae'r bwrdd iechyd wedi ail-gyflwyno'r cyngor i wisgo mwgwd ar eu safleoedd, gan ddweud wrth bobl i gadw draw o'r uned gofal brys oni bai bod "wir angen".
Dywedodd llefarydd eu bod wedi gweld "naid sylweddol yn niferoedd achosion o ffliw, Covid a heintiau anadlol eraill".
Roedd mwy na 170 o achosion rhwng 22 a 28 Rhagfyr ar eu safleoedd.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de ddwyrain, dywedodd llefarydd fod nifer achosion o ffliw a Covid hefyd yn uwch yn eu hysbytai.
"Yn yr wythnosau diweddar, ry'n ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion anadlol yn ein cymunedau, sydd hefyd wedi ei adlewrychu gan y nifer cynyddol o bobl sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty gyda phroblemau anadol gwael gan gynnwys ffliw."
Ychwanegodd llefarydd fod hynny'n rhoi pwysau ychwaneol ar eu gwasanaethau.
Ym Mhowys, dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y dylai unrhyw un sy'n gymwys i dderbyn brechlyn ffliw a Covid wneud hynny er mwyn lleddfu pwysau ar eu gwasanaethau nhw hefyd.
Mewn ymateb i rybuddion y byrddau iechyd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth iechyd yn "wynebu galw digynsail y gaeaf hwn".
"I helpu gyda lleddfu'r pwysau ar wasanaethau, ry'n ni'n gofyn i bobl sydd â symptomau'r ffliw gadw draw o'r ysbyty heblaw bod hynny gwbl angenrheidiol ac yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw i wneud hynny.
"Fe ddylai unrhyw un sydd â chyflyrau nad sy'n bygwth bywyd ddefnyddio wefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022