Neges i ofalu am anwyliaid bregus yn ystod gaeaf heriol
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl yng Nghymru gadw golwg ar ffrindiau a pherthnasau bregus wrth i ni wynebu "gaeaf fel dim un arall", yn ôl elusen.
Mae National Energy Action (NEA) yn rhybuddio y bydd y sefyllfa'n gwaethygu wrth iddi oeri.
Mae elusennau ac eglwysi'n dechrau agor llefydd cynnes er mwyn atal pobl rhag profi tymereddau isel adref.
Dyma fydd y cyfnod oeraf cyntaf wrth i bobl ddelio â biliau ynni uwch, a chostau bwyd a thanwydd uwch hefyd.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am rew dros ran helaeth Cymru dros y dyddiau nesaf, gyda disgwyl mwy i ddod.
Mae pobl yn cael eu hannog i gynhesu eu hystafelloedd fyw yn ystod y dydd a'u hystafelloedd gwely cyn mynd i gysgu wrth i'r tywydd oeri.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd rhai ardaloedd yng Nghymru yn elwa o daliad tywydd oer o £25.
Yn ôl Ben Saltmarsh o NEA Cymru, mae'n rhaid i gwmnïau ynni hefyd helpu'r rhai mwya' bregus.
"Nid pawb sy'n gwybod pa help sydd ar gael," meddai, "felly cysylltwch â nhw gan fod yn rhaid iddyn nhw gynnig help."
'Ffodus bod waliau trwchus'
Mae Anelma Beech o Fryneglwys ger Corwen wedi byw gyda sglerosis ymledol, neu MS, ers 31 o flynyddoedd.
"Byse hibernatio dros y gaeaf yn syniad da, ond dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd, nachdi?" meddai.
"Dydy Bryneglwys ddim yn enwog am y tywydd gorau yn ystod y gaeaf yn enwedig pan mae hi'n rhewynt, a dydi'r tywydd oer a fi ddim yn cytuno yn arbennig a minnau efo MS."
Ychwanegodd: "Mae'r symptomau rhywsut yn gwaethygu efo'r tywydd oer - mae'r coesau'n fwy stiff ac ati.
"Mae popeth wedi cynyddu yn ei bris ac mae olew a thrydan yn hanfodol i bobl fatha fi i gadw'n gynnes.
"'Dan ni'n ffodus ein bod ni'n byw mewn cartref efo walie' trwchus sy'n cadw'r gwres i mewn."
Mae rhai awdurdodau lleol ac elusennau wedi dechrau cynnig llefydd cynnes i gyfarfod mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol neu eglwysi.
'Rhatach na bod gartre'
Mae elusen Age Connects yn cynnig llefydd cynnes fel bod pobl yn gallu arbed arian ar eu biliau ynni cartref.
Un o'r llefydd sy'n cynnig diodydd cynnes, rhad a gêm o bingo ydy caffi Age Connects yn Y Barri.
"Mae 'na lot o bobl yn diodde' ac mae'n ypsetio rhywun," meddai Patricia Hunt, sy'n 82.
"Mae dod mas yn helpu iechyd meddwl rhywun, yn dyw e? Oherwydd beth sy'n mynd 'mlaen."
Mae hi wedi bod yn dod i'r caffi'n rheolaidd er mwyn gadael y tŷ a chwrdd â ffrindiau newydd.
Yn ôl Hazel Sewell, sy'n 64, mae'r caffi'n cynnig paned o de a mins pei am £1.50. "Mae fe'n rhatach na bod gartre," meddai.
"Ddoe fe ddaeth y plant draw am de ac fe wnes i roi'r gas a'r 'lectric mla'n a chyn mynd i 'ngwely, wnes i edrych, ac roedd hynny wedi costio £2 yn fwy ddoe, a tasen i'n gneud hynny bob dydd, mae hynny'n £14 yr wythnos eto, ac mae hynny'n lot o arian."
Costau byw a chostau ynni ydy'r prif destun trafod dros baned, yn ôl rheolwraig y caffi, Nicci Jones.
"Dyna'r unig beth mae pawb yn ei drafod - costau rhoi'r gwres ymlaen a sut mae pawb yn mynd i fforddio popeth," meddai.
Fe ddechreuodd hi weithio yn y caffi ym mis Ebrill ac mae wedi gweld y galw'n tyfu dros y misoedd diwethaf.
"Rwy'n poeni amdanyn nhw drwy'r adeg," meddai. "Mi wn i sut beth ydy o yn ein tŷ ni, yn meddwl cyn troi'r gwres ymlaen ac am ba mor hir mae'n aros ymlaen oherwydd y gost.
"Felly i'r bobl sydd methu fforddio, dwi'n meddwl o leia' bod ganddyn nhw rywle fel hyn i ddod yn ystod yr wythnos."
Ym Mhenygroes yng Ngwynedd, mae'r grŵp tai Cynefin yn cynnal digwyddiadau Llond Bol yn neuadd goffa'r pentref fel rhan o'r cynllun Croeso Cynnes.
Un o'r bobl a fanteisiodd arno yw Glenys Williams.
"Dwi'n trefnu ar gyfer y Nadolig, g'neud cacenni Nadolig a mins peis, a dwi'n meddwl dwywaith cyn rhoi'r popty ymlaen achos bod cost y trydan a'r nwy 'di mynd i fyny gymaint.
"Mae'n rhaid edrych ar y meter. Mae o yn mynd i fyny'n gyflym iawn."
Mae'r digwyddiadau Llond Bol yn prysuro fwyfwy bob wythnos, medd Sian Humphreys, un o weithwyr caffi'r Orsaf sy'n darparu bwyd ar eu cyfer.
"Dwi'n gweld mwy o bobl yn dod i fewn, yn enwedig yr henoed. Ma' jesd yn bwysig rili bod pobl yn dod i mewn.
"'Di pobl ddim yn gallu fforddio rhoi heating nhw ar a dy'n nhw'n methu fforddio rhoi bwyd ar bwrdd.
"So ma'n neis bo' nhw'n dod yma i gael pryd cynnas yn 'u bolia nhw ac yn cadw'n gynnas ac yn cymdeithasu hefyd."
Wrth lansio ymgyrch ddydd Iau o'r enw Bwyd a Thanwydd, mae'r Eglwys yng Nghymru'n galw am ragor o gymorth gwleidyddol ac i archfarchnadoedd weithredu i ostwng prisiau bwyd.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andy John: "Mae'r sefyllfa yn erchyll a 'dan ni'n wynebu rhywbeth sy'n argyfyngus yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Wrth gwrs mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd, nid y llywodraeth yn unig, ond mae 'na gyfrifoldeb ar y llywodraeth - ond [mae angen hefyd] i'r eglwysi a'r bobol sydd â'r gallu i helpu, i 'neud bob dim i sicrhau bod neb yn mynd ar goll."
Hawlio arian
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, yn annog pobl i ofyn am gymorth os ydyn nhw'n poeni am sut i gadw'n gynnes.
"Os yw pobl yn poeni, byddwn yn eu hannog i gysylltu â'u hawdurdod lleol, neu grwpiau gwirfoddol lleol i weld pa help sydd ar gael gan fod cryn dipyn o gefnogaeth ar gael drwy Gymru," meddai.
Mae hi hefyd yn annog pobl hŷn i wneud yn siŵr eu bod yn hawlio'r holl gefnogaeth ariannol sydd ar gael.
"Dydi hyd at 80,000 o bobol ddim yn hawlio Credyd Pensiwn, sydd gwerth £65 yr wythnos, ac wedyn yn eu caniatáu i hawlio cymorth ariannol pellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022