Rhestrau aros yn lleihau am y tro cyntaf ers y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhestr aros GIG Cymru am driniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw wedi gostwng am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Yn ôl ffigyrau mis Hydref roedd 753,293 o driniaethau eto i'w cwblhau - gostyngiad o 0.2% o'i gymharu â mis Medi, a'r gostyngiad cyntaf ers ystadegau Ebrill 2020.
Ond mae'n dal i fod yr ail nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion, ac mae'n 62.6% yn uwch nag ar ddechrau'r pandemig yn Chwefror 2020.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos gwelliant bach ym mherfformiad adrannau brys ysbytai Cymru ym mis Tachwedd, er gwaethaf pwysau anferthol ar wasanaethau iechyd a gofal.
Ond roedd perfformiad y gwasanaeth ambiwlans o ran ymateb i'r galwadau brys mwyaf difrifol ar yr un lefel â'i fis gwaethaf erioed, ac fe gofnodwyd yr amseroedd aros gwaeth erioed yn achos triniaethau canser.
Mae'r ffigyrau'n adlewyrchu'r sefyllfa cyn gweithredu diwydiannol gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans, sydd yn debygol o gael effaith ar restrau aros a gofal brys.
Roedd dros 753,000 o gyfeiriadau i drin cleifion - ble mae rhywun yn aros am driniaeth - ar agor ym mis Hydref, o'i gymharu ag ychydig dan 755,000 fis ynghynt.
Roedd 177,000 o'r rheiny wedi aros am o leiaf blwyddyn - a bron i 55,000 wedi aros am dros ddwy flynedd. Dyma'r seithfed gostyngiad misol yn olynol ar ôl cyfnod o gynnydd cyson dros y flwyddyn gynt.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod erbyn diwedd eleni o sicrhau bod neb yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth.
Ystadegau mis Chwefror fydd yn amlygu'r sefyllfa erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl ffigyrau Tachwedd fe dreuliodd 67.3% o gleifion holl adrannau brys Cymru lai na phedair awr yno.
Roedd hynny'n 0.7% yr uwch nag ym mis Hydref, ond yn sylweddol is na chyn y pandemig.
Roedd yna hefyd welliant o ran nifer y cleifion - 10,053 - fu'n rhaid aros am fwy na 12 awr.
Roedd hynny 972 (8.8%) yn is na'r mis blaenorol, ond mae Llywodraeth Cymru'n anelu at sicrhau bod neb yn gorfod aros cyhyd.
Mae'n ffigyrau'n dangos bod trafferthion y gwasanaeth ambiwlans wedi parhau trwy fis Tachwedd.
Dim ond yn achos 48% o'r galwadau 999 mwyaf difrifol - galwadau 'coch' ble mae yna berygl i fywyd - y cyrhaeddodd ambiwlans o fewn y targed o wyth munud.
Roedd hyn yr un ganran â'r mis blaenorol - oedd ar yr un lefel â mis gwaethaf y gwasanaeth erioed - a 5% yn is nag yn Nhachwedd 2021.
Yn ystod mis Hydref fe ddechreuodd triniaeth canser o fewn 62 diwrnod yn 52.2% o achosion, sef 884 allan o 1,694. 75% yw'r targed.
Roedd hyn 1.1% yn is nag ym mis Medi ac 8% yn is na'r un mis y llynedd. Dyma oedd y ffigwr isaf ers cyflwyno'r targed yn Rhagfyr 2020.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno targed mwy uchelgeisiol o 80% erbyn 2026.
'Agoriad llygaid' i Lywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Yw hi'n syndod gweld doctoriaid yn ystyried streicio gyda nyrsys, gweithwyr ambiwlans a bydwragedd yng Nghymru'r blaid Lafur pan 'dyn ni'n gweld ffigyrau fel hyn?
"Mae'r argyfwng yma yn hunllef i'r rheiny sy'n disgwyl misoedd, os nad blynyddoedd am driniaeth, tra bod cleifion yn ofni a fyddan nhw'n cael ambiwlans ai peidio, neu a fyddan nhw'n cael eu gweld o fewn amser rhesymol mewn uned frys."
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y dylai'r sefyllfa fod yn "agoriad llygaid" i Lywodraeth Cymru, a bod angen iddynt "fod yn barod i gymryd camau radical" er mwyn mynd i'r afael â phroblemau'r GIG yng Nghymru.
"Mae problemau hir sefydlog wedi bod gyda llif cleifion drwy ysbytai, a gyda mwy o bwysau ar ein gwasanaeth brys, a mwy a mwy o gleifion yn cael eu hychwanegu at restrau aros, mae ein staff sy'n gweithio mor galed wedi rhoi eu holl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau'r amseroedd aros hiraf", ond fod perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn parhau'n bryder.
"Mae ein staff yn y gwasanaeth ambiwlans ac mewn adrannau brys yn parhau i fod o dan bwysau cynyddol," meddai.
"Ym mis Tachwedd, gwelwyd y nifer uchaf a'r gyfran uchaf ar gof a chadw o alwadau 'coch'/ galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith a chynnydd yng nghyfanswm y nifer a fynychodd gyfleusterau.
"Er ein bod yn cydnabod nad yw perfformiad ambiwlansiau gystal ag yr ydyn ni'n disgwyl iddo fod, rydym yn arwain gwelliannau i'r system.
"Mae hyn yn cynnwys ymestyn gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i fod ar gael saith diwrnod yr wythnos, gwella'r modd y caiff cleifion 999 eu rheoli ar y ffôn a recriwtio staff ychwanegol. Heb yr holl bethau hyn byddai'r pwysau ar y system yn fwy fyth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022