Chris Bryant yn farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Bryant wedi cynrychioli etholaeth Rhondda ar ran y blaid Lafur ers 2001

Mae Aelod Seneddol ac un o sêr y byd pêl-droed ymysg y bobl o Gymru sydd wedi'u cydnabod yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Dyma'r rhestr gyntaf o'r fath ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, sy'n golygu mai'r Brenin Charles sy'n eu rhoi.

Mae Aelod Seneddol Rhondda, Chris Bryant, wedi ei urddo'n farchog am "wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus".

Mae capten tîm merched Cymru, Sophie Ingle, yn derbyn OBE am wasanaethau i bêl-droed.

Ffynhonnell y llun, Victoria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r rhestr anrhydeddau gyntaf i gael eu rhoi gan y Brenin Charles

Mae Mr Bryant wedi cynrychioli etholaeth Rhondda ar ran y blaid Lafur ers 2001.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod yr anrhydedd yn gydnabyddiaeth o'i waith yn ymgyrchu ar anafiadau i'r ymennydd a melanoma - math o ganser croen.

Cafodd Mr Bryant ei hun lawdriniaeth ar gyfer canser y croen yn 2019.

Dywedodd y cyn-offeiriad yn yr eglwys Anglicanaidd ei fod yn cael ei urddo hefyd am ei waith gyda'r sgandal hacio ffonau, ac am wthio i gael sancsiynau yn erbyn Rwsia yn sgil yr ymgyrch filwrol yn Wcráin.

'Fy annog i wneud mwy'

Dywedodd Mr Bryant ei fod "wedi synnu ac yn bles iawn" i gael ei urddo, ac y byddai'r anrhydedd yn "fy annog i wneud mwy gyda'r gwaith rwy'n ei wneud ar anafiadau i'r ymennydd, ar y Pwyllgor Safonau, ar melanoma ac wrth geisio gwneud yn siŵr bod Putin yn colli".

Fe wnaeth Mr Bryant roi teyrnged hefyd i'r elusennau a'r mudiadau y mae'n ymwneud â nhw ac ychwanegodd bod hwn yn "anrhydedd i bobl y Rhondda achos nhw yw'r bobl sy'n fy ethol i'r Senedd a fyddwn i methu gwneud y gwaith yma oni bai am bobl y Rhondda".

Mae Mr Bryant yn gadeirydd ar hyn o bryd ar Bwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin a bu'n feirniadol iawn o'r cyn-Brif Weinidog Boris Johnson.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu y byddai rhai yn cwestiynu'r penderfyniad i'w urddo'n farchog, dywedodd Mr Bryant: "Mae'n ddigon posib na fydd Boris Johnson yn bles iawn!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sophie Ingle bod ei hanrhydedd yn adlewyrchu'r twf yn y gamp i ferched

Ingle - sy'n chwarae i Chelsea ac wedi ennill 105 o gapiau dros Gymru - yw'r unig Gymry o fyd y campau sydd ar y rhestr.

Dywedodd y chwaraewr 31 oed fod cael OBE yn "anhygoel", a'i fod yn adlewyrchu'r twf yn y gamp i ferched.

"Mae'n anhygoel cymharu sut oedd pethau pan wnes i ddechrau chwarae yn 16 oed gyda sut mae pethau nawr," meddai.

"Mae wedi tyfu'n aruthrol dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf. Mae wedi cyrraedd lefel uwch ac rwy'n edrych ymlaen at weld ble mae'n parhau i fynd."

Ffynhonnell y llun, The Terence Higgins Trust
Disgrifiad o’r llun,

Ian Green o Lanfair-ym-muallt ydy prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terence Higgins

Ymysg y Cymry eraill ar y rhestr mae ymgyrchydd iechyd a chyfarwyddwr cerddorol.

Ian Green o Lanfair-ym-muallt, Powys, ydy prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terence Higgins - elusen sy'n helpu pobl sy'n byw gyda HIV.

Dywedodd ei fod "ar ben fy nigon", a'i bod yn "anrhydedd" derbyn OBE.

"Fel rhywun sy'n byw gyda HIV, mae fy ngwaith yn llawer mwy na dim ond swydd, ac rydw i wedi buddsoddi fy amser, egni a brwdfrydedd er mwyn creu newid i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan HIV," meddai.

'Meddwl mod i'n cael fy sgamio!'

Un arall sy'n cael ei anrhydeddu ydy Dr Michael Thomas - cyfarwyddwr cerddorol Côr Meibion Cwmbach - sy'n derbyn MBE.

"Fe ges i e-bost, ac fe wnes i ffonio fy ngwraig a dweud 'dwi'n meddwl mod i'n cael fy sgamio'. Ro'n i'n barod i'w ddileu e!" meddai am y foment y cafodd wybod am yr anrhydedd.

Mae'n derbyn yr MBE am ei wasanaeth i'r traddodiad corawl yng Nghymru, yn ogystal â'i wasanaeth i gymoedd Cynon a Phelenna.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Euryl Howells yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i'r gaplaniaeth yn y gwasanaeth iechyd

Mae Euryl Howells o Gaerfyrddin yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i'r gaplaniaeth yn GIG Cymru.

Ef yw uwch-gaplan Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a dywedodd ei bod yn "fraint" cael ei gydnabod.

"Dwi'n meddwl bydde unrhyw un o fy nghydweithwyr yn medru derbyn yr anrhydedd hon, ond dwi'n ei dderbyn ar ran y tîm caplaniaeth a chydweithwyr yn Hywel Dda, a phobl sydd wedi gweithio gyda ni," meddai.

"Mae'r gair caplan yn Lladin yn golygu clogyn. Dyna beth ni'n medru gwneud ydy amddiffyn, estyn allan a chysuro a rhoi clogyn o gwmpas pobl sydd mewn pryder neu sydd mewn rhyw ing."

'Arloeswyr'

Mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, hefyd ar y rhestr, gan dderbyn CBE am ei wasanaeth i fyd addysg.

Dywedodd ei fod "wedi synnu", ond hefyd yn "werthfawrogol dros ben" o'r anrhydedd.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Claire Bevan ac Edward O'Brian wedi'u hanrhydeddu am eu gwaith gyda'r gwasanaeth ambiwlans

Fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd roi clod i ddau "arloeswr" sydd wedi'u cydnabod ar y rhestr.

Mae cyn-gyfarwyddwr gweithredol safon a nyrsio'r gwasanaeth, Claire Bevan, yn derbyn OBE am ei gwasanaeth i nyrsio a gofal cleifion.

Mae'r parafeddyg Macmillan, ac arweinydd y gwasanaeth ar ofal diwedd oes, Edward O'Brian, yn derbyn Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin.

Ymysg y bobl eraill o Gymru sydd wedi'u hanrhydeddu, mae:

  • Dr Bridget Emmett o Fiwmares, Ynys Môn - OBE am ei gwasanaeth i'r pridd a gwyddoniaeth ecosystemau. Mae hi'n gweithio yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.

  • Felicity Bennee o'r Fenni, Sir Fynwy - OBE am wasanaeth cyhoeddus o'i rôl fel dirprwy gyfarwyddwr a chyd-gadeiryddes Grŵp Cyngor Technegol Cymru.

  • Alexander Loven o Wrecsam - MBE am ei wasanaeth i'r economi a'r gymuned. Ef sy'n berchen ar gwmni masnach Net World Sports.