'Dyma'r adeg brysuraf erioed i'r gwasanaeth iechyd'

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Flwyddyn Newydd yw'r amser prysuraf o'r flwyddyn i'r GIG fel arfer, yn enwedig mewn adrannau brys

Mae ysbytai Cymru mewn sefyllfa "ddigynsail" wrth geisio mynd i'r afael â ffliw, yn ôl prif feddyg y wlad.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Syr Frank Atherton fod pob bwrdd iechyd dan y pwysau mwyaf dwys, ac mai dyma'r prysuraf iddo weld y gwasanaeth iechyd erioed.

Bydd ysbytai'r GIG yno i'r rheiny sydd mewn perygl o golli eu bywydau, meddai, ond dywedodd fod angen i bobl sydd â phroblemau llai difrifol gael eu trin rhywle arall.

Y Flwyddyn Newydd yw'r amser prysuraf o'r flwyddyn i'r GIG fel arfer, yn enwedig mewn adrannau brys.

Dywedodd un meddyg fod staff "wedi'u chwalu" gan y pwysau, tra bo'r gwasanaeth ambiwlans yn rhybuddio ei bod yn "bosib y bydd adegau pan fo'r galw'n uwch na'n gallu i ymateb".

Mae achosion ffliw ar gynnydd yng Nghymru. Ar gyfer yr wythnos rhwng 19 a 25 Rhagfyr cafodd 1,977 o achosion eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd ffliw gan 527 o gleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn yr wythnos hyd at y Nadolig - cynnydd o 58% ers yr wythnos flaenorol. O'r rheiny, roedd 29 mewn gofal critigol.

Roedd bron i hanner y cleifion dros 80 oed, gyda bron i dri chwarter y cleifion wedi dal ffliw tra'n yr ysbyty.

Yn yr wythnos ddiweddaraf, roedd mwy na hanner o'r 369 o bobl â ffliw gafodd eu derbyn i ysbytai dros 60 oed, a bron i chwarter yn blant.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod ffliw ar lefel dwyster "ganolig" yn y gymuned, gyda'r niferoedd sy'n cysylltu â meddygon teulu ar y raddfa uchaf ers 2017.

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni'n annog pobl i ganfod ffyrdd eraill o ddelio â chyflyrau llai difrifol," medd Syr Frank Atherton

"Yn draddodiadol byddai pobl yn galw 111, ond mae hyd yn oed hwnnw dan bwysau sylweddol," meddai Syr Frank.

"Ry'n ni wedi cael dwbl nifer y galwadau yr wythnos hon o'i gymharu â'r un amser y llynedd."

Mwy nag erioed o alwadau 111

Cafodd y nifer uchaf erioed o alwadau eu derbyn mewn un diwrnod ddydd Mawrth, 27 Rhagfyr.

Mae'r GIG yn gofyn i bobl sy'n sâl edrych ar wefan 111 Cymru, sy'n cynnwys gwiriwr symptomau, cyn ffonio 111, a pheidio â mynd i adrannau achosion brys oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol.

"Mae'r system iechyd a gofal dan gymaint o bwysau - dyma'r prysuraf i mi ei weld erioed," meddai Syr Frank.

"Y Flwyddyn Newydd wastad yw'r amser prysuraf, ond ry'n ni'n mynd i mewn i hwnnw gyda phob bwrdd iechyd ar y lefel uchaf o uwchgyfeirio ac mae hynny'n sefyllfa ddigynsail.

"Felly ry'n ni'n annog pobl i ganfod ffyrdd eraill o ddelio â chyflyrau llai difrifol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sefyllfa ffliw yn "ychwanegu ar y pwysau sy'n dod o gyfeiriadau eraill"

Mae byrddau iechyd hefyd yn gofyn i bobl beidio ymweld ag ysbytai os oes ganddyn nhw symptomau allai fod yn ffliw, er mwyn amddiffyn cleifion.

"Mae ffliw ar gynnydd ar draws y DU," meddai Syr Frank.

"Bydd pobl hŷn a bregus yn cael eu taro'n wael, ac fe fyddan nhw angen gwasanaeth ysbyty, a dyna beth y'n ni'n ei weld yma, ac mae hynny'n ychwanegu ar y pwysau sy'n dod o gyfeiriadau eraill.

"Mae'n dymor gwael. Mae ar gynnydd oherwydd dy'n ni heb weld fawr o'r ffliw a heintiau resbiradol eraill dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y mesurau coronafeirws oedd mewn lle.

"Fe wnaeth cyfnodau clo a mygydau arwain at lawer llai o heintiadau, ond maen nhw'n bownsio 'nôl eleni."

Staff 'wedi chwalu'

Dywedodd Syr Frank ei fod yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw, a'i fod yn cynghori pobl i wisgo mygydau mewn ysbytai, er nad yw hynny'n orfodol.

"Mae staff ac aelodau'r cyhoedd yn dal i gael eu hannog i orchuddio eu hwynebau, ac mae'r mwyafrif o'n hysbytai ni'n dal i wneud hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Andy Macnab fod sawl aelod staff yn adran frys Ysbyty Treforys "yn eu dagrau"

Dywedodd Dr Andy Macnab, sy'n gweithio fel ymgynghorydd yn adran frys Ysbyty Treforys yn Abertawe, fod nifer o'i gyd-weithwyr "wedi'u chwalu" oherwydd y pwysau ar y funud.

Ychwanegodd fod gormod o bobl yn ceisio cael eu trin gan yr adran, a'i bod yn "anodd rhoi'r safon o ofal y bydden ni'n ei hoffi" i gleifion.

Dywedodd hefyd fod sawl aelod staff "yn eu dagrau".

"Mae dod mewn i'r gwaith yn gwybod eich bod chi am gael diwrnod gwael iawn cyn i chi hyd yn oed gyrraedd yn anodd iawn," meddai.

Dywedodd fod Dydd Nadolig wedi bod yn brysur iawn eleni, a bod staff wedi ei chael yn anodd ymdopi a chadw amseroedd aros yn isel ers hynny.

Ychwanegodd fod rhai wedi gorfod disgwyl 18 awr i gael eu gweld.

"Ar y funud mae gen i 60 o bobl yn disgwyl am welyau yn yr adran frys, a 27 troli sydd gennym ni, felly mae pobl yn rhannu, pobl yn sownd mewn ambiwlansys tu allan, a prin unrhyw le i weld unrhyw un newydd, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu'r bobl sy'n wael iawn, iawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi rhybuddio ei bod yn "bosib y bydd adegau pan fo'r galw'n uwch na'n gallu i ymateb"

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol dros ddathliadau'r Flwyddyn Newydd er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth ac adrannau brys.

Dywedodd Mark Harris o'r gwasanaeth fod y Nadolig wedi bod yn "brysur iawn, iawn", gyda 60% yn fwy o alwadau coch - y rhai mwyaf difrifol - o'i gymharu â'r llynedd.

"Mae Nos Galan wastad yn brysur. Ry'n ni'n disgwyl iddi fod yr un mor brysur â'r arfer, os nad yn brysurach," meddai ar BBC Radio Wales.

"Felly ry'n ni'n gofyn i bobl ein helpu ni trwy ymddwyn mewn modd fydd yn eu cadw nhw ac eraill yn ddiogel dros y dyddiau nesaf."

Ychwanegodd ei bod yn "bosib y bydd adegau pan fo'r galw'n uwch na'n gallu i ymateb, ac ar yr adegau hynny mae'n bosib y bydd pobl yn cael gwybod nad oes gennym ni ambiwlans all fynychu eu galwad, neu fe fyddwn yn gofyn iddyn nhw ddisgwyl".

Pynciau cysylltiedig