Cefnogwyr yn cynnal protest yn erbyn Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Baner Ein Gêm Ein DyfodolFfynhonnell y llun, SaveOurGame/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y cefnogwyr at ei gilydd ym Mharc yr Arfau cyn gêm Caerdydd a'r Gweilch ddydd Sul

Mae cefnogwyr pedwar tîm rhanbarthol Cymru wedi dod at ei gilydd i fynegi eu hanfodlonrwydd i Undeb Rygbi Caerdydd (URC) yngylch cyflwr y gamp yng Nghymru.

Mae'r JSG (Joint Supporters Group) yn cynrychioli cefnogwyr Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, y Scarlets a'r Gweilch.

Fe wnaethon nhw brotestio cyn gêm Caerdydd a'r Gweilch ym Mharc yr Arfau brynhawn Sul ac roedd disgwyl protest debyg yng ngêm y Scarlets va'r Dreigiau.

Dywedodd Keith Collins ar ran grŵp cefnogwyr y Gweilch: "Mae angen i Undeb Rygbi Cymru gael rhywfaint o eglurder a phwrpas yn yr hyn maen nhw'n ei wneud.

"Mae'r holl sefyllfa'n gwbl annerbyniol. Rhaid gwneud rhywbeth - rhaid dechrau siarad."

Yn ôl Lynn Glaister o un o grwpiau cefnogwyr Caerdydd, CF10 Trust: "Dyma'r amser ein bod yn teimlo bod rhaid dod mas eto...

"Mae'n ffordd o ddangos bod yr holl grwpiau cefnogwyr o'r holl glybiau proffesiynol yn unedig o ran dymuno achub ein gêm."

"Rydym mewn perygl o golli rhai o'n chwaraewyr gorau at y dyfodol yn ogystal ag eraill sy'n bwysig i'r gêm yn gyffredinol."

Roedd yna brotestiadau tebyg yn 2014. Mae yna "greisus yn wynebu'r gêm ddomestig", medd y JSG, sy'n honni bod URC wedi gwrthod trafod gyda nhw .

Mae'r grŵp yn bryderus bod cytundebau o leiaf 70 o chwaraewyr ar draws y pedwar rhanbarth yn dod i ben ddiwedd y tymor.

Does dim cytundebau newydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd tra bo URC a'r rhanbarthau'n trafod cytundeb ariannol tymor hir newydd.

Mae'n golygu na allai chwaraewyr sy'n chwilio am dîm newydd ddiwedd y tymor ddod i gytundeb ffurfiol nes y daw cytundeb rhwng URC a'r rhanbarthau.

Rhannu cytundeb drafft 'yn fuan'

Dywedodd URC mewn datganiad: "Mae cytundeb geiriol chwe blynedd yn ei le i sicrhau cynaliadwyedd a llwyddiant i'r gêm broffesiynol yng Nghymru.

"Rydym nawr angen troi'r cytundeb geiriol yma ar frys i gytundeb ar ffurf weithredol."

Bydd y cytundeb tefynol, medd yr undeb, yn "rhoi'r hyder angenrheidiol i chwaraewyr yng Nghymru ac yn helpu ein gêm broffesiynol i gynllunio a ffynnu yn gyffredinol."

Ychwanegodd yr undeb y bydd drafft o'r cytundeb newydd yn cael ei rannu "yn fuan" gyda Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA).

"Mae'r PRB (Professional Rugby Board) yn deall bod oedi o ran cyrraedd cytundeb geiriol a'r amser angenrheidiol i brosesu'r dogfennau cyfreithiol wedi atal y rhanbarthau rhag cytundebu rhai chwaraewyr ar gyfer tymhorau'r dyfodol.

"Mae'r gofid ymhlith chwaraewyr, asiantiaid a chefnogwyr i'w resynu'n fawr, ond mae'n bwysig bod popeth yn cael ei wneud yn gywir."

Bydd yn bosib cynnig cytundebau amodol i chwaraewyr, sydd hefyd yn wynebu toriadau cyflog, ym mis Ionawr tra bo'r PRB yn ceisio cwblhau ffamwaith ariannu chwe blynedd rhwng y rhanbarthau ac URC sydd wedi ei gytuno ar lafar.