URC i gynnal cyfarfod cyffredinol arbennig eleni

  • Cyhoeddwyd
Ieuan EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Evans yw chweched cadeirydd URC yn y cyfnod prosseiynol, gan ddilyn Vernon Pugh QC, Glanmor Griffiths, David Pickering, Gareth Davies a Rob Butcher

Bydd yna gyfarfod cyffredinol arbennig eleni i geisio sicrhau newid i lywodraethiant Undeb Rygbi Cymru (URC), medd cadeirydd yr undeb, Ieuan Evans.

Methodd cynnig yng nghyfarfod cyffredinol yr undeb ym mis Hydref a fyddai wedi galluogi bwrdd URC i benodi cadeirydd annibynnol.

Roedd 66% o'r pleidleisiau o blaid y cynnig, ond roedd angen cyrraedd trothwy o 75%, ac fe gamodd rhagflaenydd Evans fel cadeirydd, Rob Butcher i lawr.

Does dim dyddiad wedi ei gadarnhau eto ar gyfer y cyfarfod cyffredinol arbennig, pan fydd yna wahoddiad i dros 300 o glybiau fod yn rhan ohono.

Fel y mae pethau'n sefyll, mae'n rhaid i'r cadeirydd fod ymhlith wyth aelod bwrdd URC, ond mae yna awydd i benodi unigolyn annibynnol gyda mwy o brofiad i redeg busnes gyda throsiant o £100m.

Fe ddisgrifiodd Ieuan Evans y cyn-gadeirydd fel rhywun "sy'n mewn cysylltiad uniongyrchol â'r gêm ar lefel gymunedol" gydag awydd "i foderneiddio URC o'r tu mewn, a'i fod "wedi cyflawni hynny yn rhannol".

Dywedodd: "Mae gen i barch enfawr at Rob a'r hyn y ceisiodd i'w wneud o ran dod â sgiliau newydd i fwrdd URC, tra'n cynnal cysylltiadau â'r gêm gymunedol a chaniatáu i'r bwrdd benodi cadeirydd o tu fas i'w rhengoedd ei hun.

"Rwy'n bwriadu parhau ar yr un trywydd â Rob yn hyn o beth. Ry'n ni'n gwybod bod angen pleidlais o 75% i basio unrhyw newidiadau i'n cyfansoddiad, ond mae'n hwb i ni bod 66% o'r clybiau wedi cefnogi'r cynnig diwethaf.

"O'r adborth ry'n ni wedi ei gael, byddai mwy o glybiau'n ymuno â ni os y'n ni'n egluro'r rhesymeg yn fwy clir. Dyna'r dasg nawr.

"Byddan ni'n galw cyfarfod arbennig o aelodau, neu cyfarfod cyffredinol arbennig, yn 2023.

"Fe wnawn ni ailedrych ar y syniad y dylai'r bwrdd, petai'n dewis ar ôl ystyried yn gyntaf a allai cyfarwyddwr gyflawni'n rôl, benodi cadeirydd gyda'r medrau, craffter a phrofiad i oruchwylio'r busnes £100m sy'n cynnal ein gêm.

"Byddai'n gam a allai weld nifer y cyfarwyddwyr yn codi o 12 i 13."

Dywed Evans y byddai'r undeb hefyd yn ceisio cynyddu nifer y cyfarwyddwr annibynnol anweithredol ar y bwrdd o dri i bedwar - cam a fyddai hefyd angen o leiad 75% o'r bleidlais.

"Byddan ni'n ymweld â chlybiau a rhanbarthau i egluro'r hyn sydd gyda ni mewn golwg, ateb cwestiynau, gwrando a'r bryderon a'u lleddfu," ychwanegodd.

"Mae'r bwrdd yn credu mai gwelliannau llywodraethol yw'r ffordd gywir ymlaen i rygbi ac yn parhau'n ymroddedig i gymryd camau gwell i wella'r corff.

"Bydd yn diogelu ein dyfodol. Ymhell ar ôl fy nghyfnod i fel cadeirydd, byddai'r strwythurau ry'n ni eisiau eu gosod nawr yn dal yn dwy ffrwyth i'r holl gamp yng Nghymru.

"Mae angen i'n clybiau ddeall ein rhesymau dros newid a chynnydd gyda'r un eglurder â finnau a fy nghyd-aelodau o'r bwrdd.

"Ry'n ni'n hyderus taw dyma'r peth cywir i wneud ond dyw hynny ddim yn golygu bod hawl 'da ni i ddisgwyl aelodau i gytuno â ni.

"Arnom ni mae'r cyfrifoldeb i egluro ein dadleuon, cyflwyno casgliadau ein hadolygiad llywodraethiant diweddar a gadael iddyn nhw farnu a gweld gwerth [newid]."

Mae Evans hefyd yn gobeithio sicrhau mwy o amrywiaeth o fewn yr undeb, a fydd "yn cynnwys gofyn i aelodau basio cynigion i wella amrywiaeth rhywedd ein bwrdd a'n cyngor".

Dywedodd: "Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y maes yma gydag etholiadau diweddar, ond mae angen i ni adeiladu ar hynny yn 2023.

"Dylai ein bwrdd a'n cyngor fod mor gynrychioladol â phosib, a chyfrannu'n bositif at ddiwylliant sy'n hybu cydraddoldeb a chynhwysiad ac yn rhoi gwerth ar amrywiaeth."

Fe gododd cwestiynau ynghylch y diwylliant o fewn yr undeb pan ddaeth y cyn reolwr cyffredinol rygbi merched, Charlotte Wathan i"i gytundeb cyfeillgar" dros honiadau o anffafriaeth ar sail rhyw.

Roedd yna adroddiadau bod Wathan, a adawodd URC y llynedd, yn honni bod yna ddiffyg gweithredu wedi iddi roi gwybod i'r bwrdd llywodraethol am sawl digwyddiad anaddas honedig. Mae achos tribiwnlys oedd i fod i ddigwydd eleni bellach wedi ei dynnu'n ôl.

m Cymru a chytundeb rhanbarthol newydd

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Prif weithredwr URC Steve Phillips gyda'r prif hofforddwr newydd Warren Gatland a'r cadeirydd Ieuan Evans

Dywed Evans bod llwyddiant i'r tîm cenedlaethol ym mhencampwriaeth Cwpad y Byd yn Ffrainc a chwblhau cytundeb newydd gyda'r rhanbarthau yw blaenoriaethau 2023. Dyw chwaraewyr proffesiynol ddim yn gallu arwyddo cytundebau newydd yn swyddogol ar hyn o bryd.

"Mae gyda ni Warren [Gatland] yn ôl wrth y llyw o ran tîm y dynion a chytundeb newydd chwe blynedd ar lafar i sicrhau cynaliadwyedd a llwyddiant i'r gêm broffesiynol yng Nghymru," meddai.

"Rhaid troi'r consensws geiriol yma'r gytundeb ffurfiol, yn enwedig i roi'r hyder angenrheidiol i chwaraewyr yng Nghymru ac i'n gêm broffesiynol gynllunio a ffynnu yn gyffredinol.

"Ar ddechrau blwyddyn Cwpan y Byd i dîm dynion Cymru, mae gyda ni bob rheswm i fod yn optimistaidd at y dyfodol.

"Ry'n ni'n parhau i weithio'r galed ar osod y systemau cywir i gefnogi llwyddiant parhaus yn ein gêm broffesiynol ac yn ddiflino o ran sicrhau diogelwch i'n gêm gymunedol.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous. Mae Warren yn targedu llwyddiant yn syth yn Chwe Gwlad 2023 a Chwpan y Byd yn Ffrainc yn ddiweddarach eleni.

"Os gall unrhyw un gael effaith bositif yn syth, fe yw e ac mae wedi rhoi'r pwysau mwyaf posib ar ei hun trwy godi disgwyliadau o wirfodd.

"Ry'n ni eisiau iddo ennill bob gêm yn y Chwe Gwlad, yna i Gymru fynd trwy'r grŵp yng Nghwpan y Byd a mynd amdani yn y cymalau knockout, gan ysbrydoli'r genedl yn yr un ffordd ag yn 2011 a 2019.

"Rydym yn gosod disgwyliadau uchel, yn hytrach na safonau isafswm a meincnodau isel, ac mae Warren yna gyda ni."

Pynciau cysylltiedig