Richard Burton: 'Angen dathlu hanes Pont-rhyd-y-fen'

  • Cyhoeddwyd
Richard Burton a'i dadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae'r Bont Fawr yn rhodfa - gwnaed yn enwog oherwydd y llun yma o Burton gyda'i dad

Mae pobl leol yn casglu syniadau ar sut y dylid dathlu dwy garreg filltir bwysig yn hanes un gymuned yng Nghwm Afan.

Yn 2025, bydd Pont-rhyd-y-fen yn dathlu dau ben-blwydd pwysig, sef canrif ers genedigaeth ei fab enwocaf - yr actor Richard Burton - a 200 mlynedd ers i'r gwaith ddechrau ar bont yno.

Er gwaetha'r ffaith fod y pen-blwyddi ddwy flynedd i ffwrdd, mae sgyrsiau eisoes wedi dechrau am sut y dylid eu dathlu.

Bu farw seren enwocaf y pentref yn 1984 ag yntau ond yn 58 oed ac mae'n destun balchder i'r gymuned.

Disgrifiad,

Adroddiad Huw Thomas

Mae olion Richard Burton yn parhau i fod yn gryf, gan gynnwys cofeb sydd wedi tyfu'n wyllt ar dir y capel.

Bwriad trigolion lleol yw ei gwneud yn fan mwy hygyrch, gan hefyd ddatgelu mwy o hanesion y seren Hollywood o'i fagwraeth yn yr ardal, ei fywyd a'i yrfa.

Mae cyfarfod wedi'i gynllunio yn ddiweddarach y mis hwn i bobl gyflwyno syniadau.

Wedi'i eni yn y pentref ym 1925, aeth ymlaen i serennu yn y ffilmiau Cleopatra, Under Milk Wood gan Dylan Thomas a rhai o weithiau Shakespeare.

Fe briododd bum gwaith, gan gynnwys ddwywaith ag Elizabeth Taylor - am y tro cynta' rhwng 1964 ac 1974 ac wedyn eto rhwng 1975 ac 1976.

Fe wnaeth argraff ar bobl leol wrth ddychwelyd i'r ardal o Hollywood.

"Daeth yn ôl i weld Hilda, ei chwaer, a'i frawd... cwrddais ag Elizabeth Taylor [gwraig Burton], ond roeddwn i'n chwech a doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd hi," dywedodd Andrea Edwards.

"Fe arwyddodd fy albwm War of the Worlds."

Pont-rhyd-y-fen
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Burton ei blentyndod ym mhentref Pont-rhyd-y-fen

Fel cadeirydd Cynllun Lles Glowyr Pont-rhyd-y-fen, mae Andrea eisiau i "bawb ddod at ei gilydd" yn yr ardal i "gasglu yr holl straeon" amdano.

Byddai hyn, meddai, yn dogfennu nid yn unig cysylltiadau'r actor â'r ardal, ond hefyd straeon am sut y mae bywyd wedi newid yn y 100 mlynedd ers iddo gael ei eni - gan gynnwys y diwydiant sydd wedi diflannu, tafarndai sydd wedi cau a'r corau a'r band pres nad yw'n chwarae mwyach.

'Cyflwr ofnadwy'

Mae cofeb i Burton yn y pentref, er iddo gael ei gladdu yn y Swistir.

Ond roedd hwn wedi "gordyfu" ac "mewn cyflwr ofnadwy", yn ôl y pentrefwr David Hutchison, cyn gwaith i'w adfer y llynedd.

Cofeb Richard BurtonFfynhonnell y llun, David Hutchison

"Mae nifer o ffans Richard Burton yn ymweld â Phont-rhyd-y-fen bob blwyddyn ac yn dymuno gweld y gofeb," meddai.

"Mae'n eithaf siomedig eu bod nhw'n gweld y fath lanast."

Mae Mr Hutchison a'i wraig wedi helpu i gynnal mynediad i'r gofeb, ond gyda dau ben-blwydd mawr ar y gorwel mae'n credu y dylai'r awdurdodau wneud y garreg fedd yn gonglfaen y dathliadau.

'Dylen ni hyrwyddo'r pethau hyn'

Fodd bynnag, gyda'r fynwent ar dir hen gapel sydd bellach yn eiddo preifat, dywedodd cyngor Castell-nedd Port Talbot nad oes modd iddynt ofalu amdano.

Mae cynghorydd ward Cimla a Pelenna, Jeremy Hurley, wedi siarad â'r perchennog ac wedi trafod y posibilrwydd o wirfoddolwyr yn trefnu sesiynau clirio.

Ond mae'n credu y dylid hefyd ddathlu cawr arall o'r ardal gyda'r dyn yr oedd yn gysylltiedig ag ef.

Burton a Taylor yn 1967
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Richard Burton yn briod gyda Elizabeth Taylor ddwywaith

Mae'n bron i 200 mlynedd ers i'r gwaith ddechrau ar adeiladu'r Y Bont Fawr, sef traphont oedd yn darparu dŵr i ffwrneisi Cwmafan.

Erbyn hyn mae'n rhodfa a'i wnaed yn enwog oherwydd llun o Burton a ymddangosodd mewn cylchgronau a phapurau newydd ledled y byd.

"Y Bont Fawr a Richard Burton, rydyn ni'n teimlo fel pentref y dylen ni hyrwyddo'r pethau hyn a chael y gymuned at ei gilydd," meddai Mr Hurley.

"Mae cymaint o hanes, rydym wedi'n hamgylchynu gan dreftadaeth. Efallai nad ydym yn cymryd y cyfle llawn i ddathlu hyn.

Richard Burton a'i dadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Burton gyda'i dad, Richard Jenkins yn y Colliers Arms, Pontrhydyfen yn 1953.

"Rydyn ni'n aml yn cael llawer o bobl ar fysiau sydd eisiau ail-greu'r llun eiconig o Burton gyda'i dad ar y draphont ddŵr."

Fel ei dad, bu farw Burton o waedlif ar yr ymennydd. Bu farw yn ei gartre' ym mis Awst 1984.

Ond wrth i ganmlwyddiant ei eni agosáu, efallai mai'r straeon sydd dal yn fyw ym meddyliau rhai pobl leol fydd yn helpu i beintio'r darlun gorau o'r bachgen lleol a drodd yn seren Hollywood.