Rhagor o oedi i gynlluniau ffordd osgoi Llandeilo

  • Cyhoeddwyd
Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Y farn gyffredinol yw bod y traffig yn broblem yn nhref Llandeilo

Fe fydd yna oedi pellach cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi yn nhref Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.

Mae Adam Price, yr aelod lleol yn Senedd Cymru, wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "hollol annerbyniol" ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd cyhoeddiad yn y gwanwyn.

Mae lorïau mawr i'w gweld a'u clywed yn gyson yn Llandeilo a'r farn gyffredinol yw bod y traffig yn broblem, gyda rhieni'n poeni am ddiogelwch eu plant ar ffordd mor brysur.

'Chi'n mynd nôl i 1938'

Yn ôl y Cynghorydd Annibynnol Edward Thomas, sy'n cynrychioli Llandeilo a Dyffryn Cennen, mae pobl leol a busnesau wedi bod yn galw am weithredu ers degawdau.

"Chi'n mynd nôl i 1938. Ro'n nhw'n siarad nôl yn 1938 am y 'Llandeilo relief road'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae galw am weithredu wedi bod ers blynyddoedd maith, medd Edward Thomas sy'n gynghorydd annibynnol

Dros gyfnod y Nadolig mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfarfodydd pellach ynglŷn â'u cynlluniau, heb gyhoeddi pa gynnig sy'n cael ei ffafrio.

Mae tri allan o bedwar cynllun posib yn cynnwys adeiladu ffordd osgoi fyddai'n cymryd traffig i'r dwyrain o'r dref, gan ddilyn llwybr yr hen reilffordd cyn ymuno â'r A40 i'r gogledd o Landeilo.

Mae yna gynllun arall hefyd, ond mae'r Cynghorydd Edward Thomas yn erbyn hwnnw.

"Mae pedwar opsiwn, ac yn yr ymgynghoriad, roedd un yn cynnwys dim by-pass, a rhoi goleuadau traffig yng nghanol y dref a siarad am ddargyfeirio traffig. Dyw hynny ddim yn mynd i weithio."

'Cyhoeddiad yn y gwanwyn'

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cwrdd â swyddogion o Gyngor Sir Gaerfyrddin wythnos cyn y Nadolig i drafod sawl opsiwn er mwyn mynd i'r afael â phryderon ynglŷn â'r traffig.

Y disgwyl nawr yn ôl y datganiad "yw y bydd yna gyhoeddiad pellach yn y gwanwyn".

Disgrifiad o’r llun,

Fflur Davies: "Ni'n gweld effaith yr holl draffig"

I fusnesau, mae'r holl aros erbyn hyn wedi troi'n rhwystredigaeth lwyr, meddai Fflur Davies sy'n gweithio yn Siop Igam Ogam.

"Y prif bwynt yw i gael llai o lorïau yn dod trwy'r dref. Maen nhw'n dod â llygredd i'r ardal sy'n cael effaith ar yr amgylchedd.

"Hwnna yw'r peth mwyaf, a diogelwch pobl y dref hefyd sy'n cerdded ar hyd y stryd fawr yma ac ymweld â'r siopau lleol. Ni'n gweld effaith yr holl draffig."

'Rhaid iddyn nhw ddelifro ar yr addewid'

Chwe blynedd yn ôl fel rhan o gytundeb gyda Phlaid Cymru, cytunodd gweinidogion Llafur y byddai ffordd osgoi yn cael ei chodi.

Ers hynny, mae'r cynlluniau wedi cael eu gohirio droeon.

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price: "Mae'r oedi parhaus ry'n ni'n gweld i'r prosiect yma yn hollol annerbyniol"

Er bod 'na bedwar cynllun yn cael eu hystyried o hyd, mae'r AS lleol yn y Senedd ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dal i bwyso am amserlen.

"Mae'r oedi parhaus ry'n ni'n gweld i'r prosiect yma yn hollol annerbyniol. Mae clywed bod yna fwy o oedi erbyn hyn ar ôl addewid i gyhoeddi pa un o'r opsiynau mae nhw'n ffafrio unwaith eto yn mynd i greu mwy o rwystredigaeth."

Mae Plaid Cymru wedi arwyddo cytundeb cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru ac am bwyso nawr, meddai Mr Price, i sicrhau y bydd y cynlluniau yma ar ôl hir aros yn cael eu gweithredu.

"Nawr, mae'n rhaid iddyn nhw ddelifro ar yr addewid maen nhw wedi ei wneud.

"Mae'r prif weinidog ei hun yn dweud ei fod e yn bersonol a'r llywodraeth yn cadw at eu gair a mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwneud hynny."

Pynciau cysylltiedig