Y Gynghrair Genedlaethol: Solihull 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth goliau Jordan Tunnicliffe a Tom O'Connor sicrhau fod Wrecsam yn curo Solihull ddwywaith o fewn saith diwrnod gan gadw'r pwysau ar Notts County ar frig y Gynghrair Genedlaethol ar yr un pryd.
Daeth y fuddugoliaeth o 2-1 yn dilyn crasfa 5-0 ar y Cae Ras ddydd Llun, 26 Rhagfyr.
Bu'r golgeidwad Mark Howard yn brysur ddechrau'r gêm yn arbed o ymdrech Justin Donawa ond aeth Wrecsam ar y blaen wrth i Tunnicliffe benio o groesiad Elliot Lee.
Cic rydd wych O'Connar wnaeth ymestyn y fantais yn yr ail hanner a daeth gôl gysur Solihull drwy Ryan Bennett ar ddiwedd y 90 munud.
Dywedodd rheolwr Wrecsam Phil Parkinson: "Fe wnaeth Solihull ddechrau yn gryf, ond yna fe wnaethom afael ar y gêm a sgorio.
"Roedd yn rhaid gweithio'n galed i sicrhau'r fuddugoliaeth."